Bydd Trwyddedu Teledu yn adrodd ar nifer y trwyddedau teledu ‘mewn grym’ ar ôl diwedd pob mis, gan fod union nifer y trwyddedau mewn grym yn amrywio o ddydd i ddydd ac o fis i fis. Mae’r rhesymau dros hyn yn cynnwys prynu trwyddedau newydd, Trwyddedu Teledu yn canslo o ganlyniad i fethu talu, cwsmeriaid eu hunain yn canslo am nifer o resymau fel symud tŷ, neu oedi cyn adnewyddu trwydded lle bydd trwydded yn dod i ben cyn cael ei hadnewyddu mewn mis gwahanol.
Cyfanswm nifer y trwyddedau mewn grym yn y Deyrnas Unedig yn 2021/22*
Blwyddyn ariannol | Nifer y trwyddedau mewn grym |
---|---|
Ebrill 2021 | 25,244,330** |
Mai 2021 | 25,276,650** |
Mehefin 2021 | 24,307,550** |
Gorffennaf 2021 | 25,327,960** |
Awst 2021 | 24,747,240 |
Medi 2021 | 24,876,710 |
Hydref 2021 | 24,920,480 |
Tachwedd 2021 | 24,950,800 |
Rhagfyr 2021 | 24,938,140 |
Ionawr 2022 | 24,938,060 |
Chwefror 2022 | 24,956,490 |
Mawrth 2022 | 24,906,400 |
Gall fod angen mwy nag un drwydded ar gyfer cyfeiriad (e.e. llety myfyrwyr). Felly, nifer y trwyddedau a ddangosir fan hyn, yn hytrach na nifer y cyfeiriadau sydd â thrwydded. Nid yw'n hawdd tynnu nifer y cartrefi a safleoedd busnes sydd â Thrwyddedau Teledu o gyfanswm nifer y trwyddedau sydd mewn grym, oherwydd nid yw gwybodaeth o'r fath yn cael ei chofnodi'n benodol ar gyfer pob trwydded.
*Amcangyfrifon yw’r ffigurau hyn o nifer y trwyddedau mewn grym a chawsant eu talgrynnu i’r deg agosaf.
Mae Bwrdd Ymchwil Cynulleidfa Darlledwyr (BARB) yn darparu data ar gartrefi sydd â theledu ac ar gartrefi sy’n defnyddio dyfeisiau nad ydynt yn deledu i wylio teledu. Yna gwneir addasiadau i'r data hwn i nodi'r cartrefi hynny y mae angen trwydded arnynt. Ym mis Mawrth 2022, mae ystadegau yn dangos y gall tua 92% o gartrefi’r Deyrnas Unedig fod yn drwyddedadwy.
Ar 31 Mawrth 2022, cofnodwyd bod gan 274,010 o gyfeiriadau ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu fwy nag un Drwydded Deledu. Mae yna achosion ble mae’n gyfreithlon i gael mwy nag un drwydded mewn cyfeiriad, e.e. ar gyfer llety i fyfyrwyr. Mewn achosion eraill, gall cyfeiriadau gael eu cofnodi dros dro fel rhai sydd â mwy nag un drwydded oherwydd bod y sawl sy’n talu am y drwydded wedi symud.
*Cafodd ffigurau eu talgrynnu i’r deg agosaf.
Ar 31 Mawrth 2022, roedd yna 4,200 o Drwyddedau Teledu du a gwyn (mono) mewn grym.
*Cafodd ffigurau eu talgrynnu i’r deg agosaf.
Ni all y BBC ryddhau data personol am bobl eraill (yn cynnwys enwau neu gyfeiriadau) gan y byddai gwneud hynny yn torri cyfraith diogelu data. Cesglir gwybodaeth a’i chadw i ddibenion gweinyddu’r system Trwyddedu Teledu, nid i ddibenion eraill amherthnasol.
Mae’r rhan fwyaf o leoliadau’r BBC wedi eu cwmpasu gan beth a elwir yn ‘aml drwydded’, sef trwydded a gynlluniwyd ar gyfer sefydliadau mawr gyda safleoedd lluosog. Ym mlwyddyn ariannol 2021/22, prynwyd 113 o drwyddedau dan aml drwydded y BBC.
Nid yw gwybodaeth a gedwir gan is-gwmnïau masnachol y BBC (BBC Resources Ltd, UKTV, BBC World News Ltd a BBC Worldwide Ltd) wedi ei chynnwys yn yr ystadegau hyn gan nad yw’n ddarostyngedig i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae data am nifer y Trwyddedau Teledu sy’n cael eu canslo yn cael ei adrodd bob mis ac mae’n ymwneud â thrwyddedau mewn grym lle cafodd y drwydded ei chanslo gan Drwyddedu Teledu o ganlyniad i fethu talu a chan gwsmeriaid eu hunain. O ganlyniad, ni ellir cymryd y ffigurau hyn i olygu nifer y trwyddedau a gafodd eu canslo gan gwsmeriaid yn unig.
Isod dangosir nifer y trwyddedau mewn grym a gafodd eu canslo bob mis ym mlwyddyn ariannol 2020/21.
* Mae rheolwyr Trwyddedu Teledu yn cyfeirio at rai achosion o ganslo fel dirwyn i ben, gan ddibynnu ar amgylchiadau’r canslo, ac nid yw’r rhain yn cael eu hadrodd fel trwyddedau wedi’u canslo.
Hefyd, gall ffigurau gael eu hailddatgan yn dilyn archwiliadau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly fe all ffigurau a ryddheir yn flaenorol dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gael eu hadolygu.
Ebrill 2021 | 69,390 |
Mai 2021 | 62,230 |
Mehefin 2021 | 75,120 |
Gorffennaf 2021 | 80,240 |
Awst 2021 | 76,240 |
Medi 2021 | 73,520 |
Hydref 2021 | 68,920 |
Tachwedd 2021 | 68,200 |
Rhagfyr 2021 | 65,270 |
Ionawr 2022 | 73,950 |
Chwefror 2022 | 70,420 |
Mawrth 2022 | 74,170 |
*Cafodd ffigurau eu talgrynnu i’r deg agosaf.
Mae ffi'r Drwydded Deledu - gan gynnwys consesiynau a symiau talu - wedi ei rhagnodi gan y Senedd dan Reoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y’u diwygiwyd). Nid yw’r BBC yn gyfrifol am y materion hyn. Efallai yr hoffech gysylltu ag asiantaeth y llywodraeth sy’n gyfrifol am ddarlledu yn y Deyrnas Unedig - yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon – i drafod unrhyw faterion yn ymwneud â’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y ffi drwyddedu. Cyfeiriad yr Adran yw 100 Parliament Street, Llundain, SW1A 2BQ.
Rydym yn cydnabod y gall rhai pobl gael anhawster talu am eu Trwydded Deledu mewn un taliad. Mae cynllun taliadau arian parod ar gael i ganiatáu ar gyfer talu’r ffi drwyddedu mewn rhandaliadau hwylus. Gall taliadau (gydag arian parod, cerdyn debyd neu gerdyn credyd) fod am gyn lleied â £6 yr wythnos.
Gall pobl gynilo hefyd tuag at dalu eu trwydded nesaf yn defnyddio cerdyn cynilo Trwyddedu Teledu.
Mae Trwyddedu Teledu yn gweithio’n agos gyda grwpiau cyngor ariannol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau fod gwybodaeth am ddulliau talu hyblyg yn cyrraedd y rhai allai elwa o hyn.
Ceir gwybodaeth ar y mathau o gonsesiynau a sut allwch chi ymgeisio amdanynt isod:
Nid yw staff y BBC yn gymwys i gael trwydded ostyngol na Thrwydded Deledu am ddim trwy rinwedd y ffaith eu bod yn gweithio i’r BBC.
Mae staff y BBC yn gymwys ar gyfer yr un consesiynau â phawb arall. Mae pobl ddall neu â nam difrifol ar eu golwg yn gymwys i gael consesiwn o 50% ar y ffi drwyddedu, a phobl 75 mlwydd oed neu drosodd sy’n derbyn Credyd Pensiwn. Nid oes gan y BBC restr o aelodau staff sy’n derbyn consesiynau ar eu trwydded.
Ar 1af Awst 2020, fe gyflwynwyd cynllun newydd. Dan y cynllun newydd, bydd unrhyw un 75 mlwydd oed neu drosodd sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn gymwys o hyd i gael Trwydded Deledu am ddim y bydd y BBC yn talu amdani. Mewn cartrefi lle nad oes neb 75 mlwydd oed neu drosodd sy’n derbyn Credyd Pensiwn, bydd raid prynu trwydded os oes angen un.
Mae gwybodaeth bellach ar gael trwy ddilyn y ddolen ganlynol i wefan y BBC:
https://www.bbc.com/aboutthebbc/reports/consultation/age-related-tv-licence-policy
Nid yw’r BBC yn casglu gwybodaeth ar nifer y bobl y flwyddyn sy’n cyrraedd 75 oed ac yn dod yn gymwys i gael Trwydded Deledu dros 75 am ddim. Efallai y byddai’r ffigurau hyn ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ar ddiwedd Mawrth 2022, roedd 1.034 miliwn o Drwyddedau Teledu wedi’u hariannu gan y BBC mewn grym. Mae’r rhain yn ymwneud yn bennaf â thrwyddedau am ddim a roddir i unrhyw un dros 75 sy’n derbyn Credyd Pensiwn. Mae deiliaid trwydded sydd dros 75 ac yn preswylio mewn llety gofal preswyl (ARC) neu gynllun ARC gyda Hawliau a Gedwir yn gymwys i gael trwydded am ddim hefyd. Ar gyfer Dibyniaethau’r Goron, gwnaed trefniadau cyfwerth, gan ddechrau o 1 Ionawr 2021, ar sail budd-daliadau lleol. Mae hyn hefyd yn cynnwys yr hyn a ddarparwyd yn yr Hysbysiad Cyffredinol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020 fel rhan o’r newid i’r trefniadau newydd ar gyfer y polisi Dros 75.
Mae’n wybodaeth hon ar gael hefyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC