dcsimg

Fframwaith cyfreithiol

Pam mae arna’i angen Trwydded Deledu?

Mae Trwydded Deledu yn ganiatâd cyfreithiol i osod neu ddefnyddio offer derbyn teledu i wylio’n fyw ar unrhyw sianel, gwasanaeth teledu neu wasanaeth ffrydio, a defnyddio BBC iPlayer*. Gallai hyn fod ar unrhyw ddyfais. Mae hyn yn berthnasol ni waeth pa sianeli teledu y bydd unigolyn yn eu derbyn neu sut bydd y sianeli hynny’n cael eu derbyn. Nid taliad am wasanaethau’r BBC (nac am unrhyw wasanaeth teledu arall) yw ffi’r drwydded, er y bydd refeniw ffi’r drwydded yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r BBC.

Mae’r gofyniad i gael Trwydded Deledu a thalu ffi amdani wedi’i awdurdodi gan y gyfraith dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 a Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y’u diwygiwyd). Mae’n drosedd dan adran 363 Deddf Cyfathrebu 2003 i wylio’n fyw ar unrhyw sianel, gwasanaeth teledu neu wasanaeth ffrydio, neu ddefnyddio BBC iPlayer* ar unrhyw ddyfais, heb Drwydded Deledu ddilys.

Mae Adran 365 y Ddeddf honno’n mynnu bod rhaid i unigolyn sy’n derbyn Trwydded Deledu dalu ffi i’r BBC. Mae swm y ffi yma a’r ffyrdd y gellir ei thalu (fel lwmp-swm neu mewn rhandaliadau) yn cael ei bennu yn Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y’u diwygiwyd).

Ers 1991, mae’r BBC, yn ei rôl fel yr awdurdod trwyddedu perthnasol, wedi bod yn gyfrifol am gasglu a gorfodi ffi’r Drwydded Deledu. Bydd y BBC yn contractio cwmnïau i gwblhau’r gwaith hwn o dan nod masnach ‘Trwyddedu Teledu’ y BBC. Rhaid i’r BBC (a chontractwyr sy’n gweithredu ar ei ran) gydymffurfio â’r gyfraith wrth gasglu a gorfodi ffi’r drwydded. Mae Siarter y BBC yn mynnu hefyd fod Bwrdd y BBC yn sicrhau bod y trefniadau hyn yn briodol, yn gymesur ac yn effeithlon.

Mae deddfwriaeth ar drwyddedu teledu ar gael yn legislation.gov.uk (yn agor mewn ffenest newydd)

*Nid oes angen trwydded i wylio rhaglenni S4C ar alw.

 
Ble mae cyfraith Trwyddedu Teledu yn berthnasol?

Mae’r gyfraith sy’n galw am Drwydded Deledu ar gyfer defnyddio neu osod offer derbyn teledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu, neu lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon), Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

A oes angen Trwydded Deledu i fod yn berchen ar set deledu?

Does arnoch ddim angen Trwydded Deledu i fod yn berchen ar set deledu na meddiannu set deledu. Fodd bynnag, os ydych yn ei defnyddio i wylio neu recordio rhaglenni wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein, neu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer, yna mae arnoch angen Trwydded Deledu i wneud hynny.

Pam ddylwn i dalu am Drwydded Deledu pan ydw i eisoes yn tanysgrifio i wasanaeth teledu lloeren (neu gebl)?

Mae’r gofyniad i gael Trwydded Deledu a thalu ffi amdani wedi’i awdurdodi gan y gyfraith dan Deddf Cyfathrebu 2003 a Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y’u diwygiwyd). Mae arnoch angen Trwydded Deledu ni waeth pa ddyfais rydych yn ei defnyddio i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein, neu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer. Mae hyn yn cynnwys setiau teledu, cyfrifiaduron bwrdd gwaith, gliniaduron, ffonau symudol, tabledi, consolau gemau, bocsys digidol, peiriannau recordio DVD, Blu-ray a VHS. Hyd yn oed os ydych yn cyrchu BBC iPlayer trwy ddarparwr arall, fel Sky, Virgin, Freeview neu BT, rhaid i chi gael trwydded.

Mae’r BBC, trwy Drwyddedu Teledu, yn cyflawni’r dyletswyddau statudol a orfodir arno gan y gyfraith uchod i gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu ffi’r drwydded.

Nid yw’r gofynion cyfreithiol am Drwydded Deledu a ffi yn faterion y mae gan y BBC (a Thrwyddedu Teledu) unrhyw reolaeth drostynt. Dylech gyfeirio unrhyw sylwadau sydd gennych am y fframwaith cyfreithiol ar gyfer trwyddedu teledu at adran berthnasol y llywodraeth, sef yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 100 Parliament Street, Llundain SW1A 2BQ.

A oes arna’i angen Trwydded Deledu os na fyddaf yn gwylio rhaglenni’r BBC?

Mae Trwydded Deledu yn ganiatâd cyfreithiol i osod neu ddefnyddio offer teledu i dderbyn (h.y. gwylio neu recordio) rhaglenni teledu, wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein, a lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer. Mae hyn yn berthnasol ni waeth a ydych yn gwylio gwasanaeth gan y BBC neu sianel darparwr arall, pa ddyfais rydych yn ei defnyddio (teledu, cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, ffôn symudol, tabled neu unrhyw ddyfais arall), a sut rydych yn eu derbyn (daearol, lloeren, cebl, dros y rhyngrwyd neu mewn unrhyw ffordd arall).

Nid yw ffi’r drwydded yn danysgrifiad i wylio rhaglenni’r BBC, ond mae wedi ei hawdurdodi dan y gyfraith. Dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, mae gan y BBC yn ei rôl fel awdurdod trwyddedu ddyletswydd i gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu ffi’r drwydded.

A yw’n anghyfreithlon gwylio neu recordio teledu ar liniadur, cyfrifiadur, ffôn symudol neu unrhyw ddyfais arall heb Drwydded Deledu?

Os byddwch yn defnyddio gliniadur (neu unrhyw ddyfais arall) i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein, neu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer, yna, yn ôl y gyfraith, mae arnoch angen Trwydded Deledu ac rydych yn cyflawni trosedd os nad oes gennych drwydded.

A oes arnoch angen Trwydded Deledu i wylio sioeau ar BBC iPlayer?

Mae arnoch angen Trwydded Deledu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer. Mae hyn yn berthnasol i bob dyfais, gan gynnwys teledu clyfar, cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, ffôn symudol, tabled, bocs digidol neu gonsol gemau. Hyd yn oed os byddwch yn cyrchu BBC iPlayer trwy ddarparwr arall, fel Sky, Virgin, Freeview neu BT, rhaid i chi gael trwydded.

Dyma fwy o wybodaeth am y gyfraith mewn perthynas â BBC iPlayer.

A yw sianeli +1,+2 a+24 yn cael eu hystyried yn ddarllediadau teledu byw, ac felly angen Trwydded Deledu i’w gwylio neu a yw’r sianeli hyn yn cyfrif fel gwasanaethau ar alw?

Mae sianel +1, +2 a +24 yn “ddarllediad teledu byw” ynddo’i hun. Mae’r term “darllediad teledu byw” yn cyfeirio at wylio unrhyw wasanaeth rhaglen deledu wrth iddo gael ei ddangos ar y teledu. Mae sianel +1, +2 a +24 yn wasanaeth rhaglen deledu ac mae ar unrhyw un sy’n gwylio neu’n recordio rhaglen deledu wrth iddi gael ei dangos ar deledu angen Trwydded Deledu. Mae hyn yn golygu bod arnoch angen Trwydded Deledu ni waeth pa sianeli teledu rydych yn eu derbyn a sut rydych yn eu derbyn (daearol, lloeren, cebl a thros y rhyngrwyd).

A oes angen Trwydded Deledu ar gyfer gwrando ar ddarllediadau radio digidol?

Does arnoch ddim angen Trwydded Deledu os ydych yn defnyddio’r offer yma’n unig i wrando ar ddarllediadau radio digidol (gan gynnwys ar BBC Sounds).

Mae angen Trwydded Deledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein, neu lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer. Mae hyn yn berthnasol ni waeth pa sianel a dyfais sy’n cael eu defnyddio, a sut mae’n cael ei dderbyn (daearol, lloeren, cebl, dros y rhyngrwyd neu mewn unrhyw ffordd arall).

A yw cyhoeddi Trwydded Deledu yn dod dan gyfraith defnyddwyr?

Nid yw cyhoeddi Trwydded Deledu yn gyfystyr â gwerthu nwyddau neu wasanaethau ac nid yw’n dod dan gyfraith defnyddwyr.

Wrth gyhoeddi Trwydded Deledu, mae’r BBC fel yr awdurdod trwyddedu perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth statudol ac mae hawliau a rhwymedigaethau deiliad y drwydded wedi’u llywodraethu gan statud. Mae’r berthynas rhwng y BBC a deiliad y drwydded yn ddarostyngedig i rwymedïau yn y gyfraith gyhoeddus; nid yw’n berthynas gytundebol sy’n rhoi cychwyn i hawliau a rhwymedigaethau cyfraith breifat.