dcsimg

Gweinyddu ffi’r Drwydded

Cronfa ddata a rheoli data Trwyddedu Teledu

A yw’n gyfreithlon i Drwyddedu Teledu brosesu data amdanaf heb fy nghaniatâd?

Dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, y BBC yw’r awdurdod cyhoeddus cyfrifol am gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Mae’n angenrheidiol i’r BBC brosesu data personol i gyflawni’r swyddogaethau statudol hyn. Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn sefydlu’r seiliau cyfreithlon dilys y gall sefydliadau brosesu data personol arnynt, oni bod fod eithriad yn gymwys o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Er bod caniatâd unigolyn yn un o’r seiliau hyn o dan y GDPR, sail gyfreithlon arall yw fod y prosesu yn angenrheidiol er mwyn cynnal swyddogaeth statudol. Mae Trwyddedu Teledu yn prosesu data personol, ar ran y BBC, i gydymffurfio â swyddogaeth statudol y BBC o gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu ffi’r drwydded.

Dan y GDPR, mae’r BBC yn ‘rheolydd data’ ac yn pennu’r diben a dull prosesu data personol. Ni ellir defnyddio data personol a gedwir gan y BBC a’i gontractwyr Trwyddedu Teledu i ddiben gweinyddu’r system trwyddedu teledu ar gyfer unrhyw ddiben arall, oni bai fod hyn yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu yn benodol dan y gyfraith.

Sut mae Trwyddedu Teledu yn gofalu am ddata personol?

Mae’r BBC a Thrwyddedu Teledu yn ystyried fod diogelwch yr wybodaeth a ymddiriedir i ni yn fater difrifol iawn, ac mae gennym set gynhwysfawr o fesurau rheoli ar waith i’w diogelu. Mae ein strategaeth Diogelwch Gwybodaeth yn cynnwys mesurau rheoli polisi, gweithdrefnol, technegol ac addysgol, ac mae pob aelod staff yn cael ei atgoffa’n rheolaidd o’i gyfrifoldebau.

Ni fydd data personol a gedwir gan Drwyddedu Teledu yn cael ei datgelu i unrhyw un tu allan i Drwyddedu Teledu oni bai fod hyn yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu dan y gyfraith. O bryd i’w gilydd bydd Trwyddedu Teledu yn cael ceisiadau o’r fath gan yr heddlu ac asiantaethau’r llywodraeth. Wrth asesu ceisiadau o’r fath, rydym yn ystyried buddiannau dilys yr asiantaethau hyn o brosesu’r data personol yn ogystal â hawliau a phreifatrwydd gwrthrych y data o dan y GDPR.

Ceir rhagor o wybodaeth ar sut mae Trwyddedu Teledu yn delio â data personol yn Polisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu.

Sylwer hefyd nad oes rhaid i’r BBC gydymffurfio â cheisiadau a wneir dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am ddata personol. Mae Adran 40 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn darparu nad oes rhaid i sefydliad gydymffurfio â chais os yw’r wybodaeth a geisir yn ddata personol ac y byddai ei ddatgelu yn groes i gyfraith diogelu data. Mae’r BBC wedi atal datgelu gwybodaeth yn flaenorol dan yr eithriad hwn ar sawl achlysur.

A yw’r BBC neu Drwyddedu Teledu yn gwerthu fy nata personol i unrhyw sefydliad arall?

Nac ydym.

A yw fy nata wedi ei ddiogelu dan y cytundebau rhwng contractwyr y BBC ac isgontractwyr?

Ydy. Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol i gyflawni unrhyw waith prosesu data personol (gan gynnwys datgeliad) ar ran y rheolydd data dan gontract ysgrifenedig sy’n gofyn i brosesu o’r fath gael ei gyflawni ar gyfarwyddiadau’r rheolydd data yn unig. Caiff contractwyr Trwyddedu Teledu’r BBC ddatgelu data personol i’w cyflogeion a chyflogeion eu hisgontractwyr, ond maent yn dal yn gyfrifol am eu cydymffurfiad â GDPR a rhwymedigaethau cytundebol perthnasol.

A oes gan fanwerthwr PayPoint fynediad at fy nata personol?

Os bydd rhywun yn prynu Trwydded Deledu am y tro cyntaf mewn safle PayPoint, bydd y manwerthwr yn gofyn am enw a chyfeiriad yr unigolyn, ac yn gwirio hyn ar system “edrych i fyny” sy’n rhoi mynediad at enwau a chyfeiriadau yn unig ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu.

Os bydd rhywun yn adnewyddu Trwydded Deledu mewn safle PayPoint, yna bydd y manwerthwr yn prosesu’r trafodiad ac ni fydd angen mynediad i unrhyw ddata personol.

O ble'r ydych yn cael yr wybodaeth a gedwir ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu, a sut ydych chi’n sicrhau fod yr wybodaeth yn gywir a chyfredol?

Mae cronfa ddata cyfeiriadau Trwyddedu Teledu yn un o’r mwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig heddiw. Mae gwybodaeth a gedwir ar y gronfa ddata yn cael ei diweddaru’n barhaus i sicrhau ei bod mor gywir â phosib ar unrhyw adeg.

Mae Trwyddedu Teledu yn dibynnu ar unigolion i’n hysbysu os nad yw eu manylion yn gywir neu os yw eu hamgylchiadau wedi newid. Mae Trwyddedu Teledu hefyd yn defnyddio ffynonellau data allanol fel Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol, gan dderbyn diweddariadau dyddiol (ar sail pwyntiau danfon y post sy’n newid yn barhaus wrth i eiddo newydd gael ei godi, ac wrth i eiddo sy’n bodoli eisoes gael ei ddymchwel neu bod newid defnydd yn digwydd).

Hefyd, bydd ein swyddogion ymweld yn ymweld â chyfeiriadau i gadarnhau a yw'r eiddo wedi ei feddiannu. Mae Trwyddedu Teledu hefyd yn cyfeirio’n ôl at y Post Brenhinol ynghylch unrhyw gyfeiriad (h.y. pwynt danfon) ble mae ansicrwydd (e.e. ble mae dau eiddo cyfagos oedd yn arfer bod ar wahân wedi’u troi’n un eiddo).

Mae Trwyddedu Teledu yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gronfa ddata yn gywir ac y gyfredol. Fodd bynnag, mewn cronfa ddata o’r maint hwn – sy’n cynnwys dros 33 miliwn o gyfeiriadau – mae’n anochel y bydd rhai gwallau’n digwydd. Wedi eu nodi, unionir yr anghysonderau hyn cyn gynted â phosibl.

Pa wybodaeth am hanes talu mae cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn ei storio?

Mae system cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cadw manylion taliadau diweddar a wnaed gan ddefnyddio debyd uniongyrchol, cerdyn credyd neu ddebyd, siec neu archeb bost (rhannol neu lawn); neu trwy unrhyw safle PayPoint. Cedwir cofnodion talu manylach ar gyfer pobl sy’n talu ar gynlluniau arian parod, gan y bydd pob taliad yn cael ei gofnodi.

Pam mae Trwyddedu Teledu yn gofyn am rifau ffôn?

Ym mhrofiad Trwyddedu Teledu, mae nifer o ddeiliaid trwydded yn gwerthfawrogi galwad ffôn os bydd problem â’u taliad. Fodd bynnag, nid oes raid i unrhyw un ddarparu’r wybodaeth hon.

Fel arfer ni fyddwn yn ffonio cwsmeriaid heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, a byddwn bob amser yn dweud pwy ydym ni.

Pa wybodaeth a gedwir gan Drwyddedu Teledu am yr unigolion sy’n talu’r ffi?

Mae system cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cadw (yn unol â chyfraith diogelu data a Chytundeb y BBC gyda’r Swyddfa Gartref) yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer, neu sy’n berthnasol i, weinyddu’r system trwyddedu teledu yn unig.

A yw Trwyddedu Teledu yn prosesu data personol pobl sydd wedi rhoi gwybod i chi nad oes ganddynt deledu?

Ym mis Mawrth 2023, roedd ystadegau yn dangos y gall tua 91.5% o gartrefi’r Deyrnas Unedig fod yn drwyddedadwy. Felly mae’n rhesymol i Drwyddedu Teledu ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau didrwydded i gadarnhau a oes angen Trwydded Deledu. Mae Trwyddedu Teledu yn gweithio ar sail y dybiaeth fod pob cartref yn y Deyrnas Unedig angen Trwydded, ac felly byddwn yn ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau lle nad oes cofnod o Drwydded neu bod gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn anhysbys.

Pan fydd unigolyn yn hysbysu Trwyddedu Teledu nad yw angen Trwydded, fe nodir hyn ar ein cronfa ddata a rhoddir ataliad ar unrhyw ohebiaeth bellach am gyfnod o amser. Efallai y bydd swyddog ymweld yn mynd draw i’r cyfeiriad i wirio nad oes angen Trwydded.

Nid oes unrhyw orfodaeth i unrhyw un roi data personol i ni er ein bod yn gofyn am enwau pobl er mwyn cadw ein cronfa ddata yn gyfredol. Bydd mesurau gorfodi yn cael eu cymryd mewn cyfeiriadau os bydd angen, ni waeth a oes enw’n gysylltiedig â’r cyfeiriad hwnnw ai peidio, er bod defnyddio enwau o gymorth i ni ddiweddaru’r gronfa ddata.

Pwy gynlluniodd system cronfa ddata Trwyddedu Teledu a sut mae’n gweithredu?

Cynlluniwyd system cronfa ddata Trwyddedu Teledu gan Swyddfa’r Post ac mae’r system yn cael ei chynnal gan Capita Business Services Limited (Capita) ar hyn o bryd, cwmni a gontractiwyd gan y BBC i weinyddu’r rhan fwyaf o Drwyddedu Teledu. Y BBC yw perchennog yr hawliau eiddo deallusol i’r system.

Mae gweithredu Trwyddedu Teledu yn delio â swm aruthrol o ddata, sy’n cael ei storio a'i reoli trwy nifer o gronfeydd data sy’n cydberthyn a gedwir gan wahanol asiantaethau ar ran Trwyddedu Teledu. Mae prif gronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cadw manylion dros 24 miliwn o Drwyddedau Teledu mewn grym yn y Deyrnas Unedig.

Dim ond i ddiben gweinyddu a gorfodi’r system trwyddedu teledu y gellir defnyddio cronfa ddata Trwyddedu Teledu, oni bai ei fod yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu yn benodol dan y gyfraith (e.e. gan asiantaethau’r llywodraeth i ganfod neu atal troseddau).

Postiadau/llythyrau a chyfathrebu electronig

Pryd ac o dan ba amgylchiadau mae Trwyddedu Teledu yn anfon llythyrau?

Mae gan Drwyddedu Teledu ddyletswydd statudol i sicrhau fod pob cyfeiriad lle mae offer derbyn teledu wedi ei osod neu’n cael ei ddefnyddio i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu wedi ei drwyddedu’n gywir. Felly, mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at bob cyfeiriad lle nad oes cofnod o Drwydded neu lle mae’r gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn anhysbys.

Anfonir gwahanol lythyrau yn ddibynnol ar wahanol amgylchiadau ac anghenion cyfeiriadau. Ystyrir tôn yr holl lythyrau yn ofalus cyn eu hanfon, a bwriedir iddynt gwmpasu amrywiaeth o bosibiliadau. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl heb Drwydded wedi anghofio ei phrynu; fydd eraill ddim angen Trwydded Deledu, neu efallai y bydd arnynt angen trwydded ond byddant yn osgoi ei phrynu’n fwriadol. Mae tôn y llythyrau yn cryfhau os na dderbynnir ateb o gyfeiriad, i annog ymateb.

Mae RAPP Limited wedi eu contractio gan y BBC i ddarparu gwasanaethau marchnata ac argraffu Trwyddedu Teledu, a nhw sy’n anfon y rhan fwyaf o lythyrau Trwyddedu Teledu. Yn 2022/23, anfonwyd oddeutu 62.7 miliwn o eitemau o bost ar ran Trwyddedu Teledu. Ymysg rhai o’r amgylchiadau lle mae Trwyddedu Teledu yn anfon llythyrau mae:

  • Llythyrau atgoffa i gyfeiriadau gyda Thrwyddedau Teledu sydd ar fin dod i ben
  • Llythyrau i eiddo didrwydded, yn pwysleisio’r gofyniad cyfreithiol i gael trwydded gywir os ydynt yn gwylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu.
  • Llythyrau at unigolion sydd ar Gynlluniau Talu Arian Parod neu Ddebyd Uniongyrchol
  • Llythyrau at unigolion sy’n ymholi am ad-daliad ar eu Trwydded Deledu
  • Llythyrau at unigolion sydd wedi hysbysu Trwyddedu Teledu nad ydynt angen Trwydded Deledu
  • Llythyrau ad-hoc parthed ymholiadau unigol.

Sylwer yn ogystal â llythyrau, anfonir negeseuon e-bost a negeseuon testun at gwsmeriaid sydd wedi darparu eu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn ac nad ydynt wedi newid eu dewisiadau i dderbyn cyfathrebiadau drwy’r post yn lle hynny. Yn 2022/23, anfonwyd oddeutu 23.7 miliwn* cyfathrebiad electronig at gwsmeriaid.

Bydd Capita yn anfon nifer fechan o lythyrau, yn gysylltiedig yn bennaf ag ymholiadau penodol gan gwsmeriaid.

*Cafodd ffigurau eu talgrynnu i’r deg agosaf ac maent yn cynnwys negeseuon testun.

Pam mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at gyfeiriadau nad ydynt yn defnyddio offer derbyn teledu?

Mae Bwrdd Ymchwil Cynulleidfa Darlledwyr BARB (yn agor mewn ffenestr newydd) yn darparu data ar gartrefi sydd â theledu ac ar gartrefi sy’n defnyddio dyfeisiau nad ydynt yn deledu i wylio teledu. Yna gwneir addasiadau i'r data hwn i nodi'r cartrefi hynny y mae angen trwydded arnynt. Ym mis Mawrth 2023, roedd ystadegau yn dangos y gall tua 91.5% o gartrefi’r Deyrnas Unedig fod yn drwyddedadwy.

Mae gan Trwyddedu Teledu ddyletswydd statudol i sicrhau bod pob cyfeiriad lle mae offer derbyn teledu wedi ei osod neu’n cael ei ddefnyddio i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu wedi'i drwyddedu'n briodol. Felly mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau lle nad oes cofnod o Drwydded neu bod gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn anhysbys.

Os yw Trwyddedu Teledu yn cael hysbysiad nad oes angen Trwydded, yna bydd postiadau yn stopio am gyfnod o amser. Yn anffodus, nid yw’n bosibl i Drwyddedu Teledu stopio cysylltu â chyfeiriad yn barhaol igan fod i sefyllfaoedd yn newid, er enghraifft, gall pobl symud. Gall unigolyn ddweud wrth Drwyddedu Teledu nad oes ganddo deledu trwy ddefnyddio’r ffurflen ar lein hon.

Gall swyddog ymholi alw yn y cyfeiriad i wirio’r sefyllfa, oherwydd, er bod y mwyafrif o’r hysbysiadau Dim Angen Trwydded y mae Trwyddedu Teledu yn eu cael yn rhai dilys, weithiau bydd pobl yn dweud wrth Trwyddedu Teledu nad oes arnynt angen trwydded pa fo angen un arnynt go iawn.

Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi Dim Angen Trwydded Trwyddedu Teledu y BBC.

Pa mor aml mae Trwyddedu Teledu yn anfon llythyrau?

Mae Trwyddedu Teledu yn lleihau’r defnydd o gyfathrebu papur lle bynnag y bo modd a bydd yn defnyddio llythyrau’dim ond pan nad oes ganddo gyfeiriad e-bost neu ganiatâd cwsmer i ddefnyddio cyfeiriad e-bost. Anfonir llythyr atgoffa at bob eiddo trwyddedig ychydig cyn ac ychydig ar ôl dyddiad dod i ben y Drwydded, gan anfon cyfres o lythyrau wedyn os nad oes ymateb. O’r pwynt hwnnw, mae’r cyfeiriad yn cael ei drin fel ‘didrwydded’ a llunnir cyswllt pellach i ennyn ymateb. Yn aml dim ond pan fydd Trwyddedu Teledu yn tynnu sylw pobl at oblygiadau defnydd didrwydded o deledu y byddant yn prynu’r Drwydded Deledu maent ei hangen. Mae effeithlonrwydd y llythyrau yn cael ei adolygu’n gyson i sicrhau bod Trwyddedu Teledu yn gweithredu er lles y rhai sy’n talu’r ffi drwyddedu.

Beth sy’n digwydd os nad oes ymateb i lythyrau Trwyddedu Teledu?

Os na dderbynnir ateb o gyfeiriad, mae tôn y llythyrau yn cryfhau’n raddol er mwyn annog ymateb. Weithiau bydd angen neges gryfach er mwyn i bobl gydymffurfio â’r rhwymedigaeth gyfreithiol. Bydd y cyfeiriad hefyd yn cael ei restru ar gyfer ymweliad gan swyddog ymweld i holi ynghylch gofynion trwyddedu.

Nid yw Trwyddedu Teledu yn tybio fod rhywun yn cyflawni trosedd ac nid oes gan y llythyrau unrhyw oblygiadau i’r rhai nad oes arnynt angen Trwyddedu Teledu. Fodd bynnag, mae angen cyfleu neges gadarn i unigolion sy’n osgoi talu’r ffi drwyddedu. Mae hyn yn cynnwys amlygu y gallai’r gosb ar gyfer osgoi ffi trwydded deledu wedi euogfarn fod yn ddirwy o hyd at £1,000 (neu £2,000 yn Guernsey).

Mae Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC mis Mawrth 2009 ar ei hadolygiad o Drwyddedu Teledu yn nodi: “Wrth ddelio â [y rhai sy'n dewis peidio â rhoi gwybod i Drwyddedu Teledu nad oes angen Trwydded arnynt] nid yw'n bosibl i Drwyddedu Teledu wahaniaethu rhyngddynt a’r rhai sy'n osgoi talu’yn fwriadol. Byddant felly yn cael yr un ohebiaeth hyd nes i Drwyddedu Teledu gael ei hysbysu’n yn wahanol.”

Pwy sy’n cymeradwyo llythyrau Trwyddedu Teledu? Pwy sy’n awdurdodi’r ymweliadau hyn gan swyddogion ymweld a nodir yn y llythyrau hyn?

Mae pob llythyr a anfonir yn cael ei gymeradwyo gan Dîm Rheoli Trwyddedu Teledu’y BBC.

Golyga awdurdodiad i ymweld y bydd swyddog ymweld yn cael ei benodi i ymweld â chartrefi lle na dderbyniwyd ymateb i bostiadau. Mae Capita wedi ei gontractio i gyflawni’r ymweliadau hyn.

Faint mae’n ei gostio i anfon llythyrau Trwyddedu Teledu?

Mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at eiddo heb drwydded i wirio a oes angen trwydded. Nid ydym yn cyhoeddi cyfraddau llwyddiant ymgyrchoedd postio ond gallwn gadarnhau bod pob ymgyrch yn cynhyrchu llawer mwy o gyllid nag y mae’n ei gostio.

Mae costau casglu Trwyddedu Teledu, gan gynnwys cyfathrebu a phostio dros y pum mlynedd ddiwethaf ar gael yn yr adran Gwybodaeth Ariannol.

Mae Trwyddedu Teledu yn cadw costau postio’n isel trwy anfon llythyrau mewn swmp gan ddefnyddio cyfraddau postio a brynwyd yn gystadleuol lle bynnag y bo’n bosibl. Mae union gost anfon llythyr yn ddibynnol ar bryd a sut yr anfonir y llythyr.

Mae cost anfon postiadau Trwyddedu Teledu trwy’r post yn cynnwys argraffu a chyflawni, a gyflawnir gan RAPP Limited (sy’n is-gontractio i Adare); a gwasanaethau post, sydd wedi eu contractio i Communisis. Mae gwybodaeth parthed elfennau cyfansawdd argraffu a chyflawni a phostio yn wybodaeth fasnachol sensitif ac wedi ei heithrio o ddatgeliad dan adran 43(2) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Faint o lythyrau wnaeth Trwyddedu Teledu eu hanfon yn 2022/23?

Yn 2022/23, anfonodd Trwyddedu Teledu oddeutu 62.7 miliwn o eitemau o bost, oedd yn cynnwys llythyrau i gyfeiriadau:

  • lle hysbysodd y deiliad Drwyddedu Teledu nad oedd arno angen Trwydded Deledu (1,335,870 o lythyrau)
  • lle roedd Trwydded Deledu ar fin dod i ben yn fuan (1,075,360 o lythyrau)
  • oedd yn talu am ffi drwyddedu dan Gynllun Debyd Uniongyrchol (7,322,820 o lythyrau).

*Cafodd ffigurau eu talgrynnu i’r deg agosaf.

Faint o Drwyddedau Teledu a brynwyd o ganlyniad i anfon llythyrau atgoffa a faint o refeniw a grëwyd o ganlyniad i hyn?

Yn 2022/23, prynwyd oddeutu 2,716,490 o Drwyddedau Teledu gan unigolion mewn eiddo a dderbyniodd lythyrau a / neu negeseuon e-bost atgoffa. Nid yw’n bosibl cyfrifo faint o refeniw ffi drwyddedu a greodd hyn gan fod y ffigwr hwn:

  • yn amcangyfrif o nifer y Trwyddedau Teledu a brynwyd o ganlyniad i’r llythyrau hyn, ac yn cynnwys trwyddedau consesiwn a thrwyddedau du a gwyn
  • yn dangos trwyddedau a brynwyd yn ystod y cyfnod a ddynodwyd yn unig ac nid yw’n cyfrif am brynu trwyddedau yn y dyfodol a allai ddigwydd o ganlyniad i dderbyn y llythyrau hyn
  • heb ystyried y ffaith nad yw pob Trwydded wedi ei thalu’n llawn, e.e. lle bydd unigolion yn canslo eu debyd uniongyrchol.

*Cafodd ffigurau eu talgrynnu i’r deg agosaf.

Sawl llythyr atgoffa anfonodd Trwyddedu Teledu 2022/23?

Anfonodd Trwyddedu Teledu 7,538,860 o lythyrau a ddosbarthwyd fel llythyrau atgoffa yn 2022/23*.

*Cafodd y ffigur ei dalgrynnu i’r deg agosaf.

Pa mor aml mae Trwyddedu Teledu yn addasu ei lythyrau safonol?

Mae Trwyddedu Teledu yn newid ei lythyrau safonol am amrywiaeth o resymau yn rheolaidd. Er enghraifft, gwnaethpwyd newidiadau sylweddol i lythyrau i adlewyrchu:

  • Newidiadau yn ffi’r Drwydded Deledu.
  • Y ffaith nad yw unigolion bellach yn gallu talu am Drwydded Deledu yn Swyddfa’r Post (ac eithrio ar Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).
  • Newidiadau i rai polisïau Trwyddedu Teledu.
  • Newidiadau i brofi testun a fformatau creadigol newydd.
  • Newidiadau i adlewyrchu’r dulliau newydd sydd ar gael i gwsmeriaid gyfathrebu â Thrwyddedu Teledu

Osgoi

Beth yw'r gyfradd osgoi swyddogol?

Y gyfradd osgoi swyddogol ddiweddaraf ar gyfer y Deyrnas Unedig ym mlwyddyn ariannol 2022/23 yw 10% ac mae tua 90% o gyfeiriadau wedi’u trwyddedu’n gywir. Ni ellir ond amcangyfrif ffigurau osgoi prynu Trwydded Deledu o fewn amrediad o 1%, gan mai amcangyfrifon yw rhai ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo.

Mae’r gyfradd swyddogol yn amcangyfrif canran (nid nifer) yr holl eiddo (nid unigolion na chartrefi) sy’n osgoi talu’r ffi drwyddedu yn y Deyrnas Unedig. Fe’i cyfrifir ar gyfer yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (yn agor mewn ffenestr newydd) gan ddefnyddio model sy’n cymharu’r nifer o drwyddedau teledu mewn grym ag ystadegau allanol am nifer y cartrefi a llefydd trwyddedadwy eraill yn y Deyrnas Unedig.

Nid yw’r gyfradd osgoi swyddogol yn gwahaniaethu rhwng cartrefi a mathau eraill o eiddo ac fe’i cynhyrchir ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan oherwydd nad yw'r ystadegau allanol sydd eu hangen i wneud y cyfrifiad ar gael ar lefel cenhedloedd. O ganlyniad, nid yw’n bosibl darparu amcangyfrif swyddogol o gyfraddau osgoi talu ym mhob cenedl gyda’r un graddau o hyder ag a wnawn ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

A yw pobl wedi cael eu dal yn gwylio rhaglenni teledu yn defnyddio offer heblaw setiau teledu heb Drwydded Deledu? Os felly, faint? Faint ohonynt ydych chi wedi eu herlyn, faint sydd wedi cael euogfarn yn dilyn hynny, a beth oedd cyfartaledd y ddirwy a godwyd?

Mae pobl wedi cael eu dal yn gwylio rhaglenni, heb Drwydded Deledu ddilys, a ddangosir ar offer derbyn teledu nad ydynt yn setiau teledu. Mae’r wybodaeth arall a geisir yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Swyddogion ymweld

Pwy sy’n cyflogi swyddogion ymweld

Mae swyddogion ymweld wedi eu cyflogi gan Capita (“Capita”), cwmni a gontractiwyd gan y BBC i weinyddu’r system trwyddedu teledu dan nod masnach y BBC “Trwyddedu Teledu”.

Faint mae swyddogion ymweld yn cael eu talu?

Nid oes gan y BBC wybodaeth am faint mae swyddogion ymweld yn cael eu talu. Mae hyn yn fater rhwng Capita a’r swyddogion ymweld.

Dan ba amgylchiadau mae swyddogion ymweld yn mynd draw i gyfeiriad a pha wybodaeth maent yn ei chasglu yn yr ymweliad?

Os na dderbynnir ymateb i lythyrau ymholi gan Drwyddedu Teledu, bydd swyddog ymweld yn galw yn y cyfeiriad i bennu’r gofynion trwyddedu. Nod yr ymweliad yw gorfodi’r gyfraith a galluogi Trwyddedu Teledu i ddileu eiddo nad oes arno angen Trwydded Deledu o’u hymholiadau, er mwyn caniatáu ar gyfer canolbwyntio adnoddau ar y rhai sydd angen un.

Pa gyfraith sy’n awdurdodi swyddogion ymweld i ofyn am fynediad i’m cartref? Ydw i’n gallu gwrthod eu gadael i mewn?

Mae Deddf Cyfathrebu 2003 (yn agor mewn ffenestr newydd) yn ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Rhaid i’r BBC sicrhau ei fod yn bodloni ei gyfrifoldeb i’r mwyafrif helaeth o gartrefi sy’n talu eu ffi drwyddedu, trwy orfodi’r gyfraith parthed y rhai hynny sy’n osgoi ei dalu’n fwriadol. Mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio amrediad o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth am y gofyniad i gael Trwydded Deledu, yn atgoffa pobl i dalu, eu hysbysu am ddulliau o dalu, ac i atal pobl rhag osgoi’r ffi drwyddedu.

Nid oes gan swyddogion ymweld unrhyw rymoedd cyfreithiol i ddod i mewn i’ch cartref heb warant chwilio gan ynad (neu siryf yn yr Alban). Maent (fel aelodau eraill o’r cyhoedd) yn dibynnu ar hawl ymhlyg mewn cyfraith gyffredin i alw mewn eiddo cyn belled â’r drws, wrth gyflawni eu busnes cyfreithlon a datgan eu presenoldeb. Rhaid i swyddogion ymweld esbonio wrth ddeiliad yr eiddo pam eu bod yn ymweld, fod yn gwrtais a theg, a chydymffurfio â rheolau ymddygiad.

Nid oes unrhyw reidrwydd i chi roi caniatâd i swyddog ymweld ddod i mewn os nad ydych eisiau gwneud hynny. Os bydd y deiliad yn gwrthod mynediad, bydd y swyddog ymweld yn gadael yr eiddo. Os gwrthodir mynediad i swyddogion ymweld, yna mae Trwyddedu Teledu’n cadw’r hawl i ddefnyddio dulliau datgelu eraill.

Gallai swyddogion ymweld wneud cais am awdurdodiad i ddefnyddio offer datgelu os gwrthodir mynediad iddynt i’r eiddo. Gallai Trwyddedu Teledu hefyd wneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio. Fodd bynnag, dim ond fel mesur pan fetho popeth arall fydd hyn yn digwydd, ac os yw uwch reolwr a chynghorydd cyfreithiol yn ystyried fod yna reswm da dros gredu y cyflawnwyd trosedd.

Beth sy’n digwydd pan fydd swyddog ymweld yn ymweld â chartref?

Rhaid i swyddog ymweld esbonio pam ei fod yn ymweld, fod yn gwrtais a theg, a chydymffurfio â rheolau ymddygiad. Nid oes gan swyddogion ymweld hawl cyfreithiol i fynediad i gartref rhywun heb warant chwilio. Os gwrthodir mynediad i’r eiddo, gellir cynnal yr ymweliad wrth y drws. Os gofynnir i’r swyddog adael yr eiddo, bydd yn gwneud hynny ar unwaith. Os bydd y deiliad yn caniatáu mynediad i’r eiddo, mae’r ymweliad fel arfer yn gyflym iawn. Bydd y swyddog yn cymryd golwg cyflym ar y prif ardaloedd byw i wirio a oes offer derbyn teledu wedi ei osod neu’n cael ei ddefnyddio neu beidio.

Pam mae swyddogion ymweld yn ymweld â chartrefi pobl sydd eisoes wedi rhoi gwybod i Drwyddedu Teledu nad oes ganddynt offer derbyn teledu?

Mae Trwyddedu Teledu yn ymweld â sampl o dai i gadarnhau nad oes teledu yn cael ei ddefnyddio gan ein bod yn canfod, wrth gyflawni’r ymweliadau hyn, fod un o bob deg o’r bobl yr ymwelir â nhw angen Trwydded Deledu. Gweler y Polisi Dim Angen Trwydded (PDF 236 Kb yn agor mewn ffenestr newydd) am ragor o wybodaeth.

Dan ba amgylchiadau all Trwyddedu Teledu gael mynediad i fy eiddo heb fy nghaniatâd?

Dim ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny dan warant chwilio a roddwyd gan ynad (neu siryf yn yr Alban) y gall Trwyddedu Teledu ddod i mewn i’ch cartref heb eich caniatâd. Mae gan ynad (neu siryf yn yr Alban) ddisgresiwn i ganiatáu gwarant chwilio ar gyfer unigolion awdurdodedig i chwilio eiddo a amheuir o weithgaredd anghyfreithiol parthed trwyddedu teledu. Mae atal unigolyn sy’n gweithredu dan warant (gweler adran 366(8) Deddf Cyfathrebu 2003) ar bwrpas yn drosedd. Bydd yr heddlu yn dod gyda Thrwyddedu Teledu wrth weithredu gwarant chwilio.

A oes raid i swyddogion ymweld gadw at Godau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (‘Codau Ymarfer PACE’)?

Wrth gynnal cyfweliad, bydd swyddogion ymweld yn rhoi ystyriaethi Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 neu gyfraith trosedd yr Alban. Cyn cyfweld unigolion, bydd swyddogion ymweld yn rhoi rhybuddiad iddynt ar eu hawliau cyfreithiol. Yna bydd swyddogion ymweld yn cofnodi'r cwestiynau a ofynnwyd a'r atebion a roddwyd mewn cofnod ysgrifenedig o'r cyfweliad ac yn gofyn am lofnod i gadarnhau bod y cofnod o'r cyfweliad yn gywir. Ni roddir rhybuddiad yn Ynysoedd y Sianel.

Pa reolau sy'n llywodraethu cofnodion o gyfweliadau a wneir gan swyddogion ymweld

Gall swyddogion ymweld gyfweld unigolyn y maent yn ei amau o gyflawni trosedd dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 ond ar ôl rhoi rhybuddiad i'r unigolyn hwnnw'n unig h.y. rhoi gwybod iddynt am eu hawliau cyfreithiol, gan gynnwys fod ganddynt hawl i beidio ag ateb unrhyw rai o'r cwestiynau. Mae hyn yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 neu gyfraith trosedd yr Alban. Mae swyddog yn gorfod gwneud cofnod ysgrifenedig o'r cyfweliad hwnnw ac mae hawl gan unigolyn i wrthod arwyddo'r cofnod neu ofyn am gael gwneud cywiriadau os ydynt yn credu nad yw'n gofnod cywir o'r cyfweliad.

A oes gan swyddogion ymweld yr grymoedd â’r heddlu?

Nac oes. Nid yw’r swyddogion ymweld yn swyddogion heddlu ac nid oes ganddynt rymoedd yr heddlu.

Mae swyddogion ymweldyn rhoi ystyriaeth i Godau Ymarfer PACE neu gyfraith droseddol yr Alban (yn dibynnu ble mae’r cyfeiriad) wrth gwestiynu pobl.

A yw Trwyddedu Teledu yn gwirio swyddogion ymweld gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn flaenorol) cyn iddynt ddechrau gweithio fel swyddogion ymweld?

Mae pob swyddog ymweld yn cael ei gyflogi yn amodol ar ddarparu tystysgrif datgelu safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan fyddant yn dechrau a phob 3 blynedd ar ôl hynny.

Mae Trwyddedu Teledu yn gwerthuso unrhyw euogfarnau a ddatgelir yn erbyn y rôl yr ymgeisir ar ei chyfer cyn mynd ymlaen gyda'r cais. Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos. Byddai datganiad o euogfarnau penodol yn golygu na fyddai unigolyn yn cael ei gyflogi mewn rolau penodol o fewn Trwyddedu Teledu.

Sut byddwch yn monitro ymddygiad swyddogion ymweld?

Rhaid i swyddogion ymweld gadw at reolau ymddygiad sy’n galw arnynt i weithredu’n broffesiynol a chwrtais drwy’r adeg. Bydd Trwyddedu Teledu yn defnyddio amryw o fesurau i sicrhau bod swyddogion yn cyflawni eu dyletswyddau yn briodol; mae hyn yn cynnwys asesu’r adborth a dderbynnir gan bobl yr ymwelwyd â nhw. Os bydd cwyn am ymddygiad swyddog ymweld, bydd Trwyddedu Teledu yn ymchwilio i’r gŵyn a, gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliadau, bydd yn cymryd camau priodol.

Beth yw eich rheolau ymddygiad ar gyfer swyddogion ymweld?

Pan fydd ein swyddogion ymweld yn ymweld ag eiddo fe fyddan nhw’n:

Profi pwy ydyn nhw trwy ddangos cerdyn adnabod. Os gofynnir iddyn nhw, byddant yn darparu rhif ffôn hefyd er mwyn i’r sawl sy’n derbyn ymweliad allu cadarnhau’r wybodaeth ar y cerdyn.

Egluro pam eu bod yn ymweld a bod yn foneddigaidd, cwrtais a theg.

Mynd i mewn i’r eiddo ar ôl cael caniatâd yn unig. Os na chânt ganiatâd, bydd yr ymweliad yn dod i ben a gallant ddefnyddio offer datgelu. Efallai y byddant yn gwneud cais i lys am warant chwilio os oes rheswm dros amau bod rhywun yn y cyfeiriad yn:

  • gwylio teledu ar unrhyw sianel fel BBC, ITV, Channel 4, Dave a sianeli rhyngwladol
  • gwylio teledu ar wasanaeth talu fel Sky, Virgin Media a BT
  • gwylio teledu byw ar wasanaeth ffrydio fel YouTube a Amazon Prime Video
  • defnyddio BBC iPlayer*

Mae hyn yn cynnwys recordio a lawr lwytho ar unrhyw ddyfais.

Dilyn deddfau, rheoliadau, polisïau a chodau ymarfer perthnasol.

Osgoi ymddygiad bygythiol neu ddychryn.

Parchu hawliau pobl i breifatrwydd a chyfrinachedd.

Dod â’r ymweliad i ben os gofynnir iddynt adael.

Pan fo angen, cynnal cofnod o gyfweliad a gofyn am lofnod i gadarnhau bod y nodiadau a gymerwyd yn gofnod cywir o’r cyfweliad.

Sicrhau bod y sawl sy’n cael ei gyfweld yn gwybod pa ganlyniadau allai godi o ganlyniad i wylio’n fyw ar unrhyw sianel, wasanaeth neu wasanaeth ffrydio, neu ddefnyddio BBC iPlayer ar unrhyw ddyfais, heb Drwydded Deledu.

*Nid oes angen trwydded i wylio rhaglenni S4C ar alw.

Sut ydw i'n gwybod a yw rhywun yn swyddog ymweld dilys?

Mae pob swyddog ymweld yn cario cerdyn adnabod gyda logo Trwyddedu Teledu sy’n dangos ei enw, llun, swydd, rhif adnabod unigryw a dyddiad dod i ben y cerdyn. Bydd y swyddog ymweld yn darparu rhif ffôn ar gais er mwyn i bobl allu gwirio ei hunaniaeth gyda Thrwyddedu Teledu.

A yw swyddogion ymweld yn derbyn hyfforddiant cydraddoldeb fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth cydraddoldeb?

Ydyn. Rhaid i’r holl swyddogion ymweld a gyflogir gan Capita gyflawni hyfforddiant cydraddoldeb o fewn 12 mis cyntaf eu gwaith.

Sawl cwyn ydych chi wedi ei derbyn am swyddogion ymweld ar ymweliadau?

Yn 2022/23 fe dderbyniwyd 238 o gwynion am ymweliadau gan swyddogion ymweld. I roi hyn yn ei gyd-destun, cyflawnwyd 1,075,240 o ymweliadau yn ystod yr un flwyddyn.

Faint o ymweliadau gan swyddogion ymweld sydd wedi arwain at ddim camau pellach?

Nid oes unrhyw ymweliadau a fyddai’n arwain at ‘ddim camau pellach’. Mae canlyniadau yn cynnwys y canlynol:

  • Cadarnhad nad oes derbynnydd teledu yn yr eiddo.
  • Aros ar y rhestr o eiddo ar gyfer ail ymweliad.
  • Gosod yr eiddo ar gyfer offer datgelu neu warant chwilio.
  • Erlyniad.
  • Cyflwyno trwydded am ddim, neu brynu neu drosglwyddo trwydded.
Faint o swyddogion ymweld sydd gennych yn gweithio yn lleoliad X?

Mae’r wybodaeth hon wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Datgelu

Pam ydych chi’n defnyddio offer datgelu?

Fel yr awdurdod cyhoeddus cyfrifol am Drwyddedu Teledu, rhaid i’r BBC sicrhau fod mentrau casglu a gorfodi yn effeithiol ac effeithlon, ac mae defnyddio faniau datgelu yn rhan ganolog o’r broses hon. Mae gan y BBC ddyletswydd i sicrhau fod y rhai nad ydynt yn cyflawni eu rhwymedigaethau i gael trwydded briodol yn cael eu dal. Mae datgelu yn cael ei ddefnyddio pan fydd ddulliau gorfodi eraill, mwy cost-effeithiol, wedi methu yn unig.

A yw faniau datgelu yn bodoli?

Ydyn. Llywodraethir defnydd o faniau datgelu gan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig) 2001. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn sefydlu sut ddylid defnyddio pwerau ymchwilio, mewn cydymffurfiad â hawliau dynol, gan y BBC. Mae’r ddeddfwriaeth ar gael ar lein yn www.legislation.gov.uk (yn agor mewn ffenest newydd).

Pa gyfraith sy’n awdurdodi’r BBC i ddefnyddio offer datgelu?

Caiff y BBC, dan amgylchiadau penodol, awdurdodi defnydd cyfreithlon o offer gwyliadwriaeth dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (“RIPA”) a Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig) 2001 (“y Gorchymyn RIPA”) i ddatgelu defnydd didrwydded o dderbynyddion teledu.

Pa broses mae’r BBC yn ei dilyn wrth awdurdodi defnydd o offer datgelu?

Mae offer datgelu yn rhan o strategaeth atal osgoi Trwyddedu Teledu. Mae grym y BBC i ganiatáu awdurdodiadau wedi ei gynnwys yn adran 27(A) RIPA a’r Gorchymyn RIPA. Yr unigolion sy’n gallu awdurdodi defnydd o offer datgelu i ddibenion adran 27A yw’r Pennaeth Gwerthiant neu Bennaeth Marchnata yn Nhîm Rheoli Trwyddedu Teledu y BBC ac unrhyw unigolyn sydd â swydd yn y Tîm sy’n uwch na’r swyddi hyn. Yn ymarferol y Pennaeth Rheoli Refeniw, y Pennaeth Marchnata a’r Pennaeth Cyfathrebu a Pholisi sy’n ymgymryd â'r swyddogaeth hon.

Mae’r Gorchymyn RIPA yn rhagnodi materion y mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodi eu hystyried wrth asesu cais. Rhaid i’r swyddog awdurdodi fod yn fodlon fod hyn yn angenrheidiol, ac yn gymesur dan amgylchiadau’r achos penodol, i atal neu ddatgelu troseddau penodol dan ran 4 Deddf Cyfathrebu 2003.

Faint o geisiadau am awdurdodiad i ddefnyddio offer datgelu a wnaethpwyd, ac ar gyfer pa fath o offer? Faint o geisiadau a ganiatawyd neu a wrthodwyd? Ar gyfer yr awdurdodiadau hyn a ganiatawyd gan y BBC, beth oedd y canlyniad?

Mae’r wybodaeth a geisir yma wedi ei heithrio rhag datgelu dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sut mae defnydd BBC o’i phwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 ('RIPA') yn cael ei graffu?

O ran ei bwerau o dan RIPA, mae’r BBC yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth annibynnol Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (“IPCO”). Mae'r BBC hefyd yn cynnal archwiliad mewnol ddwywaith y flwyddyn o gofnodion sy'n ymwneud â'r defnydd o RIPA. Ar ben hynny, mae gan Trwyddedu Teledu gynllun sicrwydd cynhwysfawr mewn lle i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal yn barhaus wrth gymhwyso ei bolisi a phrosesau o ran y defnydd o RIPA.

Faint o bobl sydd wedi eu cael yn euog o beidio cael Trwydded Deledu ddilys yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd yn defnyddio offer datgelu?

Hyd yn hyn, nid yw Trwyddedu Teledu wedi defnyddio tystiolaeth offer datgelu yn y Llys. Y rheswm dros hyn yw, dan broses erlyn bresennol Trwyddedu Teledu, nid oes angen cyflwyno tystiolaeth offer datgelu yn y llys. Y rheswm yw fod Trwyddedu Teledu yn defnyddio tystiolaeth offer datgelu wrth wneud cais am warantau chwilio. Ar ôl cyflwyno’r warant, os byddwn yn darganfod bod unigolyn yn osgoi talu am Drwydded Deledu, yna bydd y dystiolaeth a geir trwy’r warant chwilio yn cael ei defnyddio yn y llys, nid y dystiolaeth offer datgelu. Fodd bynnag, mae Trwyddedu Teledu yn cadw’r hawl i ddefnyddio tystiolaeth offer datgelu yn y Llys yn y dyfodol.

Faint o faniau datgelu a dyfeisiau datgelu eraill sydd gan y BBC?
Pa mor aml fydd faniau datgelu a dyfeisiau datgelu eraill yn cael eu defnyddio?
Beth yw manylebau technegol y faniau datgelu a'r dyfeisiau datgelu?
Pa wybodaeth sydd gan y BBC o ran defnydd ac effeithlonrwydd faniau datgelu a dyfeisiau datgelu?
Faint o weithiau, ac ar ba ddyddiadau, mae faniau datgelu teledu wedi monitro lleoliad X, yn y X mlynedd diwethaf?

Mae’r wybodaeth a geisiwyd yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Roedd rhywfaint o’r wybodaeth a eithriwyd dan adran 31 hefyd wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 42 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan ei bod yn gyngor cyfreithiol sydd wedi ei ddiogelu dan fraint broffesiynol gyfreithiol. Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniadau’r ICO ar gael yma:

Hysbysiad Penderfyniad FS50154106, 16 Hydref 2008 (yn agor mewn ffenest arall)
Hysbysiad Penderfyniad FS50137475, 19 Mai 2008 (yn agor mewn ffenest arall)

Faint mae’n ei gostio i ddefnyddio offer datgelu, yn cynnwys costau staff?

Mae siart Costau Casglu Trwyddedu Teledu yn yr adran Gwybodaeth Ariannol yn rhoi dadansoddiad o gostau llinell uchaf Trwyddedu Teledu ac yn eitemeiddio costau casglu (yn cynnwys canolfannau galwadau, gweithlu maes, datgelu a gwasanaethau dros y cownter).

Mae gwybodaeth fanwl am gost defnyddio offer datgelu wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sut mae offer datgelu yn gweithio?

Mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio amrediad o offer datgelu fel rhan o’i strategaeth atal osgoi.

Dim ond mewn cyfeiriadau sydd heb Drwydded Teledu y defnyddir offer datgelu.

Mae gwybodaeth fwy penodol am sut mae offer datgelu yn gweithio, gan gynnwys ei effeithlonrwydd a manylebau technegol, wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniadau’r ICO ar gael yma:

Hysbysiad Penderfyniad FS50154106, 16 Hydref 2008 (yn agor mewn ffenest newydd)

Hysbysiad Penderfyniad FS50137475, 19 Mai 2008 (yn agor mewn ffenest newydd)

Hysbysiad Penderfyniad FS50476136, 25 Mawrth 2013 (yn agor mewn ffenest newydd)

Pa mor effeithiol yw offer datgelu wrthyn adnabod rhai sy'n osgoi talu gymharu â dulliau datgelu eraill?

Nid oes gennym wybodaeth yn cymharu faniau datgelu â dulliau gwrth osgoi eraill oherwydd nad oes angen i ni wneud y gymhariaeth hon.

I roi cefndir, mae faniau datgelu yn rhan o gasgliad o offer, a grynhoir isod, a ddefnyddir gan Drwyddedu Teledu i ganfod osgoi.

  • Mae cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn allweddol i weithrediad Trwyddedu Teledu. Mae’n rhestru’r holl gyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig sydd â Thrwydded Deledu ddilys, yn ogystal â’r cyfeiriadau hynny nad oes ganddynt drwydded.
  • Ar gyfer y cyfeiriadau hynny lle nad oes gennym gofnod o Drwydded Deledu a dim gwybodaeth ddiweddar ynghylch a oes angen Trwydded, anfonir llythyr at y deiliad ynglŷn â’r sefyllfa. Mae’n bosib y bydd nifer o dderbynwyr heb sylweddoli nad oes ganddynt drwydded, neu efallai y bydd ganddynt drwydded ar gyfer cyfeiriad blaenorol, tra bydd eraill ddim yn defnyddio teledu neu efallai eu bod yn osgoi talu ar bwrpas. Pan na fydd deiliad ar gyfer cyfeiriad, rhoddir ataliad dros dro rhag anfon ymholiadau nes bydd y cyfeiriad wedi ei feddiannu. Bydd y rhai nad ydynt yn prynu Trwydded neu nad ydynt yn ateb yn dal i dderbyn llythyrau ymholi. Os na cheir ateb, bydd y cyfeiriad yn cael ei restru ar gyfer ymweliad gan swyddog ymweld.
  • Os na fydd ymweliad yn llwyddiannus, gellir defnyddio offer datgelu yn y cyfeiriad.

Mewn achosion eithriadol, gallai Trwyddedu Teledu ystyried gwneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio ar gyfer yr eiddo. Dim ond os oes rheswm da dros gredu fod defnydd didrwydded o deledu yn digwydd a bod ymholiadau eraill wedi eu rhwystro fydd hyn yn digwydd.

Pa hyfforddiant ydych chi’n ei ddarparu i staff sy’n defnyddio offer datgelu?

Mae’n ofynnol i unrhyw aelod staff sydd wedi ei awdurdodi i weithredu offer datgelu fynychu a chwblhau hyfforddiant yn llwyddiannus sy’n cwmpasu’r agweddau gweithredol a chyfreithiol o ddefnyddio’r offer hwn. Rhaid iddynt lwyddo mewn asesiad ymarferol cyn y gallant weithredu offer datgelu heb oruchwyliaeth. Darperir hyfforddiant gloywi bob 18 mis. Darperir hyfforddiant pellach ar sail ad-hoc pan nodir angen neu pan fydd newidiadau mewn gweithdrefnau/offer. Darperir yr hyfforddiant hwn yn fewnol gan Capita.

Pa mor aml mae’r offer yn cael ei brofi, gan bwy a beth yw’r gost?

Bydd offer datgelu yn cael ei brofi’n ddyddiol, cyn ei ddefnyddio. Anfonir offer datgelu mewn faniau at y gwneuthurwr i gael ei brofi pob 12 mis. Nid ydym yn cadw gwybodaeth ar gostau penodol y profion hyn. Mae’r costau hyn yn cael eu cynnwys yn y taliad cyffredinol gan y BBC i’r cwmnïau a gontractir i weinyddu a gorfodi’r system Trwyddedu Teledu.

Pa batentau sydd gennych ar dechnoleg a ddefnyddir mewn faniau datgelu?

Nid yw’r BBC yn rhoi patent na chofrestru dyluniadau ar gyfer offer o’r fath oherwydd byddai cofrestru patent ar gyfer dyfais o’r math yn golygu bod y manylion (h.y. sut mae’n gweithio) ar gael i’r cyhoedd a byddai hyn yn niweidio gweithgareddau gorfodi Trwyddedu Teledu.

A yw’n ddiogel defnyddio offer datgelu ymysg y cyhoedd? Pa asesiadau iechyd a diogelwch ydych chi wedi eu cyflawni ar y dyfeisiau hyn?

O safbwynt technegol, mae’r offer datgelu a ddefnyddir gan Drwyddedu Teledu, yn debyg i offer gwyliadwriaeth arall. Nid oes unrhyw risg gynyddol i’r cyhoedd o bresenoldeb dyfeisiau o’r fath. Felly ni chedwir unrhyw wybodaeth gan y BBC ar asesiadau iechyd a diogelwch o’r fath.

Gwarantau chwilio

Dan ba amgylchiadau mae Trwyddedu Teledu yn gwneud cais am warant chwilio i chwilio eiddo a amheuir o ddefnyddio offer derbyn teledu heb Drwydded Deledu ddilys?

Dim ond os oes rheswm da i gredu y cyflawnwyd trosedd, ei bod yn debygol y gellir sicrhau tystiolaeth o gyflawni’r drosedd honno, a bod amodau parthed mynediad i’r eiddo yn gwarantu cyhoeddi gwarant chwilio y gellir gwneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio.

Dim ond mewn achosion lle mae’r dystiolaeth yn golygu ei bod yn debygol y bydd set deledu yn cael ei defnyddio y gwneir cais am warantau chwilio. Mae Trwyddedu Teledu yn agored parthed ei bolisi mai dim ond fel mesur pan fetho popeth arall y bydd yn gwneud cais am warant chwilio. Ystyrir ceisiadau am warant chwilio yn ofalus cyn eu cyflwyno. Fel mater o gyfraith, ni ellir cyhoeddi gwarant chwilio oni bai fod sail resymol dros y cais.

Beth sy’n digwydd pan fydd Trwyddedu Teledu yn gweithredu gwarant chwilio?

Rydym yn gweithredu gwarantau chwilio ym mhresenoldeb swyddogion yr heddlu. Ein polisi yw na fydd swyddogion ymweld yn gorfodi mynediad i gyfeiriad os nad yw’r deiliad yn bresennol yn yr eiddo. Yn hytrach, byddem yn dychwelyd eto dro arall. Fodd bynnag, rydym yn nodi y gall swyddogion yr heddlu sy’n bresennol orfodi mynediad os ydynt o’r farn fod angen gwneud hynny.

Sawl cais am warantau chwilio a wnaethpwyd gan Drwyddedu Teledu, i ba lysoedd, a faint a gyhoeddwyd?

Mae’r wybodaeth hon wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 parthed nifer y gwarantau chwilio a gyhoeddwyd wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniad yr ICO ar gael yma:

Hysbysiad Penderfyniad FS50476136, 25 Mawrth 2013 (yn agor mewn ffenest newydd)

Beth yw polisi Trwyddedu Teledu ar warantau chwilio?

Ein polisi parthed gwarantau chwilio yw:

  • sicrhau tystiolaeth ddigonol o drosedd i gyfiawnhau gwneud cais am warant chwilio (fel mesur pan fetho popeth arall mewn achosion ble disbyddwyd opsiynau eraill)
  • gwneud cais am warant chwilio lle gellir sicrhau tystiolaeth ddigonol
  • sicrhau fod gwarantau chwilio yn cael eu gweithredu gyda pharch tuag at bobl ac eiddo ac yn unol â chyfarwyddiadau’r llys.

Mae’r BBC yn contractio Capita i gyflawni gweithgareddau gorfodi trwyddedu teledu, gan gynnwys ymgeisio am a gweithredu gwarantau chwilio. Dim ond yn ôl disgresiwn ynad (neu siryf yn yr Alban) y cyhoeddir gwarant chwilio, yn unol â gofynion cyfreithiol caeth.

Pa gyfraith sy’n awdurdodi Trwyddedu Teledu i ymgeisio am warantau chwilio?

Awdurdodir ceisiadau am warantau chwilio a’u gweithrediad dan adran 366 Deddf Cyfathrebu 2003.

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 (yn agor mewn ffenest newydd) yn rhoi dyletswydd i’r BBC gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Rhaid i’r BBC sicrhau ei fod yn bodloni ei gyfrifoldeb i’r mwyafrif helaeth o gartrefi sy’n talu eu ffi drwyddedu, trwy orfodi’r gyfraith parthed y rhai hynny sy’n osgoi ei dalu yn fwriadol.

Dim ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny dan warant chwilio a roddwyd gan ynad (neu siryf yn yr Alban) y gall Trwyddedu Teledu ddod i mewn i’ch cartref heb eich caniatâd.

Gallai Trwyddedu Teledu hefyd wneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio. Fodd bynnag, dim ond fel mesur pan fetho popeth arall fydd hyn yn digwydd, ac os yw uwch reolwr a chynghorydd cyfreithiol yn ystyried fod yna reswm da dros gredu y cyflawnwyd trosedd.

Mae gan ynad (neu siryf yn yr Alban) ddisgresiwn i gyhoeddi gwarant chwilio ar gyfer unigolion awdurdodedig i chwilio eiddo a amheuir o weithgaredd anghyfreithiol parthed trwyddedu teledu. Mae atal unigolyn sy’n gweithredu dan warant (gweler adran 366(8) Deddf Cyfathrebu 2003) ar bwrpas yn drosedd. Bydd yr heddlu yn dod gyda Thrwyddedu Teledu wrth weithredu gwarant chwilio.

Erlyniadau

A ydych chi’n erlyn pobl am beidio cael Trwydded Deledu ddilys?

Ydym. Bydd Trwyddedu Teledu yn erlyn os yw hynny er lles y cyhoedd ac os oes tystiolaeth ddigonol i wneud hynny. Mae unrhyw unigolyn mewn perygl o erlyniad os yw’n gwylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu darlledu ar y teledu heb Drwydded Deledu ddilys.

Beth yw cofnod o gyfweliad?

Mae cofnod o gyfweliad yn gofnod ysgrifenedig a gymerir o gyfweliad a gynhelir gan swyddogion ymweld Trwyddedu Teledu, pan fyddant yn holi, dan rybuddiad, unigolyn y maent yn amau sydd wedi cyflawni trosedd dan Ddeddf Cyfathrebu 2003. Bydd yr unigolyn a holwyd yn cael cynnig llofnodi cofnod o gyfweliad i gadarnhau bod y cofnod yn gofnod cywir o’r cyfweliad.

Wrth gynnal cyfweliad, rhaid i swyddogion ymweld roi sytyriaeth i Godau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (‘Codau PACE’) neu gyfraith droseddol yr Alban (yn dibynnu ble mae’r cyfeiriad). Mae hyn yn golygu fod gan swyddogion ymweld ddyletswydd i roi rhybudd i’r unigolyn dan sylw o’i hawliau cyfreithiol cyn ei holi.

Faint o osgowyr y ffi drwyddedu a erlynir ac a geir yn euog o beidio cael Trwydded Deledu ddilys?

Nid yw’r BBC yn cadw ystadegau swyddogol am yr union nifer o bobl a erlynir am osgoi talu’r Ffi Trwyddedu Teledu. Ar gyfer Cymru a Lloegr, mae’r ffigurau hyn yn cael eu cadw gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (“MOJ”) a llysoedd ynadon unigol a gellir gofyn amdanynt gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol - Data Access and Compliance Unit, Postal Point 6.25, Floor 6, 102 Petty France, Llundain, SW1H 9AJ.

Fodd bynnag, mae rhai ystadegau MOJ wedi eu cyhoeddi ar lein:

2010 hyd 2022
www.gov.uk/government/statistics/criminal-justice-system-statistics-quarterly-december-2022 (Dewiswch “Outcomes by Offence data tool” ac ar y bocs “offence” dewiswch ‘191A Television licence evasion’)

Ar gyfer Gogledd Iwerddon, mae ffigurau yn cael eu dal gan Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon a gellir gofyn amdanynt gan y Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Information Services Division, Block 2, Knockview Buildings, Ballymiscaw, Stormont, Belfast BT4 3SL.

Ar gyfer yr Alban, mae’r ffigurau ar gael gan Swyddfa’r Goron a Swyddfa’r Procuradur Ffisgal (COPFS) a gellir gofyn amdanynt yn y cyfeiriad canlynol: Response and Information Unit, Crown Office, 25 Chambers Street, Caeredin, EH1 1LA.

Faint maent yn cael eu dirwyo? Faint o bobl sy’n talu eu dirwyon mewn gwirionedd?

Mae dirwy yn fater i’r llys yn unig ei orfodi a'i chasglu, nid Trwyddedu Teledu. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Adran Gyfiawnder a COPFS a phob llys lle cynhelir yr achosion yn cadw’r ystadegau swyddogol am nifer yr euogfarnau a'r dirwyon a osodir ac a gesglir. Cysylltwch â nhw ynglŷn â’r wybodaeth hon. Mae gwybodaeth am leoliadau’r llysoedd ynadon lle cynhelir yr achosion hefyd ar gael gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Faint o bobl sy’n cael eu carcharu am osgoi talu’r ffi drwyddedu?

Ni ellir dedfrydu rhywun i garchar os y’i ceir yn euog o drosedd dan adran 363 Deddf Cyfathrebu 2003. Uchafswm y gosb am beidio cael Trwydded Deledu ddilys yw dirwy o £1,000 (neu £2,000 yn Guernsey). Gall y llys hefyd orchymyn yr unigolyn a gafwyd yn euog i dalu gordal dioddefwyr o 10% o’r ddirwy neu £30, pa un bynnag yw’r mwyaf, a thalu costau Trwyddedu Teledu yn yr achos. Fodd bynnag, gall y llys garcharu unigolyn am beidio â thalu dirwy’r llys.

A fyddech yn erlyn rhywun mewn cyfeiriad sy’n defnyddio offer derbyn teledu heb Drwydded Deledu ddilys os nad yw’r unigolyn hwnnw yn byw yno?

Cyflawnir gweithgareddau Trwyddedu Teledu yn unol â pholisïau a chanllawiau penodol, sy’n sefydlu’r meini prawf ar gyfer erlyn osgowyr. Un o’r meini prawf hyn yw bod yn rhaid i unigolyn sy’n cael ei gyhuddo o drosedd Trwyddedu Teledu fod yn oedolyn sy’n byw yn y cyfeiriad, neu’n landlord neu'n unigolyn cyfrifol am drwyddedu derbynnydd teledu yn yr eiddo. Er enghraifft, ni fyddai ymwelydd neu warchodwr dilys yn yr eiddo yn cael ei erlyn.

Beth sy’n digwydd i’r arian a gesglir o ddirwyon a delir gan unigolion a ddyfarnir yn euog o osgoi’r ffi drwyddedu?

Gall y llys godi dirwy o hyd at £1,000 (neu £2,000 yn Guernsey) ar unigolyn a geir yn euog o drosedd dan adran 363 Deddf Cyfathrebu 2003. Mae dirwyon yn fater i’r llys yn unig eu codi a'u casglu a'u gwaredu, nid y BBC na Thrwyddedu Teledu.

Faint ydych chi’n ei wario ar erlyn pobl a gyhuddwyd o beidio cael Trwydded Deledu ddilys?

Cyflawnir gweithgarwch gorfodi gan Capita yn defnyddio nod masnach “Trwyddedu Teledu” y BBC ar ran y BBC.

Mae siart yn dangos costau casglu Trwyddedau Teledu ar gael yn yr adran Gwybodaeth Ariannol.