dcsimg

Amdanom ni a'r Drwydded Deledu

Mae Trwyddedu Teledu yn hysbysu pobl o’r angen i brynu Trwydded Deledu. Rydym yn anfon llythyrau adnewyddu trwydded ac yn prosesu ymholiadau, ceisiadau a thaliadau. Rydym hefyd yn cynnal cronfa ddata o gyfeiriadau trwyddedig a didrwydded yn y Deyrnas Unedig ac yn defnyddio’r dechnoleg hon i nodi ac ymweld â phobl y credwn allai fod yn defnyddio gyfarpar derbyn teledu heb drwydded ddilys.

Amodau a thelerau

Amodau a thelerau

Mae amodau a thelerau Trwydded Deledu ar gael ar y wefan yma.

Am ba mor hir mae Trwydded Deledu'n para?

Mae Trwydded Deledu yn ganiatâd cyfreithiol i osod neu ddefnyddio offer derbyn teledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddyn nhw gael eu dangos ar y teledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein, neu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni'r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer.

Nid tâl am wasanaethau'r BBC (nac unrhyw wasanaeth teledu arall) yw ffi'r drwydded, er bod refeniw'r drwydded deledu'n cael ei defnyddio i ariannu'r BBC.

Mae'r angen i gael Trwydded Deledu a thalu ffi amdani yn orchymyn o dan y gyfraith o dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (“y Ddeddf”) a Rheoliadau Cyfathrebiadau (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y'u diwygiwyd) (“y Rheoliadau”). O dan y Ddeddf, mae gan y BBC, fel yr awdurdod cyhoeddus cyfrifol, y pwer i benderfynu ar delerau ac amodau Trwydded Deledu, gan gynnwys hyd Trwydded Deledu. Gan fod ffi'r Drwydded Deledu yn swm blynyddol, mae awdurdodau trwyddedu olynol wedi dilyn yr egwyddor y dylai Trwydded bara am 12 mis.

Mae'n bosib y bydd Trwydded gychwynnol (h.y. y Drwydded Deledu gyntaf y bydd rhywun yn ei chael) yn para ychydig llai na 12 mis. Mae angen Trwydded Deledu ar rywun o'r diwrnod y bydd yn gosod neu'n defnyddio offer derbyn teledu am y tro cyntaf - a gall hynny fod ar unrhyw ddiwrnod o'r mis - ond mae dyddiad dod i ben y Drwydded yn benodol, h.y. bydd Trwyddedau'n dod i ben ar ddyddiad olaf un o'r 12 mis.

Mae hyn yn golygu y bydd Trwydded Deledu gychwynnol yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn cyflwyno'r drwydded, y flwyddyn ganlynol (e.e. byddai Trwydded Deledu a gyflwynwyd ar 15 Awst yn dod i ben ar 31 Gorffennaf y flwyddyn ganlynol). Bydd yr un dyddiad dod i ben yn berthnasol pan fydd y Drwydded honno'n cael ei hadnewyddu y flwyddyn ganlynol (h.y. 12 mis llawn).

Mae'r system hon yn fwy cost-effeithiol nag un lle gallai Trwydded ddod i ben ar unrhyw ddiwrnod o'r flwyddyn. O ystyried nifer y Trwyddedau Teledu sydd wedi'u cyhoeddi (dros 24 miliwn), byddai gweithredu system â 365 o ddyddiadau dod i ben yn ddrud o ran gweinyddu a gorfodi - a'r rheini sy'n talu ffi'r drwydded fyddai'n gorfod talu am hynny.

A oes angen trwyddedu cyfeiriad neu unigolyn?

Cyflwynir Trwydded Deledu yn enw'r sawl sy'n talu'r ffi ac mae'n berthnasol ar gyfer yr offer derbyn teledu sy'n cael eu defnyddio yn y cyfeiriad/eiddo ar y Drwydded.

Mae Telerau ac Amodau Trwydded Deledu wedi'u hargraffu ar y Drwydded. Mae copi o'r Telerau ac Amodau ar gael yma, ac maen nhw'n nodi: “Mae'r drwydded yn caniatáu i unrhyw un osod a defnyddio offer teledu yn yr eiddo trwyddedig.” Felly er mai cyfeiriad/eiddo sy'n cael trwydded ar gyfer defnyddio offer derbyn teledu, mae'r Drwydded yn cael ei chyflwyno yn enw'r unigolyn sydd ar y Drwydded.

Mae “cyfeiriad” yn golygu unrhyw le sy'n “fan trwyddedadwy” at ddibenion Deddf Cyfathrebiadau 2003 a Rheoliadau Cyfathrebiadau (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y'u diwygiwyd). Mae modd i gyfeiriad neu rywle lle ceir dim ond un pwynt postio gael ei gofrestru fel dau neu ragor o eiddo trwyddedadwy e.e. tŷ sydd wedi'i rannu'n amryw o fflatiau, neu fflat lle ceir lojer.

Derbyn eich Trwydded Deledu

A fydda' i'n derbyn negeseuon eraill (e.e. llythyrau atgoffa) gan Drwyddedu Teledu, yn ogystal â derbyn fy Nhrwydded Deledu yn electronig?

Pan fyddwch yn prynu Trwydded Deledu yn www.tvlicensing.co.uk bydd gofyn i chi roi cyfeiriad e-bost dilys. Yna, mae'n bosib y byddwn yn anfon negeseuon e-bost atoch chi ynghylch eich Trwydded Deledu, gan gynnwys negeseuon i'ch atgoffa bod eich trwydded ar fin dod i ben. Petai'n well gennych dderbyn y negeseuon hyn drwy'r post yn hytrach nag e-bost, gallwch newid hyn drwy un o'r dulliau a nodir isod o dan ‘Beth os ydw i am newid y ffordd rwy'n derbyn fy Nhrwydded Deledu?’

Pam mae angen i mi roi cyfeiriad e-bost er mwyn prynu Trwydded Deledu ar lein?

Mae cael cyfeiriad e-bost yn golygu y gallwn ni gysylltu â chi'n rhwydd dros e-bost i roi negeseuon pwysig i chi am eich cyfrif, er enghraifft negeseuon i'ch atgoffa bod eich trwydded ar fin dod i ben.

Os bydda' i'n dewis derbyn fy Nhrwydded Deledu yn electronig, sut bydd y drwydded yn cael ei chyflwyno?

Unwaith y byddwn wedi derbyn ffi briodol y drwydded (neu yn achos cwsmeriaid sy'n talu fesul rhandaliad, ffi briodol cyhoeddi), byddwn yn anfon eich Trwydded Deledu i'r cyfeiriad e-bost a nodwyd gennych chi, a rhaid iddo fod yn ddilys er mwyn i chi dderbyn y negeseuon e-bost y byddwn yn eu hanfon atoch.

Beth os na fydda' i'n derbyn fy nhrwydded a/neu'r nodyn atgoffa ar ôl dewis eu derbyn yn electronig?

Bydd Trwyddedu Teledu yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn derbyn eich trwydded a'ch nodyn atgoffa ar ôl i chi ddewis eu derbyn yn electronig. Ni allwn warantu y bydd eich Trwydded Deledu, eich cynllun talu fesul rhandaliadau (os yw'n berthnasol) a'ch nodyn atgoffa cyntaf yn cael eu hanfon yn electronig yn ddi-dor neu heb wall, na bod y gweinydd yn sicrhau eu bod ar gael heb firws. Gallwch fewngofnodi i'ch Trwydded Deledu ar lein unrhyw dro i gadarnhau bod gennych chi'r drwydded briodol ac i argraffu copi papur o'ch trwydded a'ch cynllun talu (os yw'n berthnasol) unrhyw dro.

Beth os nad yw fy nghyfeiriad e-bost yn gweithio am unrhyw reswm?

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i Trwyddedu Teledu am unrhyw newidiadau i'ch cyfeiriad e-bost. Gallwch newid eich cyfeiriad e-bost ar lein neu drwy ffonio neu anfon e-bost at Trwyddedu Teledu.

Os na fyddwch chi'n rhoi gwybod i Trwyddedu Teledu am unrhyw newidiadau, ac felly os nad ydych chi'n derbyn neges e-bost yn eich atgoffa bod angen Trwydded Deledu newydd arnoch, chi fydd yn dal yn gyfrifol ac yn atebol am dalu ffi'r drwydded a sicrhau bod gennych chi drwydded briodol, a gellir eich erlyn o hyd os cewch eich dal yn defnyddio derbynnydd teledu i dderbyn rhaglenni teledu heb Drwydded Deledu.

Beth os ydw i am newid y ffordd rwy'n derbyn fy Nhrwydded Deledu a/neu unrhyw negeseuon e-bost eraill gan Drwyddedu Teledu?

Mae sawl ffordd y gallwch newid eich cyfrif:

  • Newidiwch eich dewisiadau trwy wefan Trwyddedu Teledu - Gallwch newid dewisiadau e-bost eich cyfrif drwy fewngofnodi i'ch Trwydded Deledu ar lein a dilyn y cyfarwyddiadau.
  • Newidiwch eich dewisiadau dros y ffôn neu drwy'r post - Gallwch newid dewisiadau e-bost eich cyfrif drwy gysylltu â ni drwy'r post yn TV Licensing, Darlington, DL98 1TL, neu drwy ein ffonio ni ar 0300 790 6165*. Os ydych yn fyddar, wedi colli eich clyw neu nam ar eich lleferydd, rydym yn cefnogi gwasanaeth Relay UK (gynt yn NGTS - agor mewn ffenestr newydd).
  • Newidiwch eich dewisiadau drwy'r ddolen ddiogel yn y negeseuon e-bost - Gallwch newid dewisiadau e-bost eich cyfrif drwy ddilyn y cyfarwyddiadau sydd yn rhai o'r negeseuon e-bost. Cofiwch na fydd nifer fechan o negeseuon e-bost (e.e. eich Trwydded Deledu a negeseuon e-bost yn cadarnhau newidiadau a wnaed drwy wefan Trwyddedu Teledu) yn cynnwys y cyfarwyddiadau hyn i ddatdanysgrifio.

Gallwch ddweud wrthym nad ydych yn dymuno derbyn e-byst oddi wrthym bellach. Fodd bynnag, os byddwch chi'n gwneud hynny lai na mis cyn i'ch Trwydded Deledu gyfredol ddod i ben, mae'n bosib na fydd y newidiadau'n dod i rym mewn pryd i chi gael nodyn i'ch atgoffa i adnewyddu drwy'r post, felly efallai y byddwch yn dal i gael eich nodyn atgoffa drwy e-bost. Mae hyn oherwydd ei bod yn cymryd hyd at bedair wythnos i newid eich dewisiadau o ohebiaeth dros e-bost i ohebiaeth drwy'r post.

A oes angen copi caled caled o'r Drwydded Deledu arna' i?

Does dim rhaid i chi gael copi caled o'ch trwydded. Gallwch weld eich trwydded ar lein yn www.tvlicensing.co.uk a gallwch argraffu copi neu gadw copi, petaech yn dymuno.

Beth yw atebolrwydd Trwyddedu Teledu o ran gohebiaeth electronig?

Ni fydd Trwyddedu Teledu'n atebol am unrhyw golled neu ddifrod a restrir isod mewn unrhyw amgylchiadau (boed unrhyw golledion o'r fath wedi'u rhagweld, yn rhai y byddai modd eu rhagweld, y gwyddys amdanynt, neu fel arall):

  • colli data
  • colli refeniw neu elw a ddisgwylir;
  • colli busnes;
  • colli cyfle;
  • colli ewyllys da neu niwed i enw da;
  • colledion trydydd partïon; neu
  • unrhyw ddifrod uniongyrchol, canlyniadol, arbennig neu deilwng sy'n codi ar ôl i chi brynu eich Trwydded Deledu ar lein a darparu a derbyn eich Trwydded Deledu, eich cynllun talu fesul rhandaliadau (os yw'n berthnasol) a'ch nodyn atgoffa cyntaf yn electronig, beth bynnag fo'r dull gweithredu.

Talu am eich Trwydded Deledu

Ble alla' i dalu am fy Nhrwydded Deledu ag arian parod ar rai cynlluniau talu?

Gallwch dalu am eich Trwydded Deledu ag arian parod neu gerdyn debyd mewn unrhyw PayPoint. Ar hyn o bryd mae yna dros 28,200 o safleoedd PayPoint ar hyd y Deyrnas Unedig. Mae'r rhain i'w cael mewn siopau papurau newydd, siopau hwylus, archfarchnadoedd a garejis.

Ewch i wefan PayPoint i gael gwybod ble mae safleoedd PayPoint a beth yw’r oriau agor.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am fynediad ar gyfer pobl anabl i'r pwyntiau talu PayPoint, ffoniwch Trwyddedu Teledu ar 0300 790 6165*.

Pam ydych chi'n gofyn i ni dalu ffi'r Drwydded Deledu ymlaen llaw?

Caniatâd cyfreithiol i osod neu ddefnyddio offer derbyn teledu (teledu, cyfrifiadur, gliniadur, ffôn symudol, tabled neu unrhyw ddyfais arall) i wylio neu recordio rhaglenni teledu fel maen nhw'n cael eu dangos ar y teledu yw Trwydded Deledu, waeth sut maen nhw'n cael eu derbyn (daearol, lloeren, cebl, drwy'r rhyngrwyd neu unrhyw ffordd arall).

Yn wahanol i filiau cyfleustodau a biliau eraill defnyddwyr, lle gwneir ôl-daliadau, mae'r Drwydded Deledu yn ffi benodol i ganiatáu gosod neu ddefnyddio offer derbyn teledu i dderbyn gwasanaethau rhaglenni teledu, ac mae'r ffi'n cael ei chodi ymlaen llaw bob blwyddyn.

Felly, yn y rhan fwyaf o achosion, mae ffi'r drwydded yn cael ei thalu ymlaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol Misol neu drwy Gynllun Talu ag Arian Parod. Fodd bynnag, mae'n bosib gwneud ôl-daliadau drwy Ddebyd Uniongyrchol Chwarterol; mae premiwm o £5 ar gyfer hyn, fel y nodir yn Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y'u diwygiwyd).

Dyma'r cynlluniau sydd ar gael ar gyfer talu ffi'r drwydded fesul rhan:

Debyd Uniongyrchol Misol

Mae'r Cynllun Debyd Uniongyrchol Misol yn galluogi unigolion i dalu debyd uniongyrchol misol am eu Trwydded Deledu gyfredol fesul chwe rhandaliad misol, a dechrau talu ymlaen llaw am eu trwydded nesaf fesul 12 rhandaliad misol yn y seithfed mis. Byddant yn dal ati i dalu am eu trwyddedau fel hyn yn y dyfodol.

Cynllun Talu Arian Parod

Mae'r cynllun hwn yr un fath â'r Cynllun Debyd Uniongyrchol Misol, lle mae unigolion yn talu am eu Trwydded Deledu gyfredol fesul rhandaliad dros chwe mis, ac yn dechrau talu ymlaen llaw am eu trwydded nesaf yn y seithfed mis.

Debyd Uniongyrchol Chwarterol

Gall unigolion dalu ffi'r drwydded drwy wneud ôl-daliadau o dan y Cynllun Debyd Uniongyrchol Chwarterol. Mae premiwm blynyddol o £5 gyda'r dull hwn o dalu (neu £1.25 y chwarter) oherwydd bod ffi'r drwydded yn cael ei thalu ar ffurf ôl-daliadau. Mae'r premiwm o £5 yn cael ei ragnodi gan y Senedd o dan Reoliadau Cyfathrebiadau (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y'u diwygiwyd). Rhoddir gwybod i unigolion am y premiwm hwn pryd bynnag y byddant yn dewis y dull hwn o dalu, ac mae'n cael ei amlinellu yn y cynllun talu a roddir gyda phob trwydded newydd hefyd.

Cardiau Cynilo

Gall unigolion ddewis cynilo tuag at gost eu Trwydded Deledu nesaf gan ddefnyddio cardiau cynilo (Stampiau Cynilo'n flaenorol).

Pam mae tâl ychwanegol o £5 am dalu ffi'r Drwydded Deledu drwy ddebyd uniongyrchol chwarterol?

Yn wahanol i filiau cyfleustodau a biliau eraill defnyddwyr, lle gwneir ôl-daliadau fel rheol, mae'r Drwydded Deledu yn ffi benodol i ganiatáu gosod neu ddefnyddio offer derbyn teledu i dderbyn gwasanaethau rhaglenni teledu, ac mae'r ffi'n cael ei chodi ymlaen llaw bob blwyddyn.

Oherwydd bod ffi'r drwydded yn cael ei thalu fel ôl-daliad o dan y Cynllun Debyd Uniongyrchol Chwarterol, mae premiwm o £5 y flwyddyn (£1.25 y chwarter) ar gyfer y dull hwn o dalu. Mae'r premiwm o £5 yn cael ei ragnodi gan y Senedd o dan Reoliadau Cyfathrebiadau (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y'u diwygiwyd). Rhoddir gwybod i unigolion am y premiwm hwn pryd bynnag y byddant yn dewis y dull hwn o dalu, ac mae'n cael ei amlinellu yn y cynllun talu a roddir gyda phob trwydded newydd hefyd. Os byddai'n well gan bobl beidio â thalu'r premiwm hwn, mae yna ddewisiadau eraill o ran talu, gan gynnwys debyd uniongyrchol misol a blynyddol.

Beth fydd yn digwydd os byddwch chi'n codi gormod am ffi'r Drwydded yn anfwriadol?

Pan fydd Trwyddedu Teledu'n dod yn ymwybodol bod gwall wedi digwydd, bydd yn ceisio datrys y sefyllfa a threfnu ad-daliad cyn gynted â phosib.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.