dcsimg

Hygyrchedd

Gwneud Trwyddedu Teledu yn hygyrch i bawb

Y ffordd y byddwn yn ymdrin â hygyrchedd yw sicrhau eich bod yn gallu cael at y wybodaeth angenrheidiol yn hawdd, yn ogystal â chysylltu â ni mewn ffordd sy’n addas i chi.

Rydym bob amser yn gweithio’n galed i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’n cwsmeriaid a’i wneud yn fwy hygyrch.

Dyma ragor o wybodaeth am y cymorth rydym yn ei ddarparu:

  • Gallwch gael eich Trwydded Deledu neu lythyr atgoffa mewn nifer o fformatau hygyrch (yn Saesneg) gan gynnwys trwy e-bost neu mewn Braille, print bras neu sain trwy ffonio 0300 790 6042*.

  • Gallwch ddod o hyd i wybodaeth allweddol gydag esboniad syml yn ein taflen Hawdd i'w Deall (817 KB yn agor mewn ffenestr newydd) neu ar ein tudalennau Hawdd i'w Deall.

  • Os ydych yn byw mewn llety ar gyfer gofal preswyl (ARC) fe allech fod yn gymwys i gael consesiwn ar eich Trwydded Deledu. Rhaid i chi a’ch llety fod yn gymwys. Fe gewch wybodaeth bellach ar ein tudalen i breswylwyr cartrefi gofal.

  • Os ydych yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg) a’ch bod yn gallu darparu’r dystiolaeth briodol, rydych yn gymwys i wneud cais am gonsesiwn o 50%. Fe fydd eich trwydded hefyd yn trwyddedu unrhyw un sy’n byw gyda chi.

  • Os ydych yn fyddar, wedi colli eich clyw neu nam ar eich lleferydd, rydym yn cefnogi gwasanaeth Relay UK (gynt yn NGTS - agor mewn ffenestr newydd). Mae Relay UK yn helpu pobl fyddar, pobl â nam ar eu lleferydd, a phobl sy’n clywed i siarad â’i gilydd dros y ffôn gan ddefnyddio cyfnewid testun.

  • Gallwch ddod o hyd i wybodaeth allweddol yn Gymraeg ar ein tudalen Gymraeg.

  • Gallwch ddod o hyd i wybodaeth allweddol mewn llawer o ieithoedd eraill yn ogystal â thaflenni cymorth sydd ar gael mewn nifer o ieithoedd neu os bydd arnoch angen rhoi caniad i ni ond angen cyfieithydd, fe all ein swyddogion ddarparu’r gwasanaeth hwn.

  • Os ydych yn anabl byddwn yn ystyried pob cais am addasiadau eraill i’n gwasanaeth safonol a derbyn ceisiadau rydym yn barnu eu bod yn rhesymol. Os bydd arnoch angen i ni ystyried addasiad, ffoniwch ni ar 0300 790 6042* neu cysylltwch â ni (yng ngham 2 y ffurflen cliciwch y botwm 'Contact us' ar y gwaelod). Rhowch grynodeb o’ch anabledd ac unrhyw anawsterau rydych yn eu profi wrth ddelio â gwasanaeth Trwyddedu Teledu oherwydd eich anabledd. Gallwch hefyd roi manylion yr addasiad yr hoffech i ni ei ystyried.

  • Os ydych yn cael trafferth talu mae gennym wybodaeth a chyngor a allai eich helpu.

Ein gwefan

Byddwn yn ceisio sicrhau bod y gwe-lywio ar hyd a lled ein gwefan yn gweithio mewn ffordd gyson. Rydym yn defnyddio ffont safonol ar gyfer y we er mwyn ei gwneud yn hawdd i bawb ei darllen, ac yn y rhan fwyaf o achosion fe allwch addasu maint y ffont gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr.

Fe gafodd ein gwefan ei chynllunio i gwrdd â chanllawiau hygyrchedd Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) at isafswm safon AA ac AAA ble bo modd. Byddwn hefyd yn gwneud ein gorau glas i fynd bob yn gam â newidiadau i’r canllawiau hyn a sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau ar y wefan yn cydymffurfio â’r canllaw diweddaraf.

Ond, os cewch chi unrhyw anawsterau gyda hygyrchedd ein gwefan, ffoniwch ni ar 0300 790 6042* neu cysylltwch â ni (yng ngham 2 ar y ffurflen cliciwch y botwm 'Contact us' ar y gwaelod).

Gallwch gael arweiniad pellach ar hygyrchedd y wefan yn safle cymorth gyda hygyrchedd y BBC.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.