dcsimg

Dros 75? Gweld a allwch gael Trwydded Deledu am ddim

View in English

Gallwch wneud cais am Drwydded Deledu am ddim:

  • Os ydych chi, fel deiliad y drwydded, yn 75 mlwydd oed neu drosodd
    AC
  • Os ydych chi, neu eich partner sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn derbyn Credyd Pensiwn.

Ddim yn gymwys i gael Trwydded Deledu am ddim? Adnewyddwch neu talwch am eich Trwydded Deledu

Yn talu am Drwydded Deledu ar hyn o bryd?

Fe ddylech barhau i wneud eich taliadau i barhau wedi’ch trwyddedu. Os bydd angen, gallwch adnewyddu eich trwydded ar lein.

Ddim wedi’ch trwyddedu?

Os oes arnoch angen Trwydded Deledu ac nad ydych yn talu am un ar hyn o bryd prynwch drwydded nawr.

Dysgwch am ffyrdd o dalu.

Yn derbyn Credyd Pensiwn? Dysgwch sut i gael Trwydded Deledu am ddim

Mae Trwyddedau Teledu am ddim ar gael yn unig os ydych yn 75 neu drosodd a’ch bod chi, neu eich partner sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn derbyn Credyd Pensiwn.

Mae gennych Drwydded Deledu yn barod? Gwnewch gais am Drwydded Deledu am ddim ar lein

Os ydych yn 75 neu drosodd a’ch bod chi, neu eich partner sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn derbyn Credyd Pensiwn, mewngofnodwch i wneud cais am drwydded am ddim.

Yn gymwys i gael Trwydded Deledu am ddim ond yn methu gwneud cais ar lein?

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i gael trwydded am ddim ond yn methu gwneud cais ar lein, ffoniwch 0300 790 6042* a chael gair ag un o’n cynghorwyr i ofyn am ffurflen gais (mae ein llinellau ar agor rhwng 8.30am a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais gall gymryd ychydig wythnosau i’w brosesu. Os bydd unrhyw broblemau byddwn yn ysgrifennu i roi gwybod i chi. Gallwn eich ffonio hefyd os ydych wedi rhoi eich rhif ffôn i ni.


Ddim ar Gredyd Pensiwn ond yn meddwl y gallech fod yn gymwys?

Os nad ydych yn derbyn Credyd Pensiwn ond yn meddwl y gallech fod yn gymwys i’w dderbyn, mae’n werth holi.

  • Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich incwm ymddeol
  • Ar gyfartaledd mae taliadau Credyd Pensiwn dros £67 yr wythnos†
  • Fe allech fod yn gymwys hyd yn oed os oes gennych bensiwn, cynilion neu’n berchen ar eich cartref
  • Nid yn unig mae’n gadael i chi hawlio Trwydded Deledu am ddim, ond gall helpu hefyd gyda:
– costau tai,
– biliau gwresogi,
– Treth cyngor,
– gofal deintyddol ar y GIG,
– a mwy.

Mae’n hawdd gweld a allwch gael Credyd Pensiwn. Ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 99 1234 (oriau agor 8.00am - 6.00pm) neu ewch i gov.uk/credyd-pensiwn.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Ganolfan Bensiynau Gogledd Iwerddon ar 0808 100 6165. Neu ewch i nidirect.gov.uk/pension-credit.

Sylwch, ni all Trwyddedu Teledu roi cyngor ynghylch bod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn.


Ad-daliadau

Os buoch yn talu am Drwydded Deledu pan oeddech yn gymwys i gael un am ddim, fe allech fod yn gymwys i gael ad-daliad. Byddwn yn prosesu hyn fel rhan o’ch cais.


Gwneud cais am Drwydded Deledu am ddim ar lein cyn i chi gyrraedd 75

Os ydych eisoes yn derbyn Credyd Pensiwn, gallwch wneud cais am eich trwydded am ddim pan fyddwch yn 74 mlwydd oed. Byddwn yn diweddaru eich taliadau i’ch trwyddedu hyd at eich pen-blwydd yn 75, ac yna byddwch wedi’ch trwyddedu gan eich trwydded am ddim. Byddwn yn ysgrifennu i gadarnhau hyn.

Mewngofnodwch i wneud cais am drwydded am ddim.


A yw eich amgylchiadau wedi newid?

Os yw deiliad y drwydded wedi marw

Ffoniwch 0300 790 6042* i roi gwybod i bwy y dylem drosglwyddo’r drwydded. Os ydych yn byw yn yr un cyfeiriad, fe fyddwch wedi’ch trwyddedu nes bydd y drwydded bresennol yn dod i ben.

Os ydych yn gymwys, yna gallwch wneud cais am Drwydded Deledu am ddim newydd. Os ddim, bydd angen i chi brynu trwydded newydd pan ddaw’r un bresennol i ben.

Mwy o gymorth a chyngor am beth i’w wneud os bydd deiliad y drwydded yn marw.

Os ydych wedi symud tŷ

Gallwch symud eich trwydded i’ch cyfeiriad newydd trwy ddiweddaru eich manylion ar lein.

Os ydych wedi symud i gartref gofal preswyl

Os ydych yn 75 neu drosodd ac yn byw mewn cartref gofal preswyl, fe allech gael eich trwyddedu gan Drwydded Deledu ARC (Llety ar gyfer Gofal Preswyl) a fydd dim rhaid i chi dalu am drwydded hyd yn oed os nad ydych yn derbyn Credyd Pensiwn. Dylech siarad â gweinyddwr eich cartref gofal.


Unrhyw gwestiynau eraill?

Beth yw Credyd Pensiwn?

Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal sydd ar gael i bensiynwyr ar incwm isel. Y mae ar wahân i bensiwn y wladwriaeth.

Fe allech fod yn gymwys hyd yn oed os oes gennych bensiwn, cynilion neu’n berchen ar eich cartref. Mae’n helpu hefyd gyda chostau tai, biliau gwresogi, Treth cyngor, gofal deintyddol ar y GIG a mwy.

Mae’r Drwydded Deledu am ddim i bobl 75 mlwydd oed neu drosodd yn gymwys i’r rhai sy’n derbyn y naill ran neu’r llall o Gredyd Pensiwn – Credyd Gwarant neu Gredyd Cynilion (neu’r ddau).

Mae’n hawdd gweld a allwch gael Credyd Pensiwn. Ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 99 1234 (oriau agor 8.00am - 6.00pm) neu ewch i gov.uk/credyd-pensiwn.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Ganolfan Bensiynau Gogledd Iwerddon ar 0808 100 6165. Neu ewch i nidirect.gov.uk/pension-credit.

Sut byddwn i’n gwybod a wyf yn derbyn Credyd Pensiwn yn barod?

Gallwch edrych ar eich cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu lle bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn talu eich budd-dal. Fe ddylech weld eitem gyda’ch Rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan y llythrennau “PC”.

Yn ogystal, bydd DWP wedi anfon llythyr hawlio atoch sy’n dangos eich cyfradd newydd o Gredyd Pensiwn sy’n daladwy.

A yw lwfans gweini yn gymwys i gael Trwydded Deledu am ddim?

Ar hyn o bryd, nid yw lwfans gweini yn eich gwneud yn gymwys i gael Trwydded Deledu am ddim.

Mae consesiynau ar ffi’r Drwydded Deledu ar hyn o bryd ar gael i bobl 75 mlwydd oed a throsodd sy’n derbyn Credyd Pensiwn, pobl sy’n ddall neu â nam difrifol ar eu golwg, pobl sy’n byw mewn gofal preswyl cymwys, a busnesau sy’n cynnig llety dros nos, fel gwestai.

Pa dystiolaeth o Gredyd Pensiwn sydd ei hangen?

Tystiolaeth o Gredyd Pensiwn

Pan fyddwch yn gwneud cais ar lein, bydd angen i chi lanlwytho copi neu lun o ddogfen sy’n dangos eich bod chi (neu eich partner) yn derbyn Credyd Pensiwn. Does dim raid i’r ddogfen ddangos faint rydych yn ei dderbyn.

Bydd arnom angen un o’r canlynol: Llythyr Dyfarnu Credyd Pensiwn, Llythyr Uwchraddio Credyd Pensiwn, Llythyr Disgownt Cartref Cynnes neu lythyr tystiolaeth o fudd-dal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dylai:

  • ddangos eich enw llawn neu enw eich partner (sy’n byw yn yr un cyfeiriad)
  • cynnwys cyfeiriad eich cartref (a chyd-fynd â’r cyfeiriad ar eich Trwydded Deledu)
  • bod wedi’i dyddio o fewn y 12 mis diwethaf (neu 24 mis ar gyfer llythyr dyfarnu Credyd Pensiwn)

Tystiolaeth o Oedran

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth hefyd fod deiliad y drwydded dros 74 mlwydd oed.

Gallwch lanlwytho copi neu lun o un o’r canlynol: Pasport (tudalen y ffotograff), Trwydded Yrru, Tystysgrif Geni, Cerdyn Adnabod Cenedlaethol yr UE/AEE.

Os yw eich enw ar y dystiolaeth o oedran yn wahanol i’r enw sydd ar eich Trwydded Deledu bydd angen i chi lanlwytho llun neu ddogfen wedi’i sganio yn dangos eich tystysgrif priodas neu weithred newid enw.

Sylwch, ni all Trwyddedu Teledu roi cyngor ar dystiolaeth o Gredyd Pensiwn.

Os bydd arnoch angen cymorth bydd angen i chi ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 99 1234 (oriau agor 8.00am - 6.00pm) neu ewch i gov.uk/credyd-pensiwn.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Ganolfan Bensiynau Gogledd Iwerddon ar 0808 100 6165. Neu ewch i nidirect.gov.uk/pension-credit.

Beth os oes mwy nag un person dros 75 mlwydd oed yn byw yn fy nghyfeiriad?

Mae un drwydded yn trwyddedu eich prif gartref, ni waeth pwy sy'n byw yno. Felly dim ond un ohonoch sydd angen gwneud cais am Drwydded Deledu am ddim.

A fydd fy Nhrwydded Deledu am ddim yn trwyddedu pobl yn fy nghyfeiriad sy'n iau na 75?

Bydd. Bydd eich Trwydded Deledu am ddim hefyd yn trwyddedu unrhyw berson(au) iau na 75 sy'n byw yn eich prif gyfeiriad, hyd nes y daw'r drwydded i ben.

Mae gen i Drwydded Deledu am ddim, a gaf i hawlio ail drwydded am ddim ar gyfer fy nghartref gwyliau?

Na chewch. Does dim hawl gan unrhyw un sydd â Thrwydded Deledu am ddim yn eu prif gyfeiriad i gael trwydded arall am ddim ar gyfer unrhyw gyfeiriad arall.

Os oes angen trwydded, prynwch un nawr.

A yw'r Drwydded Deledu am ddim yn mynd i gael ei dileu?

Nac ydi, mae’n dal yn bosib cael eich Trwydded Deledu am ddim os ydych yn 75 neu drosodd a’ch bod chi, neu eich partner sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn derbyn Credyd Pensiwn.

Mae consesiynau eraill ar gael:

  • Os ydych yn byw mewn gofal preswyl cymwys
  • Os ydych yn ddall neu â nam difrifol ar eich golwg
  • Os ydych yn berchen ar fusnes sy’n darparu llety dros nos.

Gallwch wneud cais am Drwydded Deledu am ddim ar lein neu ffonio 0300 790 6042.

A oes Trwydded Deledu am ddim i bobl dros 60?

Does dim Trwydded Deledu am ddim i bobl dros 60. Mae Trwyddedau Teledu am ddim ar gael yn unig os ydych yn 75 neu drosodd a’ch bod chi, neu eich partner sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn derbyn Credyd Pensiwn.

Os bydd arnoch angen unrhyw gymorth arall, edrychwch ar y ffyrdd o gysylltu â ni(yn Saesneg).

 

†Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau – Awst 2022

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.


 

Help us improve TV Licensing

Is this page useful?
Icon: helpful (Thumbs up)
Icon: helpful (thumbs up)
Icon: not helpful (Thumbs down)
Icon: not helpful (Thumbs down)
Yes
No

 

Your feedback is valuable to us. Please don’t include personal or financial
information like your National Insurance number or credit card details.

 

Thank you !