dcsimg
 

Mae arna’i angen help i ddefnyddio ap TVL Pay

Mae ap TVL Pay ar gyfer ffonau symudol am ddim i'w lawrlwytho ac mae'n caniatáu i gwsmeriaid cerdyn talu Trwyddedu Teledu neu gwsmeriaid cerdyn y Cynllun Talu Syml wneud taliadau tuag at eu Trwydded Deledu yn gyfleus a hawdd, lle bynnag y bônt.

Mae’r ap ar gael yn unig i gwsmeriaid sy’n talu gan ddefnyddio cerdyn talu Trwyddedu Teledu neu gwsmeriaid cerdyn y Cynllun Talu Syml (nid yw ar gael ar hyn o bryd i gwsmeriaid cerdyn cynilo Trwyddedu Teledu). Dysgwch fwy am ffyrdd eraill o dalu am eich Trwydded Deledu ffyrdd eraill o dalu.

Content Server Image

Mae ap TVL Pay yn gadael i gwsmeriaid:

  • Gofrestru cerdyn debyd neu gredyd i wneud taliadau hawdd i Drwyddedu Teledu
  • Gweld y 10 taliad diwethaf a wnaed trwy’r ap
  • Defnyddio’r côd bar yn yr ap i wneud taliad mewn unrhyw siop PayPoint

I lawrlwytho’r ap, ewch i’r App Store neu Google Play.

Angen mwy o gymorth neu gyngor? Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin isod.

 

Oes rhaid i mi gofrestru i ddefnyddio TVL Pay?

Nac oes, does dim rhaid i chi gofrestru i ddefnyddio TVL Pay. Ond trwy gofrestru bydd modd i chi storio eich cerdyn Trwyddedu Teledu neu gerdyn y Cynllun Talu Syml, a manylion cerdyn debyd neu gredyd i'ch helpu i wneud talu yn haws. Byddwch hefyd yn gallu gweld y 10 taliad diwethaf a wnaethoch trwy’r ap.


Sut mae cofrestru i ddefnyddio’r ap? (dewiswch i gael gwybod mwy)

Unwaith y byddwch wedi lawrlwytho ap TVL Pay a’i agor ar eich dyfais, dewiswch ‘Cofrestru’ ar y sgrîn hafan.
 

Cam 1 – cysylltu cerdyn talu Trwyddedu Teledu neu gerdyn y Cynllun Talu Syml â’r ap

Rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y maes ‘Cyfeiriad e-bost’.

Content Server Image

'A' Os oes gennych lythyr gyda’ch côd bar arno:

  • gallwch ddewis eicon y camera yn y gornel dde uchaf i’w sganio.

'B' Os yw eich cerdyn gennych:

  • tapiwch y botwm ‘Ychwanegu cerdyn’, dewiswch ‘Cerdyn Trwyddedu Teledu’ neu 'Cerdyn y Cynllun Talu Syml', yna teipiwch rif cerdyn 19 digid Trwyddedu Teledu.

Dewiswch ‘Nesaf’ ar waelod y sgrîn.
 

Cam 2 – cadarnhau eich cyfrif

Byddwch yn derbyn e-bost gyda chôd, i gadarnhau eich cyfrif. Os na fydd yr e-bost yn cyrraedd eich blwch derbyn, edrychwch ar eich ffolder sothach. Teipiwch y côd yn y bocs ‘Rhoi côd’.

Dewiswch ‘Nesaf’ ar waelod y sgrîn.
 

Cam 3 – cofrestru eich cyfrif TVL Pay

Rhowch eich Enw Cyntaf, Enw Olaf a rhif ffôn symudol y Deyrnas Unedig yn y meysydd a ddarperir. Yna crëwch gyfrinair ar gyfer eich cyfrif TVL Pay yn y maes ‘Cyfrinair’.

Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys 1 briflythyren, 1 llythyren fach, 1 rhif, a bod o leiaf 10 llythyren o hyd. A wnewch chi gadarnhau eich cyfrinair yn y bocs ‘Cadarnhau cyfrinair’.

Tapiwch ‘Gorffen’ ar waelod y dudalen.
 

Cam 4 – ar ôl cofrestru

Ar ôl cofrestru’n llwyddiannus, byddwn yn gofyn a ydych eisiau ychwanegu cerdyn banc, fel cerdyn debyd neu gredyd. Gallwch un ai wneud hyn ar unwaith, neu ei ychwanegu yn nes ymlaen.

Byddwch yn derbyn neges destun hefyd yn gofyn i chi i gadarnhau rhif eich ffôn symudol. Bydd côd yn y neges destun. Agorwch yr ap ar eich dyfais, ewch i ‘Fy newisiadau’ a rhowch y côd i gadarnhau. Byddwch yn gallu dewis gofyn am gôd arall hefyd, os bydd angen un.

Sut mae dod o hyd i rif 19 digid fy ngherdyn talu?

Mae rhif 19 digid eich cerdyn 'C' ar gerdyn Trwyddedu Teledu neu ar gerdyn y Cynllun Talu Syml. Gallwch hefyd ddefnyddio ap TVL Pay i sganio’r côd bar ar eich llythyr oddi wrth Drwyddedu Teledu i gofrestru.


Content Server Image

Dydy fy ngherdyn Trwyddedu Teledu ddim wedi cael ei adnabod.

Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer cerdyn Trwyddedu Teledu a cherdyn y Cynllun Talu Syml y mae modd defnyddio ap TVL Pay. I weld a oes gennych gerdyn talu, bydd ‘Eich Cerdyn Talu’ i’w weld ar frig eich cerdyn.

Os oes gennych gerdyn cynilo, fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio’r ap. Dyma’r sefyllfa ar hyn o bryd, ond rydym wrthi’n ystyried sut i ehangu’r gwasanaeth yn y dyfodol.


Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair.

Dewiswch opsiwn ‘Wedi anghofio fy nghyfrinair’ ar dudalen mewngofnodi TVL Pay. Rhowch eich cyfeiriad e-bost a byddwn yn egluro’r camau syml i chi newid eich cyfrinair.


Rydw i wedi dileu fy nghôd i gychwyn arni.

Os nad yw’r côd gyda chi yr anfonon ni atoch wrth i chi gofrestru, bydd angen i chi aros 48 awr cyn dechrau’r broses gofrestru eto.


Alla i ddim cwblhau’r cam cofrestru olaf.

I gwblhau’r cam olaf, gwnewch yn siŵr fod eich cyfrinair rhwng 10 a 40 o nodau o hyd, ei fod yn cynnwys o leiaf un briflythyren, un llythyren fach, un rhif a dim nodau arbennig.


Sut ydw i’n newid yr iaith?

Gallwch newid yr iaith i Gymraeg neu Saesneg ar y sgrîn 'Mewngofnodi’, neu ar waelod adran Fy newisiadau. Dylech nodi, bydd negeseuon testun ac e-byst yn cael eu hanfon yn Saesneg.


Sut ydw i’n ychwanegu cerdyn Trwyddedu Teledu newydd?

Unwaith i chi fewngofnodi, dewiswch ‘Fy nghardiau Trwyddedu Teledu’. Gallwch naill ai ddewis ‘Ychwanegu cerdyn’ a rhoi eich rhif cerdyn 19 nod, neu gallwch glicio ar yr eicon camera yn y gornel uchaf ar y dde i sganio’r côd bar ar eich llythyr.


Rydw i eisoes wedi cofrestru fy ngherdyn debyd neu gredyd gyda chi. Pam mae angen i mi gadw manylion fy ngherdyn ar gyfer yr ap?

Ni fydd ap TVL Pay a'n systemau yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'i gilydd. Mae arnom angen eich caniatâd i gadw manylion eich cerdyn ar gyfer yr ap.


Sut ydw i’n ychwanegu cerdyn banc newydd?

Unwaith i chi fewngofnodi, dewiswch eicon ‘Fy nghardiau banc’ a phwyswch + yn y gornel uchaf ar y dde.

Content Server Image

Bydd angen i chi nodi’r math o gerdyn, rhif y cerdyn, y dyddiad dod i ben, yr enw ar eich cerdyn, côd diogelwch y cerdyn ac enw ar gyfer y cerdyn. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd iddo.


Pam ydw i wedi talu ceiniog ar ben fy nhaliad?

Mae rhai banciau’n codi ceiniog i awdurdodi eich cerdyn banc. Bydd y swm i’w weld ar eich cyfriflen banc, a ddim yn eich cyfrif Trwyddedu Teledu. Bydd eich banc yn ad-dalu’r swm i chi yn y pendraw, ond bydd pa mor hir y bydd hyn yn ei gymryd yn dibynnu ar y banc.


Alla i dalu gan ddefnyddio cerdyn debyd sydd heb ei arbed?

Gallwch. Ewch i ‘Talu’ ac ar ôl dewis y cyfrif yr hoffech wneud taliad ar ei gyfer, dewiswch yr opsiwn i ddefnyddio cerdyn arall. Wedyn, rhowch y manylion newydd.


Sut bydda i'n gwybod bod fy nhaliad wedi'i gasglu?

Bydd y taliad yn cael ei gadarnhau yn eich ap TVL Pay unwaith y byddwch wedi talu. Gallwch weld eich taliadau trwy'r ap yn ‘Fy nhaliadau' ar y sgrîn hafan.


Pa negeseuon testun neu e-byst fydda i'n eu derbyn o'r ap?

Byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost wrth gofrestru, a chadarnhad trwy neges destun ar ôl cofrestru. Byddwch yn derbyn e-bost i newid cyfrinair os ydych wedi anghofio eich cyfrinair.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn e-byst a negeseuon testun i gadarnhau taliad yn unig, gan ddibynnu ar eich dewisiadau yn adran ‘Fy newisiadau’ ar yr ap.

TVL Pay fydd yr anfonwr ar negeseuon testun ac e-byst. Ar gyfer e-byst, bydd y cyfeiriad yn ymddangos fel noreply@paypoint.com


Oes rhaid i mi dalu am dderbynebau trwy neges destun neu e-bost?

Nac oes. Does dim ffioedd am dderbyn eich derbynneb naill ai trwy neges destun neu e-bost.


Sut ydw i’n diffodd derbynebau trwy neges destun neu e-bost ar gyfer taliadau a wnes i trwy TVL Pay?

Unwaith i chi fewngofnodi, ewch i ‘Fy newisiadau’ i ddiffodd derbynebau trwy neges destun neu e-bost. Os byddwch yn penderfynu eich bod am gael derbynneb yn y dyfodol, gallwch ddefnyddio’r switsh i wneud hynny. Nodwch ei bod yn bosib y byddwch yn dal i dderbyn e-byst neu negeseuon testun eraill oddi wrth Drwyddedu Teledu hyd yn oed wrth ddewis peidio derbyn derbynebau trwy neges destun neu e-bost yn TVL Pay.


Sut ydw i’n newid y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i gysylltu â fy nghyfrif TVL Pay?

Os ydych am newid y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i gysylltu â’ch cyfrif TVL Pay, bydd angen i chi gofrestru eto gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost newydd.


Sut bydd y taliadau hyn yn ymddangos ar fy nghyfriflen banc?

Bydd unrhyw daliadau a wneir trwy ap TVL Pay yn ymddangos ar eich cyfriflen banc fel tvlicensing.co.uk


Pa eitemau alla'i eu gweld ar ap TVL Pay?

Mae ap TVL Pay yn gadael i chi weld y 10 eitem ddiwethaf a wnaethoch gyda cherdyn debyd neu gredyd trwy'r ap yn unig. Os byddwch yn gwneud taliad trwy ddull gwahanol ni fydd y rhain yn ymddangos yn yr ap. Bydd angen i chi logio i mewn i'n gwefan neu edrych ar eich cyfriflenni banc i weld unrhyw daliadau eraill.

Ble alla'i weld taliadau dydw i ddim wedi'u gwneud trwy TVL Pay?

I weld y taliadau blaenorol a wnaethoch tuag at eich Trwydded Deledu, ewch i tvl.co.uk/cynllunarian (yn Saesneg) ar gyfer cardiau Trwyddedu Teledu, neu i tvl.co.uk/spp ar gyfer cardiau’r Cynllun Talu Syml. Bydd arnoch angen eich rhif Trwydded Deledu neu eich rhif cwsmer, eich enw olaf a’ch côd post i fewngofnodi. Bydd taliadau a wneir trwy'r ap TVL Pay neu mewn siop PayPoint (mewn Swyddfa Bost yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw) yn ymddangos fel PP.


Derbyniais e-bost oddi wrth noreply@paypoint.com. Ai sgam yw hyn?

Os ydych yn gwsmer cerdyn talu Trwyddedu Teledu neu’n gwsmer cerdyn y Cynllun Talu Syml a’ch bod yn defnyddio ap TVL Pay i wneud taliadau am Drwydded Deledu trwy eich ffôn symudol, bydd eich derbynebau a’ch e-byst cadarnhad yn cael eu hanfon o noreply@paypoint.com a bydd enw’r anfonwr yn ymddangos fel TVL Pay. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, ewch i’n tudalennau diogelwch.


Unrhyw gwestiynau eraill?

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am eich Trwydded Deledu, ewch i'n Cwestiynau Cyffredin, neu wefan y Cynllun Talu Syml.

 

General information about TV Licensing is available in other languages: