Rydym eisiau eich helpu i gadw eich data yn saff. Ar y dudalen yma rydym yn dangos sut i adnabod a riportio e-bost ffug. Mae gennym gyngor hefyd ar sgamiau gyda negeseuon testun a galwadau ffôn a llythyrau ffug. Gallwch weld eich trwydded neu gynllun talu trwy fewngofnodi (yn Saesneg) ar ein gwefan
Rydym hefyd yn darparu canllaw y gallwch ei lawrlwytho gyda chyngor ar sut i adnabod y sgamwyr.
Fe fyddwn ni’n cynnwys yr enw a/neu ran o’ch côd post yn ein negeseuon e-bost. Bydd llawer o negeseuon ffug yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost yn unig neu’n dweud ‘Annwyl Gwsmer’.
Bydd e-byst ffug yn aml yn dweud wrthych fod angen i chi wneud taliad brys. Fyddwn ni ddim yn e-bostio cwsmeriaid ynglŷn â thaliadau oni bai eu bod wedi methu taliad. Gallwch fewngofnodi (yn Saesneg) i’ch cyfrif i weld a yw hyn yn wir.
Gall e-byst ffug ddangos rhif trwydded ffug. Mae rhif eich trwydded i’w weld ar lythyrau y byddwn yn eu hanfon atoch, neu chwiliwch ym mlwch derbyn eich e-bost am e-byst oddi wrth donotreply@tvlicensing.co.uk’ (neu ‘donotreply@spp.tvlicensing.co.uk’).
Byddwn yn anfon ein negeseuon e-bost o donotreply@tvlicensing.co.uk (neu donotreply@spp.tvlicensing.co.uk).
Os ydych yn gwsmer cerdyn talu Trwyddedu Teledu ac yn gwneud taliadau ar eich ffôn symudol trwy ap TVL Pay, fe allech dderbyn negeseuon e-bost gan noreply@paypoint.com. Bydd enw’r anfonwr yn ymddangos fel ‘TVL Pay’.
Bydd sgamwyr yn aml yn cuddio'r gwir gyfeiriad e-bost y maen nhw'n ei ddefnyddio, cymerwch olwg ar y cyfeiriad e-bost. Ar eich dyfais, dewiswch enw (neu gyfeiriad e-bost) yr anfonwr i ddangos y cyfeiriad e-bost go iawn.
Cymerwch olwg ar y cyfeiriad gwe. Gwnewch yn siwr eich bod yn tvlicensing.co.uk neu spp.tvlicensing.co.uk
Dyma enghraifft o e-bost go iawn Trwyddedu Teledu. Rydym wedi’i labelu i’ch helpu i weld a yw e-bost a gawsoch yn ffug.
1. Edrychwch ar yr anfonwr
Bydd e-byst dilys Trwyddedu Teledu yn cael eu hanfon o donotreply@tvlicensing.co.uk, donotreply@spp.tvlicensing.co.uk neu tvlfieldresearchteam@tvlicensing.co.uk.
Ar gyfrifiadur neu liniadur, fe ddylech allu gweld y cyfeiriad e-bost go iawn rhwng y symbolau < >. Ond ar ddyfais symudol, mae’n bosib y bydd angen dewis enw’r anfonwr i weld y cyfeiriad.
TV Licensing <donotreply@tvlicensing.co.uk>
TV Licensing <note81.co.uk>
2. Côd post rhannol
Os ydych wedi rhoi manylion eich côd post i ni, bydd e-byst oddi wrthym yn cynnwys rhan o’ch côd post a/neu yr enw ar y drwydded.
3. Chwiliwch am eich enw
Os ydych wedi rhoi eich enw i ni, yna fe fyddwn bob amser yn eich cyfarch gan ddefnyddio eich enw olaf a theitl. Fydd y wybodaeth honno ddim gan y twyllwyr fel arfer. Felly, gwyliwch rhag e-byst sydd ond yn cyfeirio atoch fel “Annwyl gleient” neu “Annwyl gwsmer” – neu sy’n defnyddio eich cyfeiriad e-bost yn unig (neu ran ohono).
4. Edrychwch ar sillafu a gramadeg
Oherwydd bod twyllwyr yn methu defnyddio cyfeiriadau dilys Trwyddedu Teledu neu gyfeiriadau e-bost, fe fyddan nhw’n ceisio defnyddio sillafiadau ychydig yn wahanol – chwiliwch am bethau fel heiffen ac atalnod llawn mewn lleoedd rhyfedd.
Byddwch yn amheus hefyd os oes camgymeriadau yn yr e-bost gyda phriflythrennau neu wallau gramadegol eraill, fel atalnodau llawn ar goll – gallai hyn fod yn dwyll.
5. Edrychwch ar y dolenni
Gwyliwch rhag e-byst sy’n addo arian/ad-daliad. Er enghraifft, ymadroddion fel, “cliciwch isod i gael eich ad-daliad”, wedi’i ddilyn gan gais i ddarparu manylion eich cerdyn credyd neu fanylion banc (fydden ni byth yn prosesu ad-daliad fel hyn).
Dylech bob amser edrych ar ddolenni mewn e-bost cyn clicio neu dapio arnynt.
Os ydych ar gyfrifiadur
Symudwch eich llygoden dros y ddolen (ond peidiwch â chlicio arni). Bydd hyn yn datgelu enw’r cyfeiriad gwe rydych yn cael eich anfon ato.
Os ydych ar ffôn clyfar neu dabled
Pwyswch ar y ddolen a’i dal i lawr (peidiwch â rhyddhau tra bo chi ar y ddolen). Bydd hyn yn datgelu enw’r cyfeiriad gwe rydych yn cael eich anfon ato.
Anfon neges testun atoch i ddweud bod gennych hawl i gael ad-daliad
Gofyn i chi ddarparu manylion eich banc drwy neges destun.
Gofyn i chi roi unrhyw fanylion personol ar ein gwefan cyn i chi fewngofnodi’n llwyddiannus i’ch trwydded.
Cyn i chi roi unrhyw wybodaeth, dylech wirio bod cyfeiriad y wefan yn ddilys ac wedi dod o Trwyddedu Teledu:
Os ydych chi’n gwsmer Cerdyn Talu, efallai y byddwn yn anfon neges destun atoch yn gofyn i chi wneud taliad. Os ydych chi’n gwsmer Cynllun Talu Syml, mae’r ddolen yn mynd â chi i tvl.co.uk/spppay
Os ydych chi’n gwsmer Cerdyn Talu Trwyddedu Teledu ac yn gwneud taliadau ffôn symudol drwy ap TVL Pay, efallai y byddwch chi’n derbyn negeseuon testun gan TVL Pay er mwyn gadarnhau eich taliad.
Os ydych chi'n gwsmer Debyd Uniongyrchol, efallai y byddwch yn derbyn neges destun os oes yna broblem gyda'r taliad.
Os ydych chi’n talu am eich trwydded yn llawn, efallai y byddwn yn anfon neges destun atgoffa atoch pan fydd eich trwydded i gael ei hadnewyddu.
Os gwnaethoch chi dalu am Drwydded Deledu o’r blaen ar un o’n cynlluniau talu, efallai y byddwch chi’n derbyn neges destun yn gofyn i chi sefydlu ffordd newydd o dalu.
Os ydych chi wedi cysylltu â ni dros y ffôn neu ar ein gwasanaeth awtomataidd – efallai y byddwn yn anfon neges gadarnhau neu arolwg boddhad atoch.
Os yw’r neges yn gofyn i chi ffonio rhif, dylech weld a yw’n un o’r rhifau hyn:
Os cawsoch neges testun yn gofyn i chi ffonio unrhyw rif arall, peidiwch â’i ffonio.
Weithiau gallwn eich ffonio os oes problem gyda’ch Trwydded Deledu. Fel arfer bydd hyn yn gysylltiedig â methu taliad, Debyd Uniongyrchol wedi’i ganslo, neu eich atgoffa i adnewyddu.
Fe wnawn ni eich ffonio un ai o 0300 790 6075, 0300 555 0285, 0300 555 0355 neu 0300 303 9686
Os nad ydych yn siwr a yw’n ddilys, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol. Gallwch hefyd fewngofnodi i weld eich trwydded neu gynllun talu.
Os ydych wedi cysylltu â ni gydag ymholiad, gall un o’n tîm eich ffonio’n ôl i drafod hynny. Gall hyn fod o rif sy’n cael ei guddio, ond bydd yr alwad yn ymwneud â’ch ymholiad yn unig.
Gall sgamwyr anfon llythyr atoch, wedi’i gyfeirio atoch, yn gofyn i chi ffonio neu fynd ar lein i gadarnhau eich manylion talu.
Mae llythyrau oddi wrth Drwyddedu Teledu yn ddilys:
os ydych wedi’ch trwyddedu ar hyn o bryd a’ch bod wedi rhoi eich teitl a’ch enw olaf i ni, byddwn yn defnyddio’r rhain bob tro y byddwn yn ysgrifennu atoch. Byddwn yn cynnwys rhif eich Trwydded Deledu hefyd.
ydych wedi cofrestru fel ‘Dim Angen Trwydded’, byddwn yn cynnwys y cyfeirnod hwnnw yn hytrach na rhif eich Trwydded Deledu.
mae ein Tîm Ymchwil Maes wedi cysylltu â chi, byddwn yn cynnwys rhif eich trwydded deledu sydd wedi dod i ben.
Bydd llythyr ffug yn aml yn dweud wrthych fod problem gyda’ch trwydded neu fod ad-daliad yn ddyledus. Pwrpas hyn yw ceisio eich cael i fynd i wefan ffug neu ffonio rhif ffug i ddatrys y mater. Os byddwch yn ddrwgdybus neu’n amheus rywbryd ynghylch yr hyn y mae llythyr yn gofyn i chi ei wneud, mewngofnodwch i’ch trwydded i weld a oes unrhyw beth yn edrych o’i le.
Dyma wefannau swyddogol Trwyddedu Teledu:
tvlicensing.co.uk
tvl.co.uk
spp.tvlicensing.co.uk
75plan.tvlicensing.co.uk
Mae’r canllaw yma’n eich helpu i adnabod negeseuon dilys gan Drwyddedu Teledu, a sut i sylwi ar y sgamwyr.
Riportio e-bost sgam – Rydym yn cefnogi gwaith Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) y Llywodraeth i helpu i atal twyllwyr.
Anfonwch unrhyw e-byst sgam neu amheus ymlaen at report@phishing.gov.uk ac fe fyddan nhw’n ymchwilio.
Riportio neges testun sgam – TTynnwch sgrinlun o’r neges a’i hanfon at textscams@tvlicensing.co.uk
Your feedback is valuable to us. Please don’t include personal or financial
information like your National Insurance number or credit card details.