dcsimg

Sut i newid o Drwydded Deledu bapur i Drwydded Deledu ar lein

View in English
Woman signed into her TV Licence

Oeddech chi’n gwybod, does arnoch ddim angen trwydded bapur mewn gwirionedd?

Y rheswm yw fod manylion eich Trwydded Deledu eisoes wedi’u cadw’n ddiogel ar lein. Felly gallwch weld eich trwydded trwy’r wefan yma pryd bynnag rydych yn dymuno, ac mae’n dangos eich bod wedi’ch trwyddedu.

Pan fydd eich trwydded yn adnewyddu, yn hytrach nag anfon Trwydded Deledu bapur atoch drwy’r post, gallwn anfon e-bost atoch yn unig. Yr enw ar hyn yw Trwydded Deledu ‘ddi-bapur’.

laptop

Sut mae Trwydded Deledu ddi-bapur yn gallu gwneud pethau’n haws:

  • Mae’n haws adnewyddu
    Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd eich Trwydded Deledu wedi'i hadnewyddu, gyda dolen i’w gweld ar lein.
  • Mae’n ddiogel
    Fe wnawn ni gadw eich Trwydded Deledu, eich manylion banc a’ch manylion cyswllt yn ddiogel ar lein.
  • Mae’n hawdd dod o hyd iddi
    Oherwydd bod eich Trwydded Deledu yn cael ei chadw ar lein, mae’n haws dod o hyd iddi pan fydd arnoch angen gwneud hynny.
  • Mae’n hawdd newid
    Os bydd pethau fel eich cyfeiriad, neu eich manylion banc yn newid, gallwch fewngofnodi ar lein a’u diweddaru.

Gallech newid i Drwydded Deledu ddi-bapur nawr.

Os ydych yn talu am eich Trwydded Deledu trwy Ddebyd Uniongyrchol, neu gydag un taliad blynyddol, gallwch newid i Drwydded Deledu ddi-bapur (trwydded ar lein).

Nid yw’r dewis yma ar gael os ydych yn talu gyda cherdyn talu Trwyddedu Teledu neu gerdyn cynilo.

Sut i newid i Drwydded Deledu ddi-bapur:

I roi’r gorau i dderbyn Trwydded Deledu bapur a dechrau derbyn e-bost pan fydd eich trwydded yn adnewyddu (Trwydded Deledu ddi-bapur), bydd angen i chi:

  • Fewngofnodi i’n gwefan gan ddefnyddio rhif eich Trwydded Deledu. Bydd angen i chi roi eich enw olaf hefyd a’r côd post sydd ar eich Trwydded Deledu.
  • Yna dilynwch y camau sy’n ymddangos ar lein.

Ddim yn gwybod rhif eich trwydded?