Os nad oes gennym gofnod o drwydded yn eich cyfeiriad ac nad ydym wedi cael ateb i’n llythyrau, bydd un o Swyddogion Trwyddedu Teledu yn ymweld â chi. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydych chi wedi bod yn gwylio, yn recordio neu’n lawrlwytho teledu heb drwydded.
Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen Trwydded Deledu arnoch chi, dyma beth mae trwydded yn ei gynnwys.
Ffoniwch ni ar 0300 790 6044* os hoffech chi siarad â rhywun am hyn mewn iaith arall.
Bydd ein Swyddog yn esbonio’r rhesymau dros yr ymweliad. Bydd yn gwrtais, yn ystyriol ac yn deg. A bydd yn dilyn ein cod ymddygiad.
Os byddwch yn gadael y Swyddog i ddod i mewn i’ch cartref, byr iawn yw’r ymweliad fel arfer. Bydd y Swyddog:
Mae Swyddogion yn gwisgo camera corff i’w diogelu ac i atal pobl rhag eu sarhau. Dyma ragor o wybodaeth am ein defnydd o gamerâu corff.
Os nad oeddech chi wedi rhoi gwybod i’r Swyddog yn ystod yr ymweliad am unrhyw amgylchiadau personol neu broblemau rydych chi’n eu hwynebu ar y pryd, peidiwch â phoeni. Ffoniwch ni ar 0300 373 5453 a byddwn yn esbonio beth mae angen i chi ei wneud.
Pan fydd y Swyddog yn ymweld, bydd yn dangos dau gerdyn ID i chi:
Mae un yn cynnwys ein logo, enw cyntaf y Swyddog, dyddiad dod i ben a rhif y cerdyn.
Mae’r llall yn cynnwys enw cyntaf y Swyddog a ffotograff. Mae hyn yn dangos bod gan y Swyddog hawl i ymchwilio ar ein rhan.
Os byddwn yn cael gwarant chwilio gan ynad (neu siryf yn yr Alban), mae Swyddogion yn gallu mynd i mewn i’ch cyfeiriad heb eich caniatâd.
Gallwn ofyn am warant chwilio pan fydd gennym reswm i gredu bod y gyfraith yn cael ei thorri. Bydd yr heddlu yn dod gyda’r Swyddog i’r ymweliad.
Bydd angen i chi brynu Trwydded Deledu, os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny ers yr ymweliad. Efallai y byddwch yn gallu osgoi erlyniad neu ddirwy drwy brynu trwydded a gwneud eich taliadau.
Os felly, byddwn yn ysgrifennu atoch chi.
Oes gennych chi Drwydded Deledu yn barod?
*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.