Os ydych yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg) gallwch gael Trwydded Deledu am hanner y gost arferol.
Ac os ydych yn byw gyda rhywun sy’n ddall (â nam difrifol ar eu golwg), gallwch gael Trwydded Deledu am hanner y gost o hyd. Cofiwch wneud cais am y drwydded yn eu henw nhw.
Bydd angen i chi brofi eich bod chi, neu’r sawl rydych yn gwneud cais ar ei ran, yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg).
Felly, pan fyddwch yn anfon eich ffurflen gais atom, cofiwch gynnwys copi o un o’r dogfennau isod (peidiwch ag anfon y dogfennau gwreiddiol):
Ddim yn gwybod rhif eich trwydded?
1. Ar ôl cwblhau’r ffurflen ar lein, argraffwch gopi.
2. Rhowch y canlynol mewn un amlen:
3. Postiwch yr amlen, gyda stamp arni, at y cyfeiriad yma:
TV Licensing
Blind Concession Group
Darlington
DL98 1TL
A oes arnoch angen rhagor o gymorth? Gallwch siarad ag un o’n cynghorwyr ar 0300 790 6114*.
*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.