dcsimg

Rhestr wirio’r brifysgol

Gallwch hefyd lawrlwytho eich rhestr wirio prifysgol:

Rhestr wirio’r brifysgol (PDF 234KB yn agor mewn ffenestr newydd)


Pethau i’w pacio, pethau i’w prynu a’u trefnu.

Cofio’r pethau defnyddiol ar gyfer blwyddyn i’w chofio.

Mae symud i’r brifysgol yn gyffrous, ond gyda chymaint yn digwydd mae’n hawdd anghofio ambell beth. Er mwyn helpu i wneud y symud mawr mor ddidrafferth â phosib, dyma rai eitemau defnyddiol i’w pacio (pob un wedi’i argymell gan fyfyrwyr) – a phethau i’w gwneud pan fyddwch yn cyrraedd y campws.

Y pethau pwysig

Y gegin:


Green tick Cyllyll a ffyrc, platiau, powlenni, mygiau a gwydrau

Green tick Sosbenni, cyllyll cegin a byrddau torri

Green tick Tupperware ar gyfer bwyd dros ben

Green tick Blendiwr bach (grêt ar gyfer brecwast cyflym pan ydych wedi cysgu’n hwyr)

Green tick Stash o fyrbrydau ar gyfer eich stafell


Stafell wely:


Green tick Cwpl o setiau duvet a blancedi

Green tick Basged neu fag golchi dillad

Green tick Deunydd ysgrifennu a llyfrau nodiadau

Green tick Charger ffôn sbâr a batris

Green tick Clustffonau

Green tick Gliniadur (a bacpac i’w gario o gwmpas y campws)

Green tick Monitor ychwanegol i wylio teledu neu ddwy sgrîn ar gyfer traethodau mawr


Stafell ymolchi:


Green tick Tywelion llaw a bath

Green tick Sychwr gwallt, cynnyrch gwallt a brwshis

Green tick Bag ymolchi, yn enwedig os ydych yn rhannu stafell ymolchi

Green tick Eich hoff bethau ymolchi

Green tick Fflip-fflops neu esgidiau ysgafn

Y pethau llai amlwg

Green tick Hangers dillad

Green tick Pecyn cymorth cyntaf

Green tick Basgedi storio

Green tick Lluniau o’ch teulu neu ffrindiau (heb anghofio’r Blu Tack)

Green tick Goleuadau LED i addurno eich stafell

Green tick Seinydd symudol

Green tick Hwfer bach

Green tick Planhigyn tŷ

Green tick Dyddiadur a chalendr

Green tick Potyn ar gyfer newid mân neu fanion

Green tick Trwydded Deledu

Rhestr Wythnos y Glas:


Green tick Casglu cerdyn adnabod eich campws

Green tick Cael trefn ar eich cwpwrdd ac oergell

Green tick Cysylltu â’r rhyngrwyd

Green tick Dod o hyd i’r siop fwyd agosaf

Green tick Rhoi taith o amgylch eich lle newydd ar Instagram i ffrindiau gartref

Green tick Dod o hyd i’r londrét ar y safle a’i brofi

Green tick Archwilio Ffair y Glas (ewch â bag tote ar gyfer yr holl nwyddau am ddim)

Green tick Prynu cerdyn teithio myfyrwyr

Green tick Cyfnewid hoff raglenni a ffilmiau gyda’ch ffrindiau newydd yn y fflat


Ond cyn i chi wylio eich hoff sioeau (neu unrhyw sioeau newydd) ar deledu byw neu BBC iPlayer, bydd angen...

Arrow pointing to the link Gweld a oes angen Trwydded Deledu