dcsimg

Rhestr wirio o’r neuadd i’r tŷ

Lawrlwythwch eich rhestr wirio symud allan o neuaddau:

Rhestr wirio o’r neuadd i’r tŷ (PDF 195KB yn agor mewn ffenestr newydd)


O’r biliau sydd angen eu trefnu, i ffyrdd hawdd o gadw at gyllideb.

Mae symud allan o’r neuadd ac i le gyda’ch ffrindiau yn gyffrous – ond fel unrhyw symud, mae’n gallu bod yn straen. Dyma restr o bethau y bydd angen i chi eu gwneud a’u cadw mewn cof.

Rhestr biliau’r tŷ

Green tick Rhent

Green tick Treth Cyngor (os ydych yn fyfyriwr llawn amser, dylech wneud cais am eithriad)

Green tick Band eang

Green tick Nwy a Thrydan

Green tick Dŵr

Green tick Trwydded Deledu

Rhestr o bethau i’w gwneud

Green tick Enwebu rhywun i ofalu am filiau’r tŷ
Nhw fydd yn gofalu am gyfrifon biliau cyfleustodau a thaliadau, fel bod popeth wedi’i drefnu.

Green tick Cytuno ar rota golchi dillad
Felly mae gan bawb ohonoch amser i olchi a sychu eich dillad (ffarwél Febreze, helo fresh threads).

Green tick Dewis rhywun i siopa am fwyd a’i goginio
Fel hyn, bydd pawb yn cyfrannu at dasgau o ddydd i ddydd.

Helpu gyda’r gyllideb

  • Bydded tywyllwch – diffoddwch y goleuadau a’r teledu pan fyddwch yn gadael y stafell.
  • Gosodwch amserydd ar eich gwres a’ch dŵr poeth.
  • Rhowch gynnig ar rannu car gyda chyd-letywr neu ffrind i arbed tanwydd.
  • Cadwch olwg ar eich gwario gydag ap cyllid.
  • Prynwch werslyfrau ail-law.
  • Gallwch leihau costau teithio gyda Cherdyn Rheilffordd Myfyrwyr
  • Gallwch goginio a rhewi swp o’ch hoff fwyd i arbed amser ac arian

Oeddech chi’n gwybod?

Os ydych yn byw mewn tŷ neu fflat sy’n rhannu’r brydles, gallwch rannu Trwydded Deledu hefyd. Oes gennych chi gytundeb tenantiaeth ar wahân? Bydd arnoch angen eich trwydded eich hun.