Rydym yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod heriol i lawer o bobl. Darllenwch ein cyngor isod i gael help i reoli eich trwydded yn ystod y sefyllfa bresennol.
Mae llawer o wasanaethau ar gael o hyd ar ein gwefan:
Oherwydd cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru rydym yn eich cynghori i ddefnyddio un o’n ffyrdd eraill o wneud taliad:
Cwsmeriaid Cerdyn Talu Trwyddedu Teledu:
Os ydych yn talu’n llawn mewn PayPoint fel arfer:
Rydym yn sylweddoli y gall fod yn arbennig o anodd dal i fyny â’ch taliadau ar gerdyn talu Trwyddedu Teledu ar hyn o bryd.
Rydym yn argymell eich bod yn ceisio cadw at eich cynllun talu os gallwch oherwydd bydd hyn yn cadw eich taliadau mor isel â phosib yn y dyfodol.
Os byddwch yn methu dal i fyny â’ch taliadau ffoniwch ni ar 0300 555 0300* ac fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu. Cofiwch fod â’ch rhif cwsmer wrth law, a dewiswch yr opsiwn i siarad â ni am eich cyfrif.
Os ydych yn wynebu anhawster ariannol fe allai fod o gymorth i chi siarad ag elusen sy’n rhoi cyngor am ddyled. A gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol sy’n cael ei gynnig gan y llywodraeth yn: gov.uk/coronavirus.
Rydym yn sylweddoli yn y sefyllfa bresennol y gallech fod yn cael trafferth dal i fyny â’ch taliadau.
Os oes angen i chi roi stop ar daliad Debyd Uniongyrchol ar frys, ffoniwch ni ar 0300 790 6042* ac fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu. Cofiwch fod â rhif eich trwydded wrth law a dewiswch yr opsiwn i ganslo eich trwydded.
Gallwch ganslo eich trwydded os nad oes arnoch angen:
Os oes angen i chi ganslo eich trwydded (a derbyn ad-daliad os yw hynny’n gymwys) ffoniwch ni ar:
0300 790 6042* – Os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu’r cyfan gyda’i gilydd. Cofiwch fod â rhif eich trwydded wrth law a dewiswch yr opsiwn i ganslo eich trwydded.
0300 555 0300* – Os ydych yn talu trwy gerdyn talu Trwyddedu Teledu. Cofiwch fod â’ch rhif cwsmer wrth law a dewiswch yr opsiwn i ganslo eich trwydded.
Darganfyddwch fwy am newidiadau i’r Drwydded Deledu dros 75 oed ac am eich opsiynau pan fyddwch chi dros 75 oed.
Yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth ar y pandemig, rydym wedi atal pob gweithgarwch ymweld. Byddwn yn parhau i adolygu ac addasu ein dulliau gweithredu yn ôl canllawiau diweddaraf y llywodraeth. Mae’n parhau’n ofyniad cyfreithiol i fod â Thrwydded Deledu os oes arnoch angen un.
Rydym yn sylweddoli y gall fod yn anodd i rai cwsmeriaid wneud taliadau ar hyn o bryd. Dros dro rydym wedi stopio trosglwyddo cwsmeriaid sydd heb ddal i wneud eu taliadau at ein hasiantaeth casglu dyledion. Sylwch - fyddwn ni byth yn defnyddio beilïod fel rhan o gasglu dyledion.
Mae’n parhau’n ofyniad cyfreithiol i fod wedi’ch trwyddedu os oes arnoch angen trwydded. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i barhau wedi’ch trwyddedu. Felly cofiwch gysylltu os na allwch ddal i fyny â’ch taliadau:
Gallwch hefyd gael cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddyled, a hynny am ddim.
Os oes gennych drefniant talu ar hyn o bryd gyda’n hasiantaeth casglu dyledion gallwch barhau i glirio eich dyled fel hyn.
*Mae ein canolfan gyswllt ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 08:30 tan 18:30. Rydym ar gau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau cyhoeddus.
Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os byddwch yn cael munudau cynhwysol gyda’ch ffôn symudol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys.