Yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, mae arnoch angen Trwydded Deledu os ydych chi’n defnyddio offer i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu (gan gynnwys gwasanaethau lloeren tramor).
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r canlynol:
Dim ond un Drwydded Deledu sydd ei hangen arnoch ar gyfer pob cartref, hyd yn oed os ydych yn defnyddio mwy nag un o’r dyfeisiau yn y rhestr uchod.
Mae Trwydded Deledu yn costio £145.50 y flwyddyn ar gyfer teledu lliw, a £49.00 y flwyddyn ar gyfer teledu du a gwyn.
Mae gwylio teledu heb drwydded ddilys yn drosedd. Os ydych chi’n gwylio teledu heb drwydded ddilys, gallech chi gael eich erlyn ac wynebu dirwy o hyd at £1,000 (dalier sylw: y ddirwy uchaf yn Jersey yw £500 a’r ddirwy uchaf yn Guernsey yw £2000).
Gweler isod yr holl ffyrdd gwahanol o brynu Trwydded Deledu.
Nodyn am iaith: Os byddwch chi’n clicio ar unrhyw ddolen ar y wefan hon, byddwch yn cael eich cyfeirio at dudalennau Saesneg. Os hoffech gael gair â chynrychiolydd Trwyddedu Teledu yn Gymraeg, ffoniwch Linell Gymorth Gymraeg Trwyddedu Teledu ar 0300 790 6042, neu gallech anfon e-bost i trwyddedu.teledu@tvlicensing.co.uk a fyddwch yn derbyn ymateb o fewn 3 ddiwrnod busnes.
Y ffordd hawsaf o dalu am eich trwydded yw drwy Ddebyd Uniongyrchol, sy’n gadael i chi dalu bob mis neu bob chwarter, neu gallwch dalu’r ffi flynyddol yn llawn gydag un taliad. Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol gyda’ch banc sy’n golygu bod y swm yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig o’ch cyfrif. Ar ôl rhoi trefn ar eich Debyd Uniongyrchol, bydd eich trwydded yn cael ei hadnewyddu’n awtomatig bob blwyddyn, felly ni fydd angen i chi boeni nad oes gennych chi drwydded. Ond cofiwch roi gwybod i ni pan fyddwch yn symud tŷ fel y gallwch fynd â’ch trwydded gyda chi.
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol ar-lein neu drwy ffonio 0300 790 6042 gyda’ch manylion banc wrth law (cofiwch fod talu’n chwarterol gyda Debyd Uniongyrchol yn costio £5 y flwyddyn yn fwy. Sylwch hefyd nad yw rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn derbyn Debyd Uniongyrchol, felly cofiwch holi'n gyntaf).
Ffordd arall o rannu cost eich trwydded yw gyda’n cynllun Cerdyn Talu, sy’n gadael i chi dalu bob wythnos neu bob pythefnos, gan dalu cyn lleied â £5.60 yr wythnos. I gael rhagor o wybodaeth ac i roi’r cynllun hwn ar waith, ffoniwch 0300 555 0286 (sylwch mai llinell ffôn Saesneg yn unig yw hon ond gallwch ofyn am gael siarad â rhywun yn eich iaith eich hun).
Gallwch dalu a rheoli eich Trwydded Deledu ar-lein. Hefyd, gallwch ddewis cael eich trwydded neu unrhyw ohebiaeth arall gennym drwy e-bost (i wneud hyn, mae’n bwysig bod eich cyfeiriad e-bost yn cynnwys rhifau a llythrennau’r wyddor Saesneg yn unig.)
Gallwch dalu am eich Trwydded Deledu yma – naill ai gyda cherdyn credyd neu ddebyd neu drwy drefnu Debyd Uniongyrchol.
Gwnewch yn siŵr bod gennych fanylion eich cyfrif banc wrth law a byddwch yn barod i lenwi ffurflen dalu yn Saesneg.
Os oes gennych gerdyn credyd neu ddebyd, megis Maestro, Delta, Solo, Visa neu MasterCard, gallwch dalu am eich Trwydded Deledu dros y ffôn. Yn syml iawn, ffoniwch 0300 790 6042 a gwnewch yn siŵr bod gennych fanylion eich cerdyn wrth law.
Gallwch fynd i unrhyw safle PayPoint i brynu Trwydded Deledu gydag arian parod neu gerdyn debyd. Yn syml iawn, rhowch eich enw a’ch cyfeiriad i’r ariannwr.
Ceir oddeutu 22,000 o safleoedd PayPoint ledled y Deyrnas Unedig, ac mae’n bosib bod yna ddesg dalu yn eich siop, archfarchnad neu garej leol. Mae llawer o’r safleoedd PayPoint ar agor am oriau hir, saith diwrnod yr wythnos. Gallwch ddod o hyd i’ch safle PayPoint lleol yma neu drwy ffonio 0300 790 6137 a rhoi eich cod post (gwasanaeth awtomataidd Saesneg yn unig yw hwn).
Gallwch anfon siec i TV Licensing, Bryste BS98 1TL. Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Trwyddedu Teledu/TV Licensing’ am ffi lawn y drwydded a chofiwch ysgrifennu eich enw, eich cyfeiriad a’ch cod post ar y cefn. Peidiwch ag anfon arian parod.
Gallwch gynilo tuag at gost eich Trwydded Deledu nesaf mewn symiau bach, hawdd eu rheoli, gan ddefnyddio cerdyn cynilo Trwyddedu Teledu. Yn syml iawn, ewch â'r cerdyn hwn i unrhyw safle PayPoint i ychwanegu at eich cynilion gydag arian parod neu gerdyn debyd. Os byddwch wedi cynilo digon i dalu ffi lawn y Drwydded Deledu pan ddaw’n amser adnewyddu eich trwydded, byddwch yn cael trwydded newydd drwy'r post yn awtomatig.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am gerdyn cynilo Trwyddedu Teledu, ffoniwch 0300 555 0281 (sylwch mai llinell ffôn Saesneg yn unig yw hon ond gallwch ofyn am gael siarad â rhywun yn eich iaith eich hun).
Os ydych chi'n bwriadu symud tŷ, neu os yw’r manylion sydd gennym amdanoch chi yn anghywir neu wedi newid, rhowch wybod i ni drwy fynd i www.tvlicensing.co.uk/update neu drwy ysgrifennu atom yn TV Licensing, Bryste BS98 1TL.
Os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn 75 mlwydd oed neu’n hŷn, rydych yn gymwys i gael eich Trwydded Deledu am ddim. Ffoniwch 0300 790 6042 gyda’ch rhif Yswiriant Gwladol wrth law i wneud cais am y drwydded hon.
Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi’n 74 mlwydd oed, rydych chi’n gymwys i gael Trwydded Deledu tymor byr a fydd yn para hyd at eich pen-blwydd yn 75 oed. Ffoniwch 0300 790 6042 gyda’ch rhif Yswiriant Gwladol wrth law i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi’n ddall neu fod nam difrifol ar eich golwg, rydych chi’n gymwys i gael consesiwn o 50% ar gost eich trwydded. I hawlio’r gostyngiad, mae angen i chi anfon llungopi o’ch dogfen cofrestru’n ddall, neu dystysgrif gan eich offthalmolegydd sy’n nodi eich bod yn ddall neu fod gennych nam difrifol ar eich golwg. Anfonwch y ddogfen hon, eich llythyr adnewyddu trwydded (os oes gennych un) a’ch taliad drwy’r post i TV Licensing, Blind Concessions Group, Bryste BS98 1TL. Byddai’n ddefnyddiol petaech yn rhoi rhif ffôn cyswllt hefyd.
Rhwng nawr a 2012 mae teledu yn newid i ddigidol, un ardal ar y tro. Mae hyn yn golygu y bydd y signal teledu analog yn cael ei ddiffodd a bydd signal digidol newydd yn dod yn ei le. Ar ôl y newid i ddigidol, bydd angen blwch digidol neu deledu digidol arnoch fel y gallwch barhau i gael eich sianeli teledu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.digitaluk.co.uk neu ffoniwch linell gymorth y Deyrnas Unedig ar 0845 650 0085 (Saesneg yn unig).
Y BBC sy'n rhedeg y Cynllun Cymorth Newid i’r Digidol. Rydym ni yma i helpu pawb dros 75 mlwydd oed neu hŷn, neu unigolion anabl cymwys, drwy ddarparu’r offer a’r cymorth ymarferol sydd ei angen i newid un set deledu i deledu digidol. Byddwn yn ysgrifennu at bob unigolyn cymwys mewn da bryd cyn y bydd y rhanbarth y maent yn byw ynddi yn newid i’r digidol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0845 484848 neu ewch i www.helpscheme.co.uk.
Os nad ydych yn gwylio nac yn recordio rhaglenni wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu – naill ai ar set deledu, ar gyfrifiadur, ar ffôn symudol, ar gonsol gemau, ar flwch digidol, ar beiriant recordio DVD/VHS neu ar unrhyw ddyfais arall – rhowch wybod i ni drwy fynd i www.tvlicensing.co.uk/noTV neu drwy ffonio 0300 790 6042. Mae’n bosib y byddwn yn cadarnhau hyn drwy gynnal ymweliad sydyn.
Os nad ydych chi’n gwylio nac yn recordio teledu byw, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad. Ffoniwch ni ar 0300 790 6042 i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi’n byw yn Ynys Manaw neu Guernsey a’ch bod chi – neu rywun sy’n byw gyda chi – yn 75 mlwydd oed neu'n hŷn, rydych yn gymwys i gael Trwydded Deledu yn rhad ac am ddim. Os ydych chi’n 74 mlwydd oed ar hyn o bryd, gallwch brynu trwydded tymor byr a fydd yn para hyd at fis eich pen-blwydd yn 75 oed. Ffoniwch 0300 790 6042 a rhowch eich dyddiad geni a’ch rhif Yswiriant Gwladol i wneud cais (mae’r rhif hwn ar eich datganiad banc os yw eich pensiwn yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc.) Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol, ffoniwch ni i drafod beth arall y gallech ei gyflwyno fel prawf o’ch dyddiad geni.
Nodyn pwysig ar gyfer Ynysoedd y Sianel:
Dalier sylw:
Golyga ‘Chi’ y sawl sy’n cael ei enwi ar y drwydded.
Mae ‘offer teledu’ yn golygu offer derbyn teledu, megis set deledu, blwch digidol, peiriant recordio fideo neu DVD, cyfrifiadur, consol gemau neu ffôn symudol.
Mae’r drwydded yn caniatáu gosod a defnyddio offer teledu:
Defnyddio offer teledu sy’n rhedeg ar fatris mewnol yn unrhyw le:
trwyddedau du a gwyn:
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch a oes angen trwydded deledu arnoch ai peidio, ewch i www.tvlicensing.co.uk.
Cofiwch fod telerau ac amodau ar wahân yn berthnasol i’r mathau canlynol o drwyddedau teledu: Trwydded Deledu ar gyfer gwestai ac unedau symudol, Consesiwn ar Drwydded Deledu ar gyfer Llety Gofal Preswyl (ARC), a Thrwydded Deledu unedau adloniant. Os oes gennych un o’r rhain, cyfeiriwch at eich trwydded i weld y telerau ac amodau penodol neu mae croeso i chi gysylltu â ni i gael gwybodaeth.