Gweinyddu ffi’r Drwydded

Cronfa ddata a rheoli data Trwyddedu Teledu

A yw’n gyfreithlon i Drwyddedu Teledu brosesu data amdanaf heb fy nghaniatâd?

Dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, y BBC yw’r awdurdod cyhoeddus cyfrifol am gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Mae’n angenrheidiol i’r BBC brosesu data personol i gyflawni’r swyddogaethau statudol hyn. Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn sefydlu’r amodau, y mae’n rhaid bodloni o leiaf un ohonynt, pan fydd sefydliad yn prosesu data personol. Er bod caniatâd unigolyn yn un o’r amodau hyn, un arall yw bod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cydymffurfiad ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol. Mae Trwyddedu Teledu yn prosesu data personol, ar ran y BBC, i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y BBC i gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu.

Dan y Ddeddf Diogelu Data, mae’r BBC yn ‘rheolydd data’ ac yn pennu’r diben a dull prosesu data personol. Ni ellir defnyddio data personol a gedwir gan y BBC a’i asiantau Trwyddedu Teledu i ddiben gweinyddu’r system drwyddedu teledu ar gyfer unrhyw ddiben arall, oni bai fod hyn yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu dan y gyfraith.

Sut mae Trwyddedu Teledu yn gofalu am ddata personol?

Mae’r BBC a Thrwyddedu Teledu yn ystyried fod diogelwch yr wybodaeth a ymddiriedir i ni yn fater difrifol iawn, ac mae gennym set gynhwysfawr o reoliadau ar waith i’w diogelu. Mae ein Strategaeth Diogelwch Gwybodaeth yn cynnwys rheoliadau polisi, gweithdrefnol, technegol ac addysgol, ac mae pob aelod staff yn cael ei atgoffa’n rheolaidd o’i gyfrifoldebau.

Ni fydd gwybodaeth bersonol a gedwir gan Drwyddedu Teledu yn cael ei datgelu i unrhyw un tu allan i Drwyddedu Teledu oni bai fod hyn yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu dan y gyfraith. O bryd i’w gilydd bydd Trwyddedu Teledu yn derbyn ceisiadau o’r fath gan yr heddlu ac asiantaethau’r llywodraeth. Wrth asesu ceisiadau o’r fath, rydym yn ystyried Deddf Diogelu Data 1998, Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyfraith cyfrinachedd. Yn gyffredinol, dim ond os bydd yn angenrheidiol ac er lles y cyhoedd i wneud hynny fyddwn ni’n datgelu data (e.e. lle gellir cael data o Drwyddedu Teledu yn unig ac mae datgeliad yn angenrheidiol i atal neu ganfod troseddau).

Ceir rhagor o wybodaeth ar sut mae Trwyddedu Teledu yn delio â gwybodaeth yn y Polisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu.

Sylwer hefyd nad oes rhaid i’r BBC gydymffurfio â cheisiadau a wnaed dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am wybodaeth bersonol. Mae Adran 40 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn darparu nad oes rhaid i sefydliad gydymffurfio â chais os yw’r wybodaeth a geisir yn ddata personol ac y byddai ei ddatgelu yn groes i Ddeddf Diogelu Data 1998. Mae’r BBC wedi atal datgelu gwybodaeth yn flaenorol dan yr eithriad hwn ar sawl achlysur.

A yw’r BBC neu Drwyddedu Teledu yn gwerthu fy nata personol i unrhyw sefydliad arall?

Nac ydym.

A yw fy nata wedi ei ddiogelu dan y cytundebau rhwng contractwyr y BBC ac isgontractwyr?

Ydy. Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflawni unrhyw waith prosesu data personol (yn cynnwys datgeliad) ar ran y rheolydd data dan gontract ysgrifenedig sy’n gofyn i brosesu o’r fath gael ei gyflawni ar gyfarwyddiadau’r rheolydd data yn unig. Caiff asiantau Trwyddedu Teledu’r BBC ddatgelu data personol i’w cyflogeion a chyflogeion eu hisgontractwyr, ond mae’n dal yn gyfrifol am eu cydymffurfiad â’r Ddeddf Diogelu Data a rhwymedigaethau cytundebol perthnasol.

A oes gan fasnachwr PayPoint fynediad i fy nata personol?

Os bydd rhywun yn prynu Trwydded Deledu am y tro cyntaf mewn allfa PayPoint, bydd y masnachwr yn gofyn am enw a chyfeiriad, ac yn gwirio hyn ar system “edrych i fyny” sy’n rhoi mynediad i enwau a chyfeiriadau yn unig ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu.

Os bydd rhywun yn adnewyddu Trwydded Deledu mewn allfa PayPoint, yna bydd y masnachwr yn ei phrosesu yn defnyddio’r cod bar ar y llythyr adnewyddu ac ni fydd angen mynediad i unrhyw ddata personol.

Os bydd rhywun yn gwneud taliad ar y cynllun talu arian parod neu’n cynilo arian yn defnyddio cerdyn cynilo Trwyddedu Teledu, bydd y masnachwr yn ‘darllen’ y cerdyn ac ni fydd yn cael mynediad at unrhyw ddata personol.

O ble ydych chi’n cael yr wybodaeth a gedwir ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu, a sut ydych chi’n sicrhau fod yr wybodaeth yn gywir a chyfredol?

Mae cronfa ddata cyfeiriadau Trwyddedu Teledu yn un o’r mwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig heddiw. Mae’r gronfa ddata wedi bodoli ar ei ffurf bresennol ers tua 1989. Mae gwybodaeth a gedwir ar y gronfa ddata yn cael ei diweddaru’n barhaus i sicrhau ei bod mor gywir â phosibl ar unrhyw adeg.

Mae Trwyddedu Teledu yn dibynnu ar unigolion i’n hysbysu os nad yw eu manylion yn gywir neu os yw eu hamgylchiadau wedi newid. Mae Trwyddedu Teledu hefyd yn defnyddio ffynonellau data allanol fel Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol, gan dderbyn diweddariadau dyddiol. Hefyd, mae’n swyddogion ymholiadau yn ymweld â chyfeiriadau i gadarnhau a yw'r eiddo wedi ei feddiannu. Mae Trwyddedu Teledu hefyd yn defnyddio ffynonellau data allanol fel Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol, gan dderbyn diweddariadau dyddiol (yn seiliedig ar bwyntiau dosbarthu post sy'n newid yn barhaus wrth eiddo newydd cael eu adeiladu, ac eiddo sydd eisoes yn bodoli sy'n cael eu dymchwel neu cael defnydd newydd).

Mae Trwyddedu Teledu yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gronfa ddata yn gywir ac y gyfredol. Fodd bynnag, mewn cronfa ddata o’r maint hwn – yn cynnwys oddeutu 31 miliwn o gyfeiriadau mae’n anochel y bydd rhai gwallau’n digwydd. Wedi eu nodi, unionir yr anghysonderau hyn cyn gynted â phosibl.

Pa wybodaeth am hanes talu mae’r gronfa ddata Trwyddedu Teledu yn ei storio?

Mae system cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cadw manylion taliadau diweddar a wnaed gan ddebyd uniongyrchol, cerdyn credyd neu ddebyd, siec neu archeb bost (rhannol neu lawn); neu trwy unrhyw allfa PayPoint. Cedwir cofnodion talu manylach ar gyfer pobl sy’n talu ar gynlluniau arian parod, gan y bydd pob taliad yn cael ei gofnodi.

Pam fod Trwyddedu Teledu yn gofyn am rifau ffôn?

Ym mhrofiad Trwyddedu Teledu, mae nifer o ddeiliaid trwydded yn gwerthfawrogi galwad ffôn os bydd problem â’u taliad. Fodd bynnag, nid oes raid i unrhyw un ddarparu’r wybodaeth hon.

Pa wybodaeth a gedwir gan Drwyddedu Teledu am yr unigolion sy’n talu’r ffi?

Mae system cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cadw (yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a Chytundeb y BBC gyda’r Swyddfa Gartref) yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer, neu sy’n berthnasol i, weinyddu’r system trwyddedu teledu yn unig.

A yw Trwyddedu Teledu yn prosesu data personol pobl sydd wedi rhoi gwybod i chi nad oes ganddynt deledu?

Ym Mis Mehefin 2014, mae gan oddeutu 96% o gartrefi set deledu (nid yw hyn yn cipio gwylio ar ddyfeisiau eraill megis gliniaduron, llechi neu ffonau symudol). Felly mae’n rhesymol i Drwyddedu Teledu ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau didrwydded i gadarnhau a oes angen Trwydded Deledu. Mae Trwyddedu Teledu yn gweithio ar sail y dybiaeth fod pob cartref yn y Deyrnas Unedig angen Trwydded, ac felly byddwn yn ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau lle nad oes cofnod o Drwydded neu bod gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn hysbys.

Pan fydd unigolyn yn hysbysu Trwyddedu Teledu nad yw angen Trwydded, fe nodir hyn ar ein cronfa ddata. Rhoddir ataliad ar unrhyw ohebiaeth bellach am ddwy flynedd i gyfeiriad preswyl a thair blynedd i gyfeiriad busnes. Efallai y bydd swyddog ymholiad yn ymweld â’r cyfeiriad i wirio nad oes angen Trwydded.

Nid oes unrhyw orfodaeth i unrhyw un roi gwybodaeth bersonol i ni er ein bod yn gofyn am enwau pobl er mwyn cadw ein cronfa ddata yn gyfredol.

Pwy gynlluniodd system cronfa ddata Trwyddedu Teledu a sut mae’n gweithredu?

Cynlluniwyd system cronfa ddata Trwyddedu Teledu gan adran TG Swyddfa’r Post. Mae’r system yn cael ei chynnal gan Capita Business Services Ltd ar hyn o bryd, cwmni a gontractiwyd gan y BBC i weinyddu’r rhan fwyaf o Drwyddedu Teledu. Y BBC yw perchennog yr hawliau eiddo deallusol i’r system.

Mae gweithredu Trwyddedu Teledu yn delio â swm aruthrol o ddata, sy’n cael ei storio a'i reoli trwy nifer o gronfeydd data sy’n cydberthyn a gedwir gan wahanol asiantaethau ar ran Trwyddedu Teledu. Mae prif gronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cadw manylion oddeutu 25 miliwn o Drwyddedau Teledu mewn grym yn y Deyrnas Unedig.

A ellir defnyddio’r wybodaeth ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu i ddibenion ymchwil academaidd?

Dim ond i ddiben gweinyddu a gorfodi’r system trwyddedu teledu y gellir defnyddio cronfa ddata Trwyddedu Teledu, oni bai ei fod yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu yn benodol dan y gyfraith (e.e. gan asiantaethau’r llywodraeth i ganfod neu atal troseddau). Felly nid yw’r wybodaeth ar gael ar gyfer ymchwil academaidd.

Postiadau/llythyrau a chyfathrebu electronig

Pryd ac o dan ba amgylchiadau mae Trwyddedu Teledu yn anfon llythyrau?

Mae gan Drwyddedu Teledu ddyletswydd statudol i sicrhau fod pob cyfeiriad lle mae offer derbyn teledu wedi ei osod neu ei ddefnyddio i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu wedi ei drwyddedu’n gywir. Felly, mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at bob cyfeiriad lle nad oes cofnod o Drwydded neu lle mae’r gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn anhysbys.

Anfonir gwahanol lythyrau yn ddibynnol ar wahanol amgylchiadau ac anghenion cyfeiriadau. Ystyrir tôn yr holl lythyrau yn ofalus cyn eu hanfon, a bwriedir iddynt gwmpasu amrywiaeth o bosibiliadau. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl heb Drwydded wedi anghofio ei phrynu, ond fydd eraill ddim angen Trwydded, neu efallai y bydd arnynt angen trwydded ond byddant yn osgoi ei phrynu’n fwriadol. Mae tôn y llythyrau yn cryfhau os na dderbynnir ateb o gyfeiriad, i annog ymateb.

Mae Proximity London Ltd wedi eu contractio gan y BBC i ddarparu gwasanaethau marchnata ac argraffu Trwyddedu Teledu, a nhw sy’n anfon y rhan fwyaf o lythyrau Trwyddedu Teledu. Mae nifer fechan o lythyrau, yn bennaf yn ymwneud ag ymholiadau gan gwsmeriaid, yn cael eu hanfon gan Capita Business Services Limited. Yn 2013/14, anfonodd Proximity oddeutu 52.8 miliwn o eitemau o bost ar ran Trwyddedu Teledu. Ymysg rhai o’r amgylchiadau lle mae Trwyddedu Teledu yn anfon llythyrau mae:

  • Nodiadau atgoffa i gyfeiriadau gyda Thrwyddedau Teledu sydd ar fin dod i ben
  • Llythyrau i eiddo didrwydded, yn pwysleisio’r gofyniad cyfreithiol i gael trwydded gywir os ydynt yn gwylio neu recordio rhaglenni teledu fel pe baent yn cael eu dangos ar y teledu.
  • Llythyrau at unigolion sydd ar Gynlluniau Talu Arian Parod neu Ddebyd Uniongyrchol
  • Llythyrau at unigolion sy’n ymholi am ad-daliad ar eu Trwydded Deledu
  • Llythyrau at unigolion sydd wedi hysbysu Trwyddedu Teledu nad ydynt angen Trwydded Deledu
  • Llythyrau ad-hoc parthed ymholiadau unigol.

Sylwer yn ogystal â llythyrau, mae Trwyddedu Teledu hefyd yn anfon negeseuon e-bost a negeseuon testun at gwsmeriaid sydd wedi darparu eu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn ac nad ydynt wedi nodi nad ydynt eisiau derbyn cyfathrebiadau electronig. Yn 2014/15, anfonwyd oddeutu 9.4 cyfathrebiad electronig at gwsmeriaid. Sefydlir dan ba amgylchiadau yr anfonir y rhain uchod.

Pam mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at gyfeiriadau nad ydynt yn defnyddio offer derbyn teledu?

Mae Bwrdd Ymchwil Cynulleidfaoedd y Darlledwyr yn amcangyfrif fel ar Mehefin 2014 fod gan tua 95% o gartrefi set deledu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cipio gwylio ar ddyfeisiau eraill megis gliniaduron, llechi neu ffonau symudol.

Mae gan Trwyddedu Teledu ddyletswydd statudol i sicrhau bod pob cyfeiriad lle mae offer sy'n derbyn teledu wedi ei osod neu ei ddefnyddio i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu wedi'i drwyddedu'n briodol. Felly mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau lle nad oes cofnod o Drwydded neu bod gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn hysbys.

Felly, gan fod osgoi talu’r ffi trwyddedu yn digwydd yn y cartref, mae’n rhesymol i Drwyddedu Teledu anfon llythyrau yn gofyn a oes angen Trwydded Deledu. Os yw Trwyddedu Teledu yn cael hysbysiad nad oes angen Trwydded, yna bydd postiadau yn stopio am ddwy flynedd ar gyfer cyfeiriad preswyl a thair blynedd ar gyfer cyfeiriad busnes. Yn anffodus, nid yw’n bosibl i Drwyddedu Teledu stopio cysylltu â chyfeiriad yn barhaol wrth i sefyllfaoedd newid, er enghraifft, gall pobl symud. Gall unigolyn ddweud wrth Drwyddedu Teledu nad oes ganddo deledu trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon.

Gall swyddog ymholi alw yn y cyfeiriad i wirio’r sefyllfa. Mae Trwyddedu Teledu yn ymweld â sampl o dai i gadarnhau nad oes teledu yn cael ei ddefnyddio gan ein bod yn canfod, wrth gyflawni’r ymweliadau hyn, fod un o bob pump o’r bobl yr ymwelir â nhw angen Trwydded Deledu.

Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi Dim Angen Trwydded Trwyddedu Teledu y BBC.

Dywed adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC Mawrth 2009 o’i adolygiad o Drwyddedu Teledu: “Wrth ddelio â’r [rhai hynny nad ydynt yn hysbysu Trwyddedu Teledu nad ydynt angen Trwydded Deledu] nid yw’n bosibl i Drwyddedu Teledu wahaniaethu rhyngddynt a’r rhai sy’n osgoi’n fwriadol. Felly byddant yn derbyn yr un postiadau nes y bydd Trwyddedu Teledu yn cael hysbysiad fel arall.”

Pa mor aml mae Trwyddedu Teledu yn anfon llythyrau?

Anfonir llythyr atgoffa at bob eiddo trwyddedig ychydig cyn dyddiad dod i ben y Drwydded, gan anfon cyfres o lythyrau wedyn os nad oes ymateb. O’r pwynt hwnnw, mae’r cyfeiriad yn cael ei drin fel ‘didrwydded’ a llunnir cyswllt pellach i ennyn ymateb. Yn aml dim ond pan fydd Trwyddedu Teledu yn tynnu sylw pobl at oblygiadau defnydd didrwydded o deledu y byddant yn prynu’r Drwydded Deledu maent ei hangen. Mae effeithlonrwydd y llythyrau yn cael ei adolygu’n gyson i sicrhau bod Trwyddedu Teledu yn gweithredu er lles y rhai sy’n talu’r ffi drwyddedu.

Beth sy’n digwydd os nad oes ymateb i lythyrau Trwyddedu Teledu?

Os na dderbynnir ateb o gyfeiriad, mae tôn y llythyrau yn cryfhau’n raddol er mwyn annog ymateb. Weithiau bydd angen neges gryfach er mwyn i bobl gydymffurfio â’r rhwymedigaeth gyfreithiol. Bydd y cyfeiriad hefyd yn cael ei restru ar gyfer ymweliad gan swyddog ymholiadau i holi ynghylch gofynion trwyddedu.

Nid yw Trwyddedu Teledu yn tybio fod pawb yn cyflawni trosedd ac nid oes gan y llythyrau unrhyw oblygiadau i’r rhai nad oes arnynt angen Trwyddedu Teledu. Fodd bynnag, mae angen cyfleu neges gadarn i unigolion sy’n osgoi talu’r ffi drwyddedu. Mae hyn yn cynnwys amlygu y gallai’r gosb ar gyfer osgoi trwydded deledu wedi euogfarn fod yn ddirwy o hyd at £1000 (neu £2000 yn Guernsey a £500 yn Jersey). Dywed adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC o’i adolygiad o Drwyddedu Teledu fod ei ymchwil ansoddol yn dangos “y gallai’r mwyafrif o’r rhai heb deledu dderbyn ei bod yn rhesymol i Drwyddedu Teledu barhau i anfon llythyrau safonol os nad oedd y deiliad wedi ei hysbysu o’i statws... mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi parhad tybiaeth Trwyddedu Teledu y dylai cartrefi nad ydynt yn hysbysu Trwyddedu Teledu o’u statws ddal i dderbyn postiadau safonol”.

Mae Adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC mis Mawrth 2009 gyda'i hadolygiad o Drwyddedu Teledu yn nodi: “Wrth ddelio â [y rhai sy'n dewis peidio â rhoi gwybod i Drwyddedu Teledu nad oes angen Trwydded] nid yw'n bosibl i Drwyddedu Teledu wahaniaethu rhyngddynt a’r rhai sy'n osgoi talu’n fwriadol. Byddant felly yn amodol ar yr un ohebiaeth hyd nes i Drwyddedu Teledu hysbysu’n yn wahanol.”

Pwy sy’n cymeradwyo llythyrau Trwyddedu Teledu? Pwy sy’n awdurdodi’r ymweliadau hyn gan swyddogion ymholiadau a nodwyd yn y llythyrau hyn?

Mae pob llythyr a anfonir yn cael ei gymeradwyo gan Dîm Rheoli Trwyddedu Teledu’r BBC.

Golyga awdurdodiad i ymweld y bydd swyddog ymholiadau yn cael ei benodi i ymweld â chartrefi lle na dderbyniwyd ymateb i bostiadau. Mae Capita Business Services Ltd wedi ei gontractio i gyflawni’r ymweliadau hyn.

Faint mae’n ei gostio i anfon llythyrau Trwyddedu Teledu?

Mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu i eiddo heb drwydded i wirio a oes angen trwydded. Nid ydym yn gwneud cyfraddau llwyddiant y cyhoedd o ymgyrchoedd postio ond gall gadarnhau bod pob ymgyrch yn cynhyrchu llawer mwy o gyllid nag y maent yn ei gostio.

Mae costau casglu Trwyddedu Teledu, yn cynnwys cyfathrebu a phostio dros y pum mlynedd diwethaf ar gael yn yr adran Gwybodaeth Ariannol.

Mae Trwyddedu Teledu yn cadw costau postio’n isel trwy anfon llythyrau mewn swmp gan ddefnyddio cyfraddau postio a brynwyd yn gystadleuol lle bynnag y bo’n bosibl. Mae union gost anfon llythyr yn ddibynnol ar bryd a sut yr anfonir y llythyr.

Mae cost anfon postiadau Trwyddedu Teledu trwy’r post yn cynnwys argraffu a chyflawni, a gyflawnir gan Proximity (sy’n is-gontractio i Communisis Group); a gwasanaethau post, sydd wedi eu contractio i Communisis. Mae gwybodaeth parthed elfennau cyfansawdd argraffu a chyflawni a phostio yn wybodaeth fasnachol sensitif ac wedi ei heithrio o ddatgeliad dan adran 43(2) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Faint o lythyrau wnaeth Trwyddedu Teledu eu hanfon yn 2013/14?

Yn 2014/15, anfonodd Trwyddedu Teledu oddeutu 51.5 miliwn o eitemau o bost, oedd yn cynnwys llythyrau i gyfeiriadau:

  • lle hysbysodd y deiliad Drwyddedu Teledu nad oedd angen Trwydded Deledu (969,016 o lythyrau)
  • lle roedd Trwydded Deledu ar fin dod i ben yn fuan (2,340,000 o lythyrau)
  • oedd yn talu am ffi drwyddedu dan y Cynllun Debyd Uniongyrchol (2,237,731 o lythyrau).
Faint o Drwyddedau Teledu a brynwyd o ganlyniad i anfon llythyrau atgoffa a faint o refeniw a grëwyd o ganlyniad i hyn?

Yn 2014/15, prynwyd oddeutu 3,677,466 o Drwyddedau Teledu gan unigolion yn yr eiddo a dderbyniodd lythyrau a / neu negeseuon e-bost atgoffa. Nid yw’n bosibl cyfrifo faint o refeniw ffi drwyddedu a greodd hyn gan fod y ffigwr hwn:

  • yn amcangyfrif o nifer y Trwyddedau Teledu a brynwyd o ganlyniad i’r llythyrau hyn, ac yn cynnwys trwyddedau consesiwn du a gwyn
  • yn dangos trwyddedau a brynwyd yn ystod y cyfnod a ddynodwyd ac nid yw’n cyfrif am brynu trwyddedau yn y dyfodol a allai ddigwydd o ganlyniad i dderbyn y llythyrau hyn
  • heb ystyried y ffaith nad yw pob Trwydded wedi ei thalu’n llawn, e.e. lle bydd unigolion yn canslo eu debyd uniongyrchol.
A yw’ch postiadau yn rhai o dan farchnata uniongyrchol, ac os felly ydw i’n gallu optio allan o’u derbyn?

Na allwch. Mae Adran 11 Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi hawl i unigolion atal marchnata uniongyrchol. Nid yw’r ddarpariaeth hon yn berthnasol i lythyrau Trwyddedu Teledu gan nad ydynt yn hysbysebu nac yn ddeunydd marchnata. Nid yw Trwydded Deledu yn daliad am wasanaeth. Mae'n cael ei hawl gyfreithiol i osod neu ddefnyddio offer derbyn (ee teledu, cyfrifiaduron, ffonau symudol, consol gemau, gliniadur, tabled, blwch digidol a pheiriant recordio DVD/fideo) i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu darlledu. Adran Deddf Cyfathrebiadau 2003 363 ei gwneud yn drosedd i wneud hynny heb Drwydded Deledu ddilys. Y BBC yw’r awdurdod cyhoeddus sy’n gyfrifol am drwyddedu teledu, ac mae’n gweinyddu hyn trwy ei asiantau sy’n defnyddio nod masnach “Trwyddedu Teledu” y BBC.

Sawl llythyr atgoffa mae Trwyddedu Teledu wedi eu hanfon yn yr naw mlynedd ddiwethaf?

Mae nifer y llythyrau a ddosbarthwyd fel llythyrau atgoffa a anfonwyd yn ystod yr naw mlynedd ddiwethaf fel a ganlyn:

  • 2014/15: 7,715,137
  • 2013/14: 7,963,393
  • 2012/13: 7,926,285
  • 2011/12: 7,861,141
  • 2010/11: 7,995,414
  • 2009/10: 7,714,469
  • 2008/09: 7,752,366
  • 2007/08: 7,528,901
  • 2006/07: 8,629,874
  • 2005/06: 9,704,619
Pa mor aml mae Trwyddedu Teledu yn addasu ei lythyrau safonol?

Mae Trwyddedu Teledu yn newid ei lythyrau safonol am amrywiaeth o resymau yn rheolaidd. Er enghraifft, gwnaethpwyd newidiadau i sylwedd llythyrau i adlewyrchu:

  • Newidiadau yn ffi’r Drwydded Deledu.
  • Y ffaith nad yw unigolion bellach yn gallu talu am Drwydded Deledu yn Swyddfa’r Post (ac eithrio ar Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).
  • Newidiadau i rai polisïau Trwyddedu Teledu.
  • Newidiadau i brofi testun a fformatau creadigol newydd.
  • Newidiadau i adlewyrchu’r dulliau newydd sydd ar gael i gwsmeriaid gyfathrebu â Thrwyddedu Teledu

Osgoi

Beth yw'r gyfradd osgoi swyddogol?

Y gyfradd osgoi swyddogol ddiweddaraf ar gyfer y Deyrnas Unedig yw rhwng 5%-6% o’r holl lefydd trwyddedadwy (ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15).

Mae’r gyfradd swyddogol yn amcangyfrif canran (nid nifer) yr holl eiddo (nid unigolion na chartrefi) sy’n osgoi talu’r ffi drwyddedu yn y Deyrnas Unedig. Fe’i cyfrifir ar gyfer yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon gan ddefnyddio model sy’n cymharu’r nifer o drwyddedau teledu mewn grym ag ystadegau allanol am nifer y cartrefi a llefydd trwyddedadwy eraill yn y Deyrnas Unedig.

Cyflwynir cyfradd osgoi swyddogol y Deyrnas Unedig o 2008/09 i 2014/15 isod:

 
Blwyddyn Ariannol Cyfradd osgoi*
2014/15 5-6%
2013/14 5-6%
2012/13 5.5%
2011/12 6.0%
2010/11 5.3%
2009/10 5.0%
2008/09 4.8%
2007/08 4.5%

*Osgoi hanesyddol, fel yr oedd ar 31 Mawrth bob blwyddyn, wedi ei ailddatgan gan ddefnyddio’r tybiaethau diweddaraf. Nid yw’r data a ddefnyddiwyd i amcangyfrif y gyfradd osgoi yn aeddfedu am nifer o flynyddoedd, yn arbennig yr wybodaeth am y nifer o gartrefi. Mae hyn yn golygu y gellir adolygu’r gyfradd osgoi wedi ei hadrodd o ganlyniad i dderbyn gwybodaeth well.

  • nid yw’r gyfradd osgoi swyddogol yn gwahaniaethu rhwng cartrefi na mathau eraill o eiddo (e.e. busnesau, ysbytai, sefydliadau addysg neu filwrol) ac
  • ni ellir ei dadansoddi tu hwnt i lefel gwledydd y Deyrnas Unedig oherwydd nad yw’r ystadegau allanol angenrheidiol ar gael.
Faint o gartrefi sydd yn gwylio teledu heb Drwydded Teledu ddilys?

Roedd y gyfradd osgoi swyddogol diweddaraf ar gyfer y Deyrnas Unedig yn 5% - 6% o'r holl leoedd trwyddedadwy (ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15). Rydym yn adrodd osgoi talu fel amrywiaeth i adlewyrchu'r ffaith ei fod yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio nifer o ffigurau mewnbwn, rhai ohonynt yn amcangyfrifon. Roedd hyn ar sail cyngor y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Ni chesglir gwybodaeth ar ffurf a fyddai’n caniatáu i ni gyfrifo’r nifer o gartrefi (o’r holl eiddo trwyddedadwy) sy'n gwylio rhaglenni teledu heb drwydded ddilys. Er y gallai fod yn bosibl amcangyfrif y ffigwr hwn, bydd yn galw am gomisiynu adroddiad penodol yn dadansoddi cronfa ddata Trwyddedu Teledu. Ni fyddai’n bosibl cwblhau’r gwaith hwn o fewn y terfyn priodol a osodwyd gan y Rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 12 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Nid yw’n orfodol i’r BBC gydymffurfio â chais os byddai cost gwneud hynny yn fwy na’r terfyn hwn, sef £450 (yn cyfateb i ddau ddiwrnod a hanner o waith ar gyfradd fesul awr o £25).

Faint a gollir mewn refeniw ffi drwyddedu oherwydd osgoi?

Yn 2014/15, roedd osgoi talu ffi’r Drwydded Deledu yn cyfateb i golli incwm o oddeutu £195 miliwn ac £234 miliwn i’r BBC.

Beth yw’r dadansoddiad gwledig/trefol ar gyfer ffigurau osgoi?

Nid ydym yn casglu gwybodaeth ar ffurf fyddai’n caniatáu i ni fanylu ar ffigurau osgoi yn ôl ardaloedd gwledig/trefol. Er y gallai fod yn bosibl amcangyfrif y ffigwr hwn, bydd yn galw am gomisiynu adroddiad penodol yn dadansoddi cronfa ddata Trwyddedu Teledu. Amcangyfrifwn na fyddai’n bosibl gwneud hyn o fewn y terfyn priodol a sefydlir gan y Rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 12 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Nid yw’n orfodol i’r BBC gydymffurfio â chais os byddai cost gwneud hynny yn fwy na’r terfyn hwn, sef £450 (yn cyfateb i ddau ddiwrnod a hanner o waith ar gyfradd fesul awr o £25).

Faint o bobl sydd heb adnewyddu eu trwydded?

Mae’r wybodaeth a geisiwyd yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

A yw pobl wedi cael eu dal yn gwylio rhaglenni teledu yn defnyddio offer heblaw setiau teledu heb Drwydded Deledu? Os felly, faint? Faint ohonynt ydych chi wedi eu herlyn, faint sydd wedi eu dedfrydu yn dilyn hynny, a beth oedd cyfartaledd y ddirwy a godwyd?

Mae pobl wedi cael eu dal yn gwylio rhaglenni, heb Drwydded Deledu ddilys, a ddangosir ar offer derbyn teledu nad ydynt yn setiau teledu. Mae gwybodaeth arall a geisiwyd yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Swyddogion ymchwilio

Pwy sy’n cyflogi swyddogion ymchwilio?

Mae swyddogion ymchwilio wedi eu cyflogi gan Capita Business Services Ltd (“Capita”), cwmni a gontractiwyd gan y BBC i weinyddu’r system trwyddedu teledu dan nod masnach y BBC “Trwyddedu Teledu”.

Faint mae swyddogion ymchwilio yn cael eu talu?

Nid oes gan y BBC wybodaeth am faint mae swyddogion ymchwilio yn cael eu talu. Mae hyn yn fater rhwng Capita a’r swyddogion ymchwilio. Gallwn ddweud fod swyddogion ymchwilio yn derbyn cyflog gyda chymhelliad.

Dan ba amgylchiadau mae swyddogion ymchwilio yn ymweld â chyfeiriad a pha wybodaeth maent yn ei chasglu yn yr ymweliad?

Os na dderbynnir ymateb i lythyrau ymholi gan Drwyddedu Teledu, bydd swyddog ymchwilio yn galw yn y cyfeiriad i bennu’r gofynion trwyddedu. Nod yr ymweliad yw gorfodi’r gyfraith a galluogi Trwyddedu Teledu i ddileu eiddo nad oes arno angen Trwydded Deledu o’u hymholiadau, er mwyn caniatáu ar gyfer canolbwyntio adnoddau ar y rhai sydd angen un. Os yw’r swyddog ymchwilio yn cadarnhau nad oes offer derbyn teledu yn cael ei ddefnyddio nac wedi ei osod i dderbyn rhaglenni teledu, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei nodi ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu ac ni fyddwn yn anfon rhagor o lythyrau. Wedi hynny dim ond yn achlysurol fydd Trwyddedu Teledu yn cysylltu â’r cyfeiriad i wirio nad yw amgylchiadau wedi newid.

Pa gyfraith sy’n awdurdodi swyddogion ymchwilio i ofyn am fynediad i’m cartref? Ydw i’n gallu gwrthod eu gadael i mewn?

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Rhaid i’r BBC sicrhau ei fod yn bodloni ei gyfrifoldeb i’r mwyafrif helaeth o gartrefi sy’n talu eu ffi drwyddedu, trwy orfodi’r gyfraith parthed y rhai hynny sy’n osgoi ei dalu’n fwriadol. Mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio amrediad o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth am y gofyniad i gael Trwydded Deledu, yn atgoffa pobl i dalu, eu hysbysu am ddulliau o dalu, ac i atal pobl rhag osgoi’r ffi drwyddedu.

Nid oes gan swyddogion ymchwilio unrhyw rymoedd cyfreithiol i ddod i mewn i’ch cartref heb warant chwilio gan ynad (neu siryf yn yr Alban). Maent (fel aelodau eraill o’r cyhoedd) yn dibynnu ar hawl ymhlyg mewn cyfraith gyffredin i alw mewn eiddo cyn belled â’r drws, wrth gyflawni eu busnes cyfreithlon a datgan eu presenoldeb. Rhaid i swyddogion ymchwilio esbonio wrth ddeiliad yr eiddo pam eu bod yn ymweld, fod yn gwrtais a theg, a chydymffurfio â chod ymddygiad llym.

Nid oes unrhyw reidrwydd i chi roi caniatâd i swyddog ymchwilio ddod i mewn os nad ydych eisiau gwneud hynny. Os bydd y deiliad yn gwrthod mynediad, bydd y swyddog ymchwilio yn gadael yr eiddo. Os gwrthodir mynediad i swyddogion ymchwilio neu os bydd deiliad yn tynnu’r hawl i ymweld yn ôl, yna mae Trwyddedu Teledu’n cadw’r hawl i ddefnyddio dulliau datgelu eraill.

Gallai swyddogion ymchwilio wneud cais am awdurdodiad i ddefnyddio offer datgeliad os gwrthodir mynediad iddynt i’r eiddo. Gallai Trwyddedu Teledu hefyd wneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio. Fodd bynnag, dim ond fel mesur pan fetho popeth arall fydd hyn yn digwydd, ac os yw uwch reolwr a chynghorydd cyfreithiol yn ystyried fod yna reswm da dros gredu y cyflawnwyd trosedd.

Beth sy’n digwydd pan fydd swyddog ymchwilio yn ymweld â chartref?

Rhaid i swyddog ymchwilio esbonio pam ei fod yn ymweld, fod yn gwrtais a theg, a chydymffurfio â chod ymddygiad llym. Nid oes gan swyddogion ymchwilio hawl cyfreithiol i fynediad i gartref rhywun heb warant chwilio, ac os gwrthodir mynediad i’r eiddo, byddant yn terfynu’r ymweliad. Os bydd y deiliad yn caniatáu mynediad i’r eiddo, mae’r ymweliad fel arfer yn gyflym iawn. Bydd y swyddog yn cymryd golwg cyflym ar y prif ardaloedd byw i wirio a oes offer derbyn teledu wedi ei osod neu’n cael ei ddefnyddio neu beidio.

Pam fod swyddogion ymchwilio yn ymweld â chartrefi pobl sydd eisoes wedi rhoi gwybod i Drwyddedu Teledu nad oes ganddynt offer derbyn teledu?

Mae Trwyddedu Teledu yn ymweld â sampl o dai i gadarnhau nad oes teledu yn cael ei ddefnyddio gan ein bod yn canfod, wrth gyflawni’r ymweliadau hyn, fod bron i un o bob pump o’r bobl yr ymwelir â nhw angen Trwydded Deledu. Gweler Polisi Dim Angen Trwydded (PDF 105 Kb yn agor mewn ffenestr newydd) am ragor o wybodaeth.

Beth sy’n digwydd pan fydd yr hawl i fynediad ymhlyg mae swyddogion ymchwilio yn dibynnu arno i ymweld ag eiddo yn cael ei dynnu’n ôl gan y deiliad?

Pan fydd rhywun yn tynnu hawl mynediad ymhlyg i Drwyddedu Teledu yn ôl, fe anrhydeddir hyn. Rhoddir baner yn erbyn y cyfeiriad ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu, sy’n atal trefnu unrhyw ymweliadau pellach.

Mae Trwyddedu Teledu yn cadw’r hawl i wneud ymholiadau ysgrifenedig achlysurol mewn sefyllfaoedd lle mae hawl mynediad ymhlyg wedi ei dynnu’n ôl er mwyn pennu a yw’r amgylchiadau yn dal yr un fath. Er enghraifft, os yw’r sawl a dynnodd yr hawl mynediad wedi symud. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i ddefnyddio dulliau eraill o ymholi (e.e. offer datgeliad a gwarantau chwilio).

Dan ba amgylchiadau all Trwyddedu Teledu gael mynediad i fy eiddo heb fy nghaniatâd?

Wrth gynnal cyfweliad, dylai swyddogion ymholi ddal sylw ar Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 neu gyfraith trosedd yr Alban. Cyn cyfweld unigolion, bydd swyddogion ymholi yn rhoi rhybuddiad iddynt ar eu hawliau cyfreithiol. Yna bydd swyddogion ymholi yn cofnodi'r cwestiynau a ofynnwyd a'r atebion a roddwyd mewn cofnod ysgrifenedig o'r cyfweliad ac yn gofyn am lofnod i gadarnhau bod y cyfnod o'r cyfweliad yn gywir. Ni roddir rhybuddiad yn Ynysoedd y Sianel.

Pa reolau sy'n llywodraethu cofnodion o gyfweliadau a wneir gan swyddogion ymholi?

Gall swyddogion ymholi gyfweld unigolyn y maent yn ei amau o gyflawni trosedd dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 ond ar ôl rhoi rhybuddiad i'r unigolyn hwnnw'n unig h.y. rhoi gwybod iddynt am eu hawliau cyfreithiol, gan gynnwys fod ganddynt hawl i beidio ag ateb unrhyw rai o'r cwestiynau. Mae hyn yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 neu gyfraith trosedd yr Alban. Mae swyddog yn gorfod gwneud cofnod ysgrifenedig o'r cyfweliad hwnnw ac mae hawl gan unigolyn i wrthod arwyddo'r cofnod neu ofyn am gael gwneud cywiriadau os ydynt yn credu nad yw'n gofnod cywir o'r cyfweliad.

Pa reolau sy’n llywodraethu cymryd datganiadau gan swyddogion ymchwilio?

Cynnal cyfweliad dan rybuddiad os bydd angen a gwneud cofnod ysgrifenedig o'r cyfweliad hwnnw, wedi'i arwyddo gan y sawl a holwyd, gan sicrhau bod y sawl a holwyd yn ymwybodol o ganlyniadau arwyddo'r cofnod.

A oes gan swyddogion ymchwilio'r un grymoedd â’r heddlu?

Nac oes. Nid yw’r swyddogion ymchwilio yn swyddogion yr heddlu ac nid oes ganddynt rymoedd yr heddlu.

Mae gan swyddogion ymchwilio ddyletswydd i gydymffurfio â gofynion Codau Ymarfer PACE neu gyfraith droseddol yr Alban (yn ddibynnol ar ymhle mae’r cyfeiriad) wrth gwestiynu pobl.

A yw Trwyddedu Teledu yn gwirio cyflogeion gyda’r Swyddfa Cofnodion Troseddol cyn iddynt ddechrau gweithio fel swyddogion ymchwilio?

Dim ond nifer cyfyngedig o gyflogwyr a sefydliadau sydd â hawl gyfreithiol i ddefnyddio gwasanaethau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), a dim ond ar gyfer rolau penodol. Tan yn ddiweddar, nid oedd Trwyddedu Teledu ymysg y rhai oedd yn gallu cofrestru gyda’r CRB i wirio staff. Fe newidiodd ymddeddfiad Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) (eithriadau) (Diwygiad) (Cymru a Lloegr) 2006 hyn, ac o hynny ymlaen roedd yn ofynnol i swyddogion ymchwilio gael gwiriad CRB.

Mae gan Drwyddedu Teledu bolisi cyfle cyfartal ar gyfer recriwtio swyddogion ymchwilio. Gofynnir i bob cyflogai posibl yn ystod y cam ymgeisio ddatgelu unrhyw euogfarnau sydd heb ddarfod.

Mae Trwyddedu Teledu yn gwerthuso unrhyw euogfarnau nad ydynt wedi darfod y mae’r ymgeisydd yn cyfaddef iddynt yn erbyn y rôl yr ymgeisir ar ei chyfer cyn mynd ymlaen gyda'r cais. Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos. Byddai datganiad o euogfarnau penodol yn golygu y byddai’n annhebygol y byddai unigolyn yn cael ei gyflogi mewn rolau penodol o fewn Trwyddedu Teledu.

Mae gan Capita Business Services Ltd, sy'n cyflogi swyddogion ymchwilio, y polisi canlynol ar gyfer recriwtio staff.

  • Mae’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr yn gwahardd cyflogwyr rhag gofyn i gyn droseddwyr y mae eu heuogfarnau wedi darfod p'un a oes ganddynt euogfarn sydd wedi darfod.
  • Yn ystod y broses ymgeisio, os yw’n amlwg fod yna gofnod troseddol, dylai'r rheolwr recriwtio ystyried a oes angen tynnu cynnig cyflogaeth yn ôl. Dylai’r rheolwr recriwtio gysylltu â’i gynghorydd adnoddau dynol os nad yw’n siwr.

Mae’r polisi hwn yn unol â pholisïau recriwtio’r rhan fwyaf o gwmnïau.

Beth yw cofnod o gyfweliad?

Cofnod o gyfweliad yw cofnod ysgrifenedig a gymerir gan swyddogion ymholi Trwyddedu Teledu pan fyddant, dan rybuddiad, yn cyfweld unigolyn y maent yn ei amau o gyflawni trosedd dan Ddeddf Cyfathrebu 2003. Bydd cofnod o gyfweliad yn cael ei gynnig i'w arwyddo gan yr unigolyn a holwyd i gadarnhau bod y cofnod yn gyfrif cywir o'r cyfweliad.

Wrth gynnal cyfweliad rhaid i swyddogion ymholi ddal sylw ar Godau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (‘Codau PACE’) neu gyfraith trosedd yr Alban (gan ddibynnu ar ble mae'r cyfeiriad). Mae hyn yn golygu bod dyletswydd ar swyddogion ymholi i roi rhybuddiad i'r unigolyn dan sylw o'u hawliau cyfreithiol cyn eu cyfweld.

Beth yw eich rheolau ymddygiad ar gyfer swyddogion ymholiadau?

Mae rheolau ymddygiad yn gofyn i swyddogion ymchwilio:

  • Brofi eu hunaniaeth, fod yn gwrtais ac esbonio pam eu bod yn ymweld
  • Dod i mewn i’r adeilad gyda chaniatâd yn unig
  • Gadael yr eiddo os gofynnir iddynt wneud
  • Cymryd datganiad, os oes angen, wedi ei lofnodi gan y cyfwelai, gan sicrhau bod y cyfwelai yn ymwybodol o oblygiadau’r datganiad
  • Peidio â bygwth na dychryn.
Sut ydw i'n gwybod os yw rhywun yn swyddog ymchwilio dilys?

Mae pob swyddog ymchwilio yn cario cerdyn adnabod gyda logo Trwyddedu Teledu sy’n dangos ei enw, llun, swydd, rhif adnabod unigryw a dyddiad dod i ben y cerdyn. Bydd y swyddog ymchwilio yn darparu rhif ffôn ar gais er mwyn i bobl allu gwirio ei hunaniaeth gyda Thrwyddedu Teledu.

A yw swyddogion ymchwilio yn derbyn hyfforddiant cydraddoldeb fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth cydraddoldeb?

Ydy. Rhaid i’r holl swyddogion ymchwilio a gyflogir gan Capita Business Services Ltd gyflawni hyfforddiant o fewn 12 mis cyntaf eu cyflogaeth.

A fydd swyddogion ymchwilio yn cyflawni ymweliadau ar ddydd Sul? Ar ba adeg o’r dydd fydd swyddogion ymchwilio yn ymweld â chartrefi?

Ar hyn o bryd mae swyddogion ymchwilio yn ymweld â chyfeiriadau ar ddydd Sul. Mae’r amser o’r dydd pan fydd swyddogion ymchwilio yn ymweld â chartrefi wedi ei eithrio o’i ddatgelu dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sawl cwyn ydych chi wedi ei derbyn am swyddogion ymchwilio’n ymweld?

Yn 2014/15 fe dderbyniom 1,339 o gwynion am ymweliadau gan swyddogion ymchwilio. I roi hyn yn ei gyd-destun, cyflawnwyd 3.9 miliwn o ymweliadau yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r tabl isod yn amlinellu nifer y cwynion am swyddogion ymchwilio yn gwneud ymweliadau yn ystod y 7 blynedd ariannol ddiwethaf.

Blwyddyn Nifer y Cwynion
2013/14 1,099
2012/13 1,013
2011/12 696
2010/11 404
2009/10 522
2008/09 292
2007/08 537
2006/07 275
Faint o ymweliadau gan swyddogion ymchwilio sydd wedi arwain at ddim camau pellach?

Nid oes unrhyw ymweliadau a fyddai’n arwain at ‘ddim camau pellach’. Mae canlyniadau yn cynnwys y canlynol:

  • Cadarnhad nad oes derbynnydd teledu yn yr eiddo, ac felly ni fydd Trwyddedu Teledu yn cysylltu â’r eiddo am ddwy flynedd ar gyfer cyfeiriad domestig a thair blynedd ar gyfer cyfeiriad busnes.
  • Aros ar y rhestr o eiddo ar gyfer ail ymweliad.
  • Gosod yr eiddo ar gyfer datgeliad am warant chwilio.
  • Erlyniad.
Faint o swyddogion ymchwilio sydd gennych yn gweithio yn lleoliad X?

Cafodd yr wybodaeth hon ei heithrio rhag datgeliad dan adran 43(31)y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Datgeliad

Pam ydych chi’n defnyddio faniau datgeliad? Pa mor effeithiol ydyn nhw o ran nodi osgowyr o gymharu â dulliau datgelu eraill?

Fel yr awdurdod cyhoeddus cyfrifol am drwyddedu teledu, rhaid i’r BBC sicrhau fod mentrau casglu a gorfodi yn effeithiol ac effeithlon, ac mae defnyddio faniau datgeliad yn rhan ganolog o’r broses hon. Mae gan y BBC ddyletswydd i sicrhau fod y rhai nad ydynt yn cyflawni eu goblygiadau i gael trwydded briodol yn cael eu dal. Mae canfod yn cael ei defnyddio pan mae ddulliau gorfodi cost-effeithiol effeithiol eraill wedi methu.

A yw faniau datgeliad yn bodoli?

Ydy. Llywodraethir defnydd o faniau datgeliad gan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a’r Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig) 2001. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn sefydlu sut ddylid defnyddio pwerau ymchwilio, mewn cydymffurfiad â hawliau dynol, gan y BBC. Mae’r ddeddfwriaeth ar gael ar-lein ar www.legislation.gov.uk.

Pa gyfraith sy’n awdurdodi’r BBC i ddefnyddio offer datgeliad?

Gall y BBC, dan amgylchiadau penodol, awdurdodi defnydd cyfreithlon o offer gwyliadwriaeth dan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (“RIPA”) a’r Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig) 2001 (“y Gorchymyn RIPA”) i ddatgelu defnydd didrwydded o dderbynyddion teledu. Mae’r ddeddfwriaeth ar gael yma.

Pa brosesau mae’r BBC yn eu dilyn wrth awdurdodi defnydd o offer datgelu?

Mae offer datgelu yn rhan o strategaeth atal osgoi Trwyddedu Teledu. Mae grym y BBC i ganiatáu awdurdodiadau wedi ei gynnwys yn adran 27(A) RIPA a’r Gorchymyn RIPA. Yr unigolion sy’n gallu awdurdodi defnydd o offer datgeliad i ddibenion adran 27A yw’r pennaeth gwerthiant neu bennaeth marchnata yn Nhîm Rheoli Trwyddedu Teledu y BBC ac unrhyw unigolyn sydd â swydd yn y Tîm sy’n uwch na’r swyddi hyn. Yn ymarferol mae'r pennaeth rheoli cyllid, pennaeth marchnata a phennaeth cyfathrebu a pholisi yn ymgymryd â'r swyddogaeth hon.

Mae’r Gorchymyn RIPA yn rhagnodi materion y mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodi eu hystyried wrth asesu cais. Rhaid i’r swyddog awdurdodi fod yn fodlon fod hyn yn angenrheidiol, ac yn gymesur dan amgylchiadau’r achos penodol, i atal neu ddatgelu troseddau penodol dan adran 1 Deddf Telegraffiaeth Radio 1949 ar gyfer asesu neu gasglu symiau sy’n daladwy parthed Trwyddedau Teledu.

Faint o geisiadau am awdurdodiad i ddefnyddio offer datgelu a wnaethpwyd, ac ar gyfer pa fath o offer? Faint o geisiadau a ganiatawyd neu a wrthodwyd? Ar gyfer yr awdurdodiadau hyn a ganiatawyd gan y BBC, beth oedd y canlyniad?

Mae’r wybodaeth a geisiwyd yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sut mae defnydd pwerau'r BBC o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 ('RIPA') yn cael ei graffu?

O ran ei bwerau o dan RIPA, mae'r BBC yn ddarostyngedig i arolygiaeth annibynnol o Swyddfa'r Comisiynwyr Ar-wylio ('y SCG'). Rhaid i'r BBC fodloni'r SCG bod unrhyw ddefnydd o offer canfod yn gyfreithlon. Mae'r BBC hefyd yn cynnal archwiliad mewnol bob yn ail flwyddyn o gofnodion sy'n ymwneud â'r defnydd o RIPA. Ar ben hynny, mae gan Trwyddedu Teledu gynllun sicrwydd cynhwysfawr mewn lle i sicrhau bod y gwaith cynnal a chadw parhaus o safonau o amgylch cymhwyso ei bolisi a phrosesau o ran y defnydd o RIPA.

Faint o bobl sydd wedi eu cael yn euog o beidio cael Trwydded Deledu ddilys yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd yn defnyddio offer datgelu?

Mae’r wybodaeth a geisiwyd yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Faint o faniau datgelu a dyfeisiau datgelu eraill sydd gan y BBC?
Pa mor aml fydd faniau datgelu a dyfeisiau datgelu eraill yn cael eu defnyddio?
Beth yw manylebau technegol y faniau datgelu a'r dyfeisiau datgelu?
Pa wybodaeth sydd gan y BBC o ran defnydd ac effeithlonrwydd faniau datgelu a dyfeisiau datgelu?
Faint o weithiau, ac ar ba ddyddiadau, mae faniau datgelu teledu wedi monitro lleoliad X, yn y pum mlynedd ddiwethaf?

Mae’r wybodaeth a geisiwyd yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Roedd rhywfaint o’r wybodaeth a eithriwyd dan adran 31 hefyd wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 42 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan ei bod yn gyngor cyfreithiol sydd wedi ei ddiogelu dan fraint broffesiynol gyfreithiol. Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniadau’r ICO ar gael yma:

Hysbysiad Penderfyniad FS50154106, 16 Hydref 2008
Hysbysiad Penderfyniad FS50137475, 19 Mai 2008

Faint mae’n ei gostio i ddefnyddio offer datgeliad, yn cynnwys costau staff?

Mae’r siart Costau Casglu Trwyddedu Teledu yn yr adran Gwybodaeth Ariannol yn rhoi dadansoddiad o gostau llinell uchaf Trwyddedu Teledu ac yn eitemeiddio costau casglu (yn cynnwys canolfannau galwadau, gweithlu maes, datgeliad a gwasanaethau dros y cownter).

Mae gwybodaeth fanwl am gost defnyddio offer datgelu wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sut mae offer datgeliad yn gweithio?

Mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio amrediad o offer datgelu fel rhan o’i strategaeth atal osgoi. Mae’n cynnwys faniau datgeliad a datguddwyr llaw.

Mae offer datgelu yn cymryd cyn lleied ag 20 eiliad i weithio a gall wahaniaethu rhwng dwy set deledu yn agos i’w gilydd ar y naill ochr a'r llall i wal gydrannol. Gall yr offer datgelu weithredu o hyd at 60m i ffwrdd.

Dim ond mewn cyfeiriadau sydd heb Drwydded Teledu y defnyddir y faniau.

Mae gwybodaeth fwy penodol am sut mae offer datgelu’n gweithio, yn cynnwys ei effeithlonrwydd a manylebau technegol, wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniadau’r ICO ar gael yma:

Hysbysiad Penderfyniad FS50154106, 16 Hydref 2008

Hysbysiad Penderfyniad FS50137475, 19 Mai 2008

Hysbysiad Penderfyniad FS50476136, 25 Mawrth 2013

Pa mor effeithiol yw canfod yn adnabod rhai sy'n osgoi talu o'u cymharu â dulliau canfod eraill?

Nid oes gennym wybodaeth yn cymharu faniau datgeliad â dulliau gwrth osgoi eraill oherwydd nid oes angen i ni wneud y gymhariaeth hon. Dim ond os na fydd pobl yn ymateb i bostiadau neu ymweliadau gan swyddog ymchwilio y defnyddir faniau datgeliad.

I roi cefndir, mae faniau datgeliad yn rhan o gyfres o offer, a grynhoir isod, a ddefnyddir gan Drwyddedu Teledu i ganfod osgoi.

  • Mae cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn allweddol i weithrediad Trwyddedu Teledu. Mae hyn yn rhestru’r holl gyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig sydd â Thrwydded Deledu ddilys, yn ogystal â’r cyfeiriadau hynny nad oes ganddynt.
  • Yn ôl y gyfraith, rhaid i fasnachwyr setiau teledu hysbysu Trwyddedu Teledu bob tro y byddant yn gwerthu neu rentu setiau teledu. Pan dderbynnir hysbysiad gan fasnachwr, mae Trwyddedu Teledu yn gwirio ei gofnodion i weld a ddelir Trwydded Deledu dan enw a chyfeiriad y sawl sy’n prynu. Os na ddelir un, anfonir llythyr at y prynwr i’w atgoffa i brynu Trwydded Deledu.
  • Ar gyfer y cyfeiriadau hynny lle nad oes gennym gofnod o Drwydded Deledu a dim gwybodaeth ddiweddar ynghylch a oes angen Trwydded, anfonir llythyr at y deiliad ynglyn â’r sefyllfa. Nid yw nifer o dderbynwyr yn sylweddoli nad oes ganddynt drwydded, neu efallai y bydd ganddynt drwydded ar gyfer cyfeiriad blaenorol, tra bydd eraill ddim yn defnyddio teledu neu efallai eu bod yn osgoi talu ar bwrpas. Pan na fydd deiliad ar gyfer cyfeiriad, rhoddir ataliad dros dro rhag anfon ymholiadau nes bydd y cyfeiriad wedi ei feddiannu. Bydd y rhai nad ydynt yn prynu Trwydded neu nad ydynt yn ateb yn dal i dderbyn llythyrau ymholiad. Bydd ymholiadau yn arwain at ymweliad gan swyddog ymholiadau.
  • Os na fydd ymweliad yn llwyddiannus, gellir defnyddio offer datgeliad yn y cyfeiriad.

Mewn achosion eithriadol, gallai Trwyddedu Teledu ystyried gwneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio ar gyfer yr eiddo. Dim ond os oes rheswm da dros gredu fod set deledu yn cael ei defnyddio heb drwydded a bod ymholiadau eraill wedi eu rhwystro fydd hyn yn digwydd.

Pa hyfforddiant ydych chi’n ei ddarparu i staff sy’n defnyddio offer datgeliad?

Mae’n ofynnol i unrhyw aelod staff sydd wedi ei awdurdodi i weithredu offer datgeliad fynychu a chwblhau hyfforddiant yn llwyddiannus sy’n cwmpasu’r agweddau gweithredol a chyfreithiol o ddefnyddio’r offer hwn. Rhaid iddynt basio asesiad ymarferol cyn y gallant weithredu offer datgeliad heb oruchwyliaeth. Darperir hyfforddiant gloywi bob 18 mis. Darperir hyfforddiant pellach ar sail ad-hoc pan nodir angen neu pan fydd newidiadau mewn gweithdrefnau/offer. Darperir yr hyfforddiant hwn yn fewnol gan Capita.

Pa mor aml mae’r offer yn cael ei brofi, gan bwy a beth yw’r gost?

Bydd offer datgelu yn cael ei brofi’n ddyddiol, cyn ei ddefnyddio. Anfonir offer datgeliad mewn faniau at y gwneuthurwr i gael ei brofi pob 12 mis. Nid ydym yn cadw gwybodaeth ar gostau penodol y profion hyn. Mae’r costau hyn yn cael eu cynnwys yn y taliad cyffredinol gan y BBC i’r cwmnïau a gontractir i weinyddu a gorfodi’r system Trwyddedu Teledu.

Pa batentau sydd gennych ar dechnoleg a ddefnyddir mewn faniau datgeliad?

Nid oes gennym gopïau o batentau ar y dechnoleg a ddefnyddir mewn datgeliad.

A ydych chi wedi defnyddio offer datgeliad yn fy nghyfeiriad i?

Mae’r wybodaeth a geisiwyd yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 40(1) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan ei bod yn wybodaeth bersonol.

Wrth ofyn am wybodaeth amdanoch chi’ch hun, bydd angen i chi wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth dan y Ddeddf Diogelu Data 1998. Rhaid i chi roi’r wybodaeth a geisiwn yn rhesymol i ni i leoli’r wybodaeth bersonol benodol yr ydych yn ei cheisio a thalu ffi o £10.

Sylwer fod eithriadau dan y Ddeddf Diogelu Data yn berthnasol i Geisiadau Gwrthrych am Wybodaeth. Wrth benderfynu a ydym am roi gwybodaeth i chi, bydd y BBC yn ystyried a fyddai datgelu’r wybodaeth a geisir yn peryglu ei allu i atal a chanfod trosedd neu i arestio neu erlyn troseddwyr parthed trwyddedu teledu.

A yw’n ddiogel defnyddio offer datgelu ymysg y cyhoedd? Pa asesiadau iechyd a diogelwch ydych chi wedi eu cyflawni ar y dyfeisiau hyn?

O safbwynt technegol, mae’r offer datgelu a ddefnyddir gan Drwyddedu Teledu, p’un a yw hynny’n offer llaw neu mewn cerbyd, yn debyg i offer gwyliadwriaeth arall. Nid oes unrhyw risg gynyddol i’r cyhoedd o bresenoldeb dyfeisiau o’r fath. Felly ni chedwir unrhyw wybodaeth gan y BBC ar asesiadau iechyd a diogelwch o’r fath.

Gwarantau chwilio

Dan ba amgylchiadau mae Trwyddedu Teledu yn gwneud cais am warant chwilio i chwilio eiddo a amheuir o ddefnyddio offer derbyn teledu heb Drwydded Deledu ddilys?

Dim ond os oes rheswm da i gredu y cyflawnwyd trosedd, ei bod yn debygol y gellir sicrhau tystiolaeth o gyflawni’r drosedd honno, a bod amodau parthed mynediad i’r eiddo yn gwarantu cyhoeddi gwarant chwilio y gellir gwneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio.

Dim ond mewn achosion lle mae’r dystiolaeth yn golygu ei bod yn debygol y bydd set deledu yn cael ei defnyddio y gwneir cais am warantau chwilio. Mae Trwyddedu Teledu yn agored parthed ei bolisi mai dim ond fel mesur pan fetho popeth arall y bydd yn gwneud cais am warant chwilio. Ystyrir ceisiadau am warant chwilio yn ofalus cyn eu cyflwyno. Fel mater o gyfraith, ni ellir cyhoeddi gwarant chwilio oni bai fod sail resymol dros y cais.

Beth sy’n digwydd pan fydd Trwyddedu Teledu yn gweithredu gwarant chwilio?

Rydym yn gweithredu gwarantau chwilio ym mhresenoldeb swyddogion yr heddlu. Ein polisi yw na fydd Swyddogion Ymchwilio yn gorfodi mynediad i gyfeiriad os nad yw’r deiliad yn bresennol yn yr eiddo. Yn hytrach, byddem yn dychwelyd eto dro arall. Fodd bynnag, rydym yn nodi y gall swyddogion yr heddlu sy’n bresennol orfodi mynediad os pennir fod angen gwneud hynny.

Sawl cais am warantau chwilio a wnaethpwyd gan Drwyddedu Teledu, i ba lysoedd, a faint a gyhoeddwyd?

Cafodd yr wybodaeth hon ei heithrio rhag datgeliad dan adran 43(31)y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 parthed nifer y gwarantau chwilio a gyhoeddwyd wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniad yr ICO ar gael yma:

Hysbysiad Penderfyniad FS50476136, 25 Mawrth 2013

Beth yw polisi Trwyddedu Teledu ar warantau chwilio?

Ein polisi parthed warantau chwilio yw:

  • sicrhau tystiolaeth ddigonol o drosedd i gyfiawnhau gwneud cais am warant chwilio (fel mesur pan fetho popeth arall mewn achosion ble disbyddwyd opsiynau eraill)
  • gwneud cais am warant chwilio lle gellir sicrhau tystiolaeth ddigonol
  • sicrhau fod gwarantau chwilio yn cael eu gweithredu gyda pharch tuag at bobl ac eiddo ac yn unol â chyfarwyddiadau’r llys.

Mae’r BBC yn contractio Capita Business Services Ltd i gyflawni gweithgareddau gorfodi trwyddedu teledu, gan gynnwys ymgeisio am a gweithredu gwarantau chwilio. Dim ond yn ôl doethineb ynad (neu siryf yn yr Alban) y cyhoeddir gwarant chwilio, yn unol â gofynion cyfreithlon caeth.

Pa gyfraith sy’n awdurdodi Trwyddedu Teledu i ymgeisio am warantau chwilio?

Awdurdodir ceisiadau ar gyfer a gweithrediad gwarantau chwilio dan adran 366 Deddf Cyfathrebiadau 2003.

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn rhoi dyletswydd i’r BBC gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Rhaid i’r BBC sicrhau ei fod yn bodloni ei gyfrifoldeb i’r mwyafrif helaeth o gartrefi sy’n talu eu ffi drwyddedu, trwy orfodi’r gyfraith parthed y rhai hynny sy’n osgoi ei dalu’n fwriadol.

Dim ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny dan warant chwilio a roddwyd gan ynad (neu siryf yn yr Alban) y gall Trwyddedu Teledu ddod i mewn i’ch cartref heb eich caniatâd.

Gallai Trwyddedu Teledu hefyd wneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio. Fodd bynnag, dim ond fel mesur pan fetho popeth arall fydd hyn yn digwydd, ac os yw uwch reolwr a chynghorydd cyfreithiol yn ystyried fod yna reswm da dros gredu y cyflawnwyd trosedd.

Mae gan ynad (neu siryf yn yr Alban) ddisgresiwn i gyhoeddi gwarant chwilio ar gyfer unigolion awdurdodedig i chwilio eiddo a amheuir o weithgaredd anghyfreithiol parthed trwyddedu teledu. Mae atal unigolyn sy’n gweithredu dan warant (gweler adran 366(8) y Ddeddf Cyfathrebiadau 2003) ar bwrpas yn drosedd. Bydd yr heddlu yn dod gyda Thrwyddedu Teledu wrth weithredu gwarant chwilio.

 

Erlyniadau

A ydych chi’n erlyn pobl am beidio cael Trwydded Deledu ddilys?

Ydym. Bydd Trwyddedu Teledu yn erlyn os yw er lles y cyhoedd ac os oes tystiolaeth ddigonol i wneud hynny. Mae unrhyw unigolyn mewn perygl o erlyniad os yw’n gwylio neu recordio rhaglenni a ddarlledir ar y teledu heb Drwydded Deledu.

Beth yw datganiad erlyniad?

Mae datganiad erlyniad yn gofnod o gyfweliad a gynhelir dan rybudd, a gyflawnir gan swyddogion ymholiadau Trwyddedu Teledu os ydynt yn amau y cyflawnwyd trosedd dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

Wrth gymryd datganiadau, rhaid i swyddogion ymchwilio fodloni Codau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (‘Codau PACE’) neu gyfraith droseddol yr Alban (yn ddibynnol ar ymhle mae’r cyfeiriad). Mae hyn yn golygu fod gan swyddogion ymchwilio ddyletswydd i roi rhybudd i’r unigolyn dan sylw o’i hawliau cyfreithiol cyn cymryd datganiad os yw’r unigolyn yn dal eisiau rhoi datganiad. Nid yw’r rhan fwyaf o’r Codau PACE yn berthnasol i swyddogion ymchwilio gan nad oes ganddynt y pwer i arestio na chadw pobl, mynd i mewn i eiddo nac atafaelu eiddo. Dim ond o ran y ddyletswydd iddynt roi rhybudd y mae’r Codau PACE yn berthnasol i swyddogion ymchwilio.

Faint o osgowyr y ffi drwyddedu a erlynir ac a geir yn euog o beidio cael Trwydded Deledu ddilys?

Nid yw’r BBC yn cadw ystadegau swyddogol am yr union nifer o bobl a erlynir am osgoi talu’r Ffi Trwyddedu Teledu. Ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r ffigurau hyn yn cael eu casglu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (“MOJ”) a llysoedd ynadon unigol a gellir gofyn amdanynt gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol - Data Access and Compliance Unit, Postal Point 6.25, Floor 6, 102 Petty France, Llundain, SW1H 9AJ.

Fodd bynnag, mae rhai ystadegau MOJ wedi eu cyhoeddi ar-lein a gellir eu darllen ar y tudalennau canlynol:
www.publications.parliament.uk/pa/cm200910/cmhansrd/cm100330/text/100330w0058.htm#10033134011432
www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/311455/cjs-outcomes-by-offence-2009-2013.xls(Cliciwch 'Trosedd' ar y ddewislen gollwng i lawr a mynd i lawr i rif 191 i weld y ffigurau perthnasol).

Ar gyfer yr Alban, mae’r ffigurau ar gael gan Swyddfa’r Goron yn yr Alban a gellir gofyn amdanynt yn y cyfeiriad canlynol: Criminal Justice and Disclosure Team, Crown Office, 25 Chambers Street, Caeredin, EH1 1LA.

Er bod y BBC yn cadw ystadegau anffurfiol am ffigurau erlyniad ac euogfarnu ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r wybodaeth hon yn ddangosol yn unig ac nid yw wedi ei gwirio yn erbyn ffigurau swyddogol.

A ydynt yn cael eu dirwyo? Faint o bobl sy’n talu eu dirwyon mewn gwirionedd?

Mae dirwy yn fater i’r llys yn unig ei orfodi a'i chasglu, nid Trwyddedu Teledu. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a phob llys ynadon lle cynhelir yr achosion yn cadw’r ystadegau swyddogol am nifer yr euogfarnau a'r dirwyon a osodir ac a gesglir. Cysylltwch â nhw ynglyn â’r wybodaeth hon. Mae gwybodaeth am leoliadau’r llysoedd ynadon lle cynhelir yr achosion hefyd ar gael gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Faint o bobl sy’n cael eu carcharu am osgoi talu’r ffi drwyddedu?

Ni ellir dedfrydu rhywun i garchar os y’i ceir yn euog o drosedd dan adran 363 Deddf Cyfathrebiadau 2003. Uchafswm y gosb am beidio cael Trwydded Deledu ddilys yw dirwy o £1000 (neu £2000 yn Guernsey a £500 Jersey). Gall y llys hefyd orchymyn yr unigolyn a gafwyd yn euog i dalu costau Trwyddedu Teledu yn yr achos. Fodd bynnag, gall y llys garcharu unigolyn am beidio â thalu dirwy’r llys.

A fyddech yn erlyn rhywun mewn cyfeiriad sy’n defnyddio offer derbyn teledu heb Drwydded Deledu ddilys os nad yw’r unigolyn hwnnw yn byw yno?

Cyflawnir gweithgareddau Trwyddedu Teledu yn unol â pholisïau a chanllawiau penodol, sy’n sefydlu’r meini prawf ar gyfer erlyn osgowyr. Un o’r meini prawf hyn yw bod yn rhaid i unigolyn sy’n cael ei gyhuddo o drosedd Trwyddedu Teledu fod yn oedolyn sy’n byw yn y cyfeiriad, neu’n landlord neu'n unigolyn cyfrifol am drwyddedu derbynnydd teledu yn yr eiddo. Er enghraifft, ni fyddai ymwelydd neu warchodwr dilys yn yr eiddo yn cael ei erlyn.

Beth sy’n digwydd i’r arian a gesglir o ddirwyon a delir gan unigolion a ddyfarnir yn euog o osgoi’r ffi drwyddedu?

Gall y llys godi dirwy o hyd at £1000 (neu £2000 yn Guernsey a £500 yn Jersey) ar unigolyn a geir yn euog o drosedd dan adran 363 Deddf Cyfathrebiadau 2003. Mae dirwyon yn fater i’r llys yn unig eu codi a'u casglu a'u gwaredu, nid y BBC na Thrwyddedu Teledu.

Faint ydych chi’n ei wario ar erlyn pobl a gyhuddwyd o beidio cael Trwydded Deledu ddilys?

Cyflawnir gweithgaredd gorfodi gan Capita Business Services Ltd yn defnyddio nod masnach “Trwyddedu Teledu” y BBC ar ran y BBC. Nid yw’r BBC yn cadw gwybodaeth parthed costau Capita ar gyfer y gwaith hwn, gan gynnwys costau sy’n gysylltiedig ag erlyniadau, ac nid yw Capita yn ei chadw ar ran y BBC. Felly ni allwn ddarparu’r wybodaeth hon.

Fodd bynnag, mae siart yn dangos costau casglu Trwyddedau Teledu ar gael yn yr adran Gwybodaeth Ariannol.